Creu a chynnal a chadw isadeiledd ac asedau safle
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i greu a chynnal a chadw isadeiledd ac asedau safle, ynghyd â’r gofynion a’r cyfrifoldebau craidd.
Gallai gweithgareddau gynnwys creu a chynnal a chadw rhai neu’r cyfan o’r canlynol:
• ffiniau safle
• strwythurau
• arwynebau
• dodrefn safle
• draenio
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall a bywyd gwyllt a chynefinoedd i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau neu gemegion, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol, eich bod yn gymwys i gyflawni’r gweithgaredd sy’n cael ei wneud, a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
- cael y wybodaeth berthnasol am y gofynion o ran cynnal a chadw, atgyweirio a gwella isadeiledd ac asedau’r safle yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod unrhyw ganiatâd i gyflawni’r gwaith yn eu lle a’ch bod yn bodloni unrhyw ofynion
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol, lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w wneud a chydnabod cyfyngiadau eich cymhwysedd eich hun
- cael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
- trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- gwneud y gwaith cynnal a chadw, atgyweirio a gwella gofynnol i’r safle yn ddiogel ac yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
- nodi’r angen am waith pellach, ei gofnodi ac adrodd amdano yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gwneud gwaith glanhau yn ôl y safon sy’n ofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
- gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben a delio â nhw yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, gan gynnwys yr ecolegol, yr amgylchedd, yr isadeiledd a defnyddwyr eraill y safle, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
- rhoi agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd ar waith, sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldeb eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Adeiladu a chynnal a chadw ffiniau safle
- wrth adeiladu ffiniau neu fynedfeydd newydd, paratoi’r safle yn unol â’r math o ffin neu fynedfa a’r wybodaeth a ddarperir
- nodi llinell arfaethedig y ffin
- defnyddio deunyddiau a thechnegau priodol i adeiladu neu gynnal a chadw ffiniau neu fynedfeydd yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
Adeiladu a chynnal a chadw strwythurau
- wrth adeiladu strwythurau newydd, paratoi’r safle a darparu sylfeini addas yn unol â’r math o strwythur a’r wybodaeth a ddarperir
- defnyddio deunyddiau a thechnegau priodol i adeiladu neu gynnal a chadw strwythurau yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
Creu a chynnal a chadw arwynebau
- wrth greu arwynebau newydd, paratoi’r safle a darparu sylfeini a draenio addas yn unol â’r math o arwyneb a’r wybodaeth a ddarperir
- defnyddio deunyddiau a thechnegau priodol i greu neu gynnal a chadw arwynebau yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
Gosod a chynnal a chadw dodrefn y safle
- wrth osod dodrefn y safle, dewis y lle mwyaf priodol i osod yr eitem, yn unol ag amodau’r safle a’r wybodaeth a ddarperir
- defnyddio’r deunyddiau a’r technegau priodol i osod neu gynnal a chadw dodrefn y safle yn unol â’r wybodaeth a ddarperir a sicrhau bod yr eitem wedi’i sicrhau’n ddiogel a’i bod yn addas at ei diben
Gosod a chynnal a chadw draenio
- wrth greu neu ymestyn system ddraenio, lleoli neu osod marciau cyfeirio yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
- defnyddio deunyddiau a thechnegau priodol i osod a chynnal a chadw systemau draenio, delio â rhwystrau a gollyngiadau a sicrhau capasiti llawn yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
- delio â deunydd sydd wedi’i gloddio o waith draenio yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir a’r ddeddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- y caniatâd, fel caniatâd cynllunio, y gall fod ei angen cyn dechrau gweithio ac unrhyw ofynion o ran deunyddiau neu ddulliau gweithio
- pwysigrwydd monitro cyflwr isadeiledd ac asedau safle i nodi’r angen am gynnal a chadw, atgyweirio a gwelliant yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- sut i adnabod pan fydd isadeiledd ac asedau safle y tu hwnt i’w hatgyweirio a bod angen eu newid, a rhoi gwybod am hyn
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w wneud, a phwysigrwydd asesiad risg penodol i’r safle a mesurau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
- pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n cymryd rhan yn y gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu ddylai gael eu defnyddio
- sut i gael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i sicrhau bod deunyddiau ar gael, lle bo angen, a phan fo angen
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i ddewis, paratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
- pwysigrwydd mesurau hylendid a bioddiogelwch a sut i gymhwyso’r rhain
- pwysigrwydd glanhau fel rhan o waith cynnal a chadw a sut a phryd i wneud hyn
- defnyddio deunyddiau a chyfarpar glanhau yn ddiogel a’r gofynion cyfreithiol ar gyfer storio a defnyddio sylweddau peryglus
- defnyddio arwyddion rhybudd a rhwystrau yn gywir i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill wrth wneud y gwaith
- dulliau addas o baratoi’r safle cyn dechrau gwaith adeiladu, pwysigrwydd archwilio am wasanaethau tanddaearol a sut gall hyn gael ei wneud
- y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- pwysigrwydd atal llygredd a difrod i’r ardal gyfagos a’r amgylchedd ehangach wrth wneud y gwaith
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd
- y problemau a all godi wrth wneud gwaith cynnal a chadw, atgyweirio a gwella i isadeiledd ac asedau safle, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Adeiladu a chynnal a chadw ffiniau a mynedfeydd safle
- y gwahanol fathau o ddeunyddiau a ddefnyddir ar gyfer ffiniau a mynedfeydd a’r ffactorau sy’n effeithio ar ddewis y rhain, gan gynnwys eu diben, eu lleoliad, a yw’r deunyddiau ar gael a thraddodiadau lleol
- pwysigrwydd cadw at linellau ffiniau a sut gellir cyflawni hyn
- y rheoliadau a’r safonau perthnasol sy’n gysylltiedig ag adeiladu ffiniau neu fynedfeydd, gan gynnwys rheoliadau adeiladu
- y technegau sy’n ofynnol i adeiladu neu gynnal a chadw gwahanol fathau o ffiniau neu fynedfeydd
Adeiladu a chynnal a chadw strwythurau
- at ba ddiben y dyluniwyd strwythurau a sut mae hyn yn effeithio ar eu hadeiladu a’u cynnal a chadw
- y rheoliadau a’r safonau perthnasol yn gysylltiedig ag adeiladu ffiniau neu fynedfeydd, gan gynnwys rheoliadau adeiladu
- y deunyddiau a’r technegau sy’n ofynnol i adeiladu neu gynnal a chadw gwahanol fathau o strwythurau
Creu a chynnal a chadw arwynebau
- y gwahanol fathau o ddeunyddiau a ddefnyddir ar gyfer llwybrau ac arwynebau eraill a’r ffactorau sy’n effeithio ar ddewis y rhain, gan gynnwys eu diben, eu lleoliad a’u gwydnwch
- pam mae’n rhaid cynnal a chadw ac atgyweirio arwynebau a’r problemau posibl os na fydd hyn yn cael ei gyflawni
- y deunyddiau a’r technegau sy’n ofynnol i adeiladu neu gynnal a chadw gwahanol fathau o arwynebau
Gosod a chynnal a chadw dodrefn safle
- at ba ddiben y dyluniwyd dodrefn safle a ffactorau eraill sy’n dylanwadu ar eu gosodiad
- dulliau addas ar gyfer paratoi’r safle a gosod eitemau gwahanol o ddodrefn stryd yn ddiogel ac yn gadarn
- pam mae’n rhaid cynnal a chadw ac atgyweirio dodrefn stryd a’r problemau posibl os na fydd hyn yn cael ei gyflawni
- y deunyddiau a’r technegau gofynnol ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio eitemau gwahanol o ddodrefn stryd
Gosod a chynnal a chadw draenio
- y gwahanol fathau o systemau draenio a’r deunyddiau sydd ar gael ac egwyddorion dylunio draenio
- goblygiadau tirwedd, ansawdd a strwythur y pridd, y tymor, y tywydd a rhywogaethau planhigion wrth greu a chynnal a chadw systemau draenio
- y ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau llif mewn draeniau a phwysigrwydd bod systemau draenio yn gweithio’n effeithlon ac yn gywir
- pam mae’n bwysig lleoli neu osod marciau cyfeirio yn gywir wrth greu neu ymestyn systemau draenio, a sut gellir gwneud hyn
- y technegau a ddefnyddir i greu a chynnal a chadw systemau draenio a sicrhau eu capasiti llawn
- y dull gofynnol o waredu deunydd sydd wedi’i gloddio o waith draenio
Cwmpas/ystod
Gallai gweithgareddau gynnwys creu a chynnal a chadw:
• Ffiniau safle – e.e. waliau, ffensys, cloddiau; mynedfeydd fel giatiau, rhwystrau, camfeydd
• Strwythurau – e.e. twnelau polythen, corlannau, siediau, cytiau, stablau, adeiladau, cuddfannau, sgriniau, llwybrau pren uwch, deildai, platfformau pysgota, pontydd
• Arwynebau – e.e. yn cynnwys llwybrau troed, traciau, llwybrau ceffyl, meysydd parcio, cyrtiau, grisiau
• Dodrefn safle – e.e. arwyddion, byrddau arddangos, hysbysiadau, cyfeirbwyntiau, seddi, meinciau, byrddau, biniau, eitemau addurnol
• Draenio – e.e. ffosydd, cwlferi, pibellau
Manyleb draenio, yn cynnwys:
• llwybr
• proffil
• dyfnder
• gradd
• cyfradd y llif
• goddefgarwch y fanyleb
• gofynion amgylcheddol deddfwriaethol a sefydliadol
Gallai cynnal a chadw ac atgyweirio llwybrau ac arwynebau gynnwys:
• trin chwyn
• sicrhau arwynebau gwastad a diogel
• clirio a glanhau
• newid a thrwsio deunydd sydd wedi’i ddifrodi
• clirio eira a graeanu
Gallai llwybrau ac arwynebau gynnwys:
• traciau lludw
• traciau rhisgl
• llechfeini / cerrig palmant
• llwybrau agreg
• llwybrau carreg
• llwybrau byrddau pren
• tarmac
Mathau o ddeunydd a ddefnyddir ar gyfer systemau draenio:
• concrit
• clai
• plastig
• gwaith maen
• agreg
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
• lluniadau
• cynlluniau
• amserlenni
• manylebau
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
• cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
• gofynion y cwsmer
• gofynion sicrhau ansawdd
• safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
• cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
• canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.