Ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn y sector diwydiannau’r tir
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn y sector diwydiannau'r tir. Gallai hyn gynnwys tân, llifogydd, gollyngiadau, halogiad neu ddigwyddiadau amgylcheddol eraill (ar y tir neu yn y dŵr), lleoliadau troseddau, damweiniau neu argyfyngau meddygol, digwyddiadau iechyd a diogelwch a diogeledd.
Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un sydd yn gweithio yn y sector diwydiannau'r tir. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r gweithdrefnau sydd ar waith i ymdrin â digwyddiadau ac argyfyngau yn cynnwys beth i'w wneud, sut i ddefnyddio offer brys, sut i gysylltu â'r gwasanaethau brys a ffynonellau cymorth perthynasol eraill, a pha fanylion y dylid eu cofnodi a'u hadrodd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cymryd y camau gofynnol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad a'r cyfarwyddiadau o fewn eich cyfrifoldeb, eich awdurdod a'ch cymhwysedd, os bydd digwyddiad neu argyfwng
- lle bo angen, galw am gymorth gan y gwasanaethau brys perthynasol neu ffynonellau cymorth eraill, lle bo angen
- rhoi manylion llawn y digwyddiad neu'r argyfwng i'r gwasanaeth brys perthynasol neu bersonau cyfrifol eraill
rhoi cymorth i eraill sydd yn cynorthwyo gyda'r digwyddiad neu'r argyfwng
gwarchod uniondeb y dystiolaeth lle gallai fod ei hangen gan y gwasanaethau brys neu bartïon eraill e.e. cwmni yswiriant, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- cynnal eich diogelwch eich hun tra'n ymateb i ddigwyddiadau neu argyfyngau
- darparu gwybodaeth am y digwyddiad neu'r argyfwng a allai helpu i sefydlu'r achos a'i atal rhag digwydd eto
- cwblhau'r dogfennau gofynnol yn unol â'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthynasol a graddfeydd amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o ddigwyddiad neu argyfwng a allai ddigwydd yn eich gweithle
- y gweithdrefnau a'r cyfarwyddiadau penodol ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn eich gweithle, yn cynnwys gweithdrefnau gwacáu a chynlluniau wrth gefn
terfynau eich cyfrifoldeb, awdurdod a chymhwysedd i ymdrin â digwyddiadau ac argyfyngau
sut i gysylltu â'r gwasanaethau brys neu ffynonellau cymorth perthynasol eraill, a'r wybodaeth i'w rhoi iddynt
pa gamau y gallwch eu cymryd i gynorthwyo'r sefyllfa e.e. ynysu peiriannau, y defnydd o offer brys, gwacáu'r ardal
pwysigrwydd gwaith tîm mewn sefyllfa o argyfwng
- arferion diogel y gellid eu defnyddio wrth ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau
- y gofynion â'r ddeddfwriaethol a sefydliadol ar gyfer adrodd a chofnodi digwyddiadau ac argyfyngau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
ffynhonnell cymorth perthynasol: e.e. swyddog cymorth cyntaf, rheolwr, person iechyd a diogelwch, milfeddyg