Cynnal a chadw ac atgyweirio llwybrau neu wynebau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal a chadw ac atgyweirio llwybrau neu wynebau.
Mae cynnal a chadw ac atgyweirio yn cynnwys trin chwyn, sicrhau wynebau gwastad a diogel, clirio a glanhau, ac atgyweirio deunydd wedi'i niweidio.
Os ydych yn gweithio gyda chemegion neu beiriannau bydd angen i chi fod wedi cael hyfforddiant priodol neu wedi eich ardystio yn unol â deddfwriaeth bresennol.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal a chadw ac yn atgyweirio llwybrau a wynebau.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwneud eich gwaith i gyd yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg a pholisïau'r cwmni
gwneud eich gwaith i gyd yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
asesu'r safle cyn gweithredu i egluro gofynion cynnal a chadw
dewis, paratoi a defnyddio cyfarpar a pheiriannau i wneud y gwaith cynnal a chadw gofynnol
dewis deunyddiau i fodloni'r manylebau
- paratoi'r safle a gwneud y gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos
- adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith
- trin a chludo deunyddiau a chyfarpar yn unol â rheoliadau
- sicrhau nad yw defnyddwyr eraill y safle'n cael eu rhoi mewn perygl gan eich gwaith
- ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cwblhau cofnodion fel sy'n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
- pwysigrwydd archwilio'r safle cyn dechrau'r gwaith o ran peryglon, asesu risg a chyfyngiadau posibl
- y cyfyngiadau sy'n effeithio ar y gwaith e.e. presenoldeb strwuthurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid, ymledol neu wedi'u diogelu ac ati
- y peryglon a gyflwynir gan wasanaethau ar y safle a sut i osgoi'r rhain
- y technegau cynnal a chadw sy'n ofynnol ar gyfer cynnal a chadw llwybrau neu wynebau
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a pheiriannau sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
- dulliau addas ar gyfer paratoi'r safle
- pam mae'n rhaid cynnal a chadw ac atgyweirio llwybrau a wynebau a'r problemau posibl os nad yw hyn yn cael ei wneud
- diben y llwybr neu'r wyneb a sut mae hyn yn berthnasol i'r manylebau a'r gweithrediadau
- effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
- problemau a allai ddigwydd yn ystod y gweithrediadau a sut dylid ymdrin â'r rhain
- pam y mae'n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus yn ystod y gweithrediadau ac adfer y safle ar ôl cwblhau'r gwaith
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai llwybrau a wynebau gynnwys traciau lludw, llwybrau rhisgl, llorlech, ardaloedd sefyll, llwybrau graean, llwybrau cerrig a llwybrau bordiau.
Mae'r manylebau yn cynnwys darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP), canllawiau'r cynhyrchydd, deddfwriaeth a goddefiannau.
Gall y cyfarwyddiadau fod yn rhai llafar neu ysgrifenedig