Cynnal cyllidebau
URN: LANCS109
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal cyllidebau fel y gall perfformiad gael ei fonitro a’i reoli o fewn maes eich cyfrifoldeb.
Mae hyn yn cynnwys monitro perfformiad yn erbyn cyllidebau cytunedig, delio ag amrywiannau a datblygiadau annisgwyl, a gwneud diwygiadau i gyllidebau.
Mae’r safon hon i bobl sy’n rheoli cyllidebau ar gyfer maes eu cyfrifoldeb.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal cyllidebau cytunedig i fonitro a rheoli incwm a gwariant ym maes eich cyfrifoldeb
- monitro gwariant i sicrhau ei fod yn aros o fewn disgwyliadau’r gyllideb
- gweithredu i gywiro amrywiannau er mwyn cynnal gwariant o fewn paramedrau cytunedig
- trafod a chytuno ar ddiwygiadau i gyllidebau, lle bo angen, gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
- cyfleu unrhyw newidiadau i’r gyllideb i bersonél perthnasol
- darparu gwybodaeth reolaidd am berfformiad yn erbyn cyllidebau
- cofnodi a storio cofnodion cyllideb yn ddiogel, yn unol â deddfwriaeth diogelu data
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben cyllidebu
- y canllawiau a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro a chynnal cyllidebau
- y cyllidebau cytunedig ar gyfer maes eich cyfrifoldeb, sut gallant gael eu defnyddio a faint gellir ei newid o fewn eich cylch gwaith chi
- y canllawiau a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer monitro perfformiad yn erbyn cyllidebau ac adrodd arno
- sut i fonitro a rheoli perfformiad y gyllideb ar gyfer maes eich cyfrifoldeb
- prif achosion amrywiannau yn y gyllideb a sut i nodi’r rhain
- sut gall datblygiadau annisgwyl effeithio ar gyllidebau a sut i ddelio â’r rhain
- pwysigrwydd cytuno ar ddiwygiadau i gyllidebau, lle bo gofyn
- pwy i gyfleu newidiadau i’r gyllideb iddynt, a sut a phryd i wneud hyn
- pwysigrwydd darparu gwybodaeth reolaidd am berfformiad yn erbyn cyllidebau
- y mathau o weithgareddau twyllodrus, sut i’w nodi a phwy i gysylltu â nhw os oes amheuaeth o weithgarwch twyllodrus
- pwysigrwydd storio cofnodion cyllideb yn ddiogel a sut mae hyn yn cael ei wneud yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2029
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS109
Galwedigaethau Perthnasol
Coedyddiaeth a choedwigaeth
Cod SOC
1211
Geiriau Allweddol
cyllideb; monitro; rheoli