Adeiladu llwybrau neu wynebau

URN: LANCS16
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys adeiladu llwybrau neu wynebau.

Caiff adeiladu ei ddiffinio fel creu llwybr neu wyneb newydd, neu adnewyddu llwybr neu wyneb newydd.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau bydd angen i chi fod wedi cael hyfforddiant priodol neu wedi eich ardystio yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn adeiladu llwybrau neu wynebau.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud eich holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthynasol, â'r gofynion asesu risg a pholisïau'r cwmni
  2. asesu'r safle cyn gweithredu i nodi unrhyw gyfyngiadau i'r gwaith a gynlluniwyd
  3. dewis, paratoi a defnyddio offer a pheiriannau yn unol â'r manylebau
  4. dewis deunyddiau i fodloni'r manylebau
  5. paratoi'r safle yn unol â'r manylebau
  6. adeiladu llwybrau neu wynebau yn unol â'r manylebau
  7. darparu sylfeini a draeniad yn unol â'r manylebau lle bo angen
  8. gwneud gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos
  9. sicrhau nad yw defnyddwyr eraill y safle yn cael eu rhoi mewn perygl gan eich gwaith chi
  10. sicrhau bod ymddygiad a chyflwr y llwybr neu'r wyneb yn bodloni'r manylebau

  11. trin a chludo deunyddiau ac offer yn unol â'r rheoliadau

  12. ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau

  13. adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch presennol, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni
  2. pwysigrwydd archwilio'r safle cyn dechrau'r gwaith o ran peryglon, asesu risg a chyfyngiadau posibl
  3. y cyfyngiadau sy'n effeithio ar y gwaith e.e. presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid, ymledol neu wedi'u diogelu ac ati
  4. y peryglon y mae'r gwasanaethau ar y safle yn eu cyflwyno a sut i osgoi'r rhain
  5. sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n berthnasol i'r manylebau y cytunwyd arnynt
  6. y dulliau addas ar gyfer paratoi'r safle
  7. y dulliau adeiladu ar gyfer mathau gwahanol o lwybrau neu wynebau
  8. diben y llwybr neu'r wyneb

  9. manteision ac anfanteision cymharol y mathau gwahanol o wyneb neu lwybr a'r sefyllfaoedd lle maent yn briodol

  10. y mathau o sylfeini sydd eu hangen
  11. egwyddorion draenio ar gyfer llwybrau neu wynebau a sut i sicrhau ei effeithiolrwydd

  12. rhinweddau'r cynnyrch gorffenedig sy'n ei wneud yn addas at y diben

  13. effaith bosibl eich gwaith ar yr ardal gyfagos a sut i leihau hyn
  14. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  15. pam y mae'n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus wrth weithredu ac i adfer y safle ar ôl cwblhau'r gwaith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai llwybrau a wynebau gynnwys traciau lludw, llwybrau rhisgl, llorlech, ardaloedd sefyll, llwybrau graean, llwybrau cerrig a llwybrau bordiau.

Mae'r manylebau yn cynnwys darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP), canllawiau'r cynhyrchydd, â'r ddeddfwriaeth a goddefiannau.

Gall y cyfarwyddiadau fod yn rhai llafar neu ysgrifenedig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU18; LANCU19; LANCU21; LANCU23

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn, Tirluniwr, Rhodiwr, Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Swyddog Mynediad, Rheolwr Gwirfoddolwyr

Cod SOC

2141

Geiriau Allweddol

Palmant; arwyneb solet; rhisgl; graean; llwybr; llorlech; graean; palmant cerrig; llwybr bordiau