Paratoi ar gyfer sychder ac ymateb iddo

URN: LANCS108
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer cyfnodau o sychder ac ymateb iddynt.

Mae sychder yn digwydd pan fydd prinder glaw yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Mae’n debygol y bydd llai o ddŵr mewn afonydd, lefelau dŵr daear eithriadol o isel a lleithder annigonol yn y pridd. Yn aml, mae’r amodau hyn yn arwain at arwyddion o straen i fywyd gwyllt, pysgod a chynefinoedd, a phroblemau i amaeth a garddwriaeth.

Mae llawer o fusnesau tir yn defnyddio cyflenwadau dŵr preifat, a gall hyn achosi problemau ychwanegol.

Mae angen cymryd mesurau i ragweld a pharatoi ar gyfer sychder. Gallai’r rhain gynnwys lleihau defnydd, storio dŵr dros dro a sefydlu cyflenwadau ychwanegol dros dro.

Mae’r safon hon yn addas i ffermwyr, tyfwyr, pysgodfeydd a chadwraeth amgylcheddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu’r risg y bydd sychder yn digwydd yn y sector rydych chi’n gweithio ynddo, a’r effeithiau y byddai’n eu cael
  2. asesu’r angen am ddŵr a sut y gallai hwn gael ei ddarparu pan fydd sychder
  3. bod â chynlluniau ar waith i baratoi ar gyfer effeithiau sychder yn eich maes gwaith a lliniaru’r effeithiau
  4. gweithredu i leihau’r defnydd o ddŵr a’i ddiogelu
  5. monitro’r sefyllfa yn rheolaidd a gweithredu’n gynnar i gyfyngu ar ei heffeithiau
  6. gwneud cais am drwyddedau dŵr, lle bo’r angen
  7. rhoi gwybod i’ch sefydliad cyfrifol a cheisio cyngor ganddo

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae sychder yn effeithio ar y sector tir rydych chi’n gweithio ynddo
  2. y camau y gellir eu cymryd i baratoi ar gyfer effeithiau sychder yn eich sector a lliniaru’r effeithiau
  3. y sefydliadau a all gynnig help a chyngor ar sychder yn eich sector
  4. pwysigrwydd cynllunio i reoli effeithiau sychder
  5. y ffyrdd y gellir lleihau’r defnydd o ddŵr ac y gellir diogelu dŵr
  6. y ffyrdd y gall lefelau dŵr/cynnwys lleithder y pridd gael eu monitro
  7. pryd mae angen trwyddedau dŵr a sut i wneud cais amdanynt
  8. y sefydliad cyfrifol ar gyfer y sector rydych chi’n gweithio ynddo a sut i gysylltu â nhw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai camau gweithredu i liniaru effeithiau sychder gynnwys:
• Cysylltu â chwmni dŵr i ddarparu cyflenwad gwahanol ar gyfer da byw
• Sefydlu cyflenwadau dŵr ychwanegol dros dro
• Storio dŵr dros dro mewn tanciau
• Defnyddio pympiau
• Monitro lleoliad ac iechyd pysgod mewn pysgodfeydd
• Gwirio am ordyfiant algâu mewn pysgodfeydd
• Ocsigenu’r dŵr mewn pysgodfeydd
• Symud pysgod mewn pysgodfeydd
• Adleoli da byw
• Monitro ar gyfer risg tân gwyllt mewn ardaloedd bregus

Sefydliadau cyfrifol:
• DEFRA
• Asiantaeth yr Amgylchedd
• Cyfoeth Naturiol Cymru
• Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban SEPA
• Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon
• Cwmni dŵr

Gallai ffyrdd o leihau a diogelu dŵr gynnwys:
• Dal a storio dŵr
• Masnachu dŵr
• Lleihau anweddu
• Dewis mathau o gnydau yn ofalus
• Rheoli iechyd pridd
• Defnyddio tomwellt i gadw lleithder yn y pridd
• Defnyddio dyfrhau yn effeithlon e.e. dyfrhau trwy ddiferion neu ddyfrhau dros nos i leihau anweddu
• Cylchdroi cnydau/pori


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS108

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Cadwraeth Amgylcheddol, Rheolwr Pysgodfa, Garddwriaeth

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

sychder; dŵr