Ymateb i ddigwyddiadau difrod storm
URN: LANCS107
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Maw 2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu ac ymateb i ddigwyddiadau difrod storm yn eich maes gwaith ac mae’n cwmpasu pob math o ddifrod.
Mae’n rhaid i chi allu asesu’r potensial am ddifrod a rhoi cynlluniau a gweithdrefnau ar waith i ymateb i ddigwyddiadau difrod storm a’u rheoli. Rhaid i chi weithredu er mwyn cynnal diogelwch bob amser wrth ymateb i ddigwyddiadau.
Mae’r safon hon ar gyfer y bobl sy’n gyfrifol am baratoi ar gyfer digwyddiadau difrod storm ac ymateb iddynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r potensial i ddifrod storm ddigwydd ym maes eich cyfrifoldeb
- gweithredu mesurau i leihau effaith difrod storm, lle y bo’n bosibl, ac i wella diogelwch
- asesu diogelwch mewn ardaloedd bregus yn barhaus a chymryd camau i rybuddio pobl am beryglon digwyddiadau’n gysylltiedig â storm
- datblygu cynlluniau a gweithdrefnau i ymateb i ddifrod storm a’i reoli ym maes eich cyfrifoldeb a rhannu’r rhain gyda chydweithwyr
- os bydd digwyddiad yn gysylltiedig â storm, gwneud asesiad cychwynnol o’r difrod ac o ddiogelwch yr ardal
- atal gweithgareddau y gallai fod yn anniogel parhau â nhw
- hysbysu gwasanaethau brys, cwmnïau cyfleustodau a sefydliadau cyfrifol eraill, lle bo’r angen
- cofnodi’r difrod neu dynnu ffotograffau ohono ar gyfer ymchwiliadau yn y dyfodol a hawliau yswiriant posibl
- cyfyngu ar fynediad i’r difrod er mwyn cynnal diogelwch
- ceisio cyngor arbenigol, lle bo’r angen, i bennu’r camau nesaf
- trefnu i’r difrod gael ei ddiogelu a threfnu delio â’r difrod mewn modd priodol
- gwerthuso effeithiolrwydd yr ymateb i’r digwyddiad a gwneud unrhyw newidiadau i gynlluniau a gweithdrefnau er mwyn gwella ymateb yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd asesu’r potensial i ddifrod storm ddigwydd ym maes eich cyfrifoldeb a sut i wneud hyn
- y mesurau y gellir eu gweithredu i leihau effaith difrod storm a gwella diogelwch yn eich maes gwaith
- pwysigrwydd asesu diogelwch ardaloedd bregus yn barhaus a’r camau y gellir eu cymryd i rybuddio pobl am beryglon digwyddiadau’n gysylltiedig â storm
- sut i ddatblygu cynlluniau a gweithdrefnau i ymateb i ddifrod storm a’i reoli ym maes eich cyfrifoldeb ac i gynlluniau a gweithdrefnau presennol y sefydliad
- pwysigrwydd gwneud asesiad cychwynnol o ddiogelwch yr ardal a’r difrod a sut gellir gwneud hyn mewn ffordd ddiogel
- y gweithgareddau y gallai fod yn anniogel parhau â nhw
- pwy sydd angen cael gwybod am y digwyddiad
- pwysigrwydd cofnodi’r difrod neu dynnu ffotograffau ohono a phryd y gall fod angen y wybodaeth hon
- ffyrdd o gyfyngu ar fynediad i’r difrod er mwyn cynnal diogelwch
- pryd i geisio cyngor arbenigol ac o ble y gellir ei gael
- sut i drefnu i’r difrod gael ei ddiogelu a’i drwsio, ei waredu neu ddelio ag ef fel arall
- pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd yr ymateb a gwneud newidiadau i gynlluniau a gweithdrefnau er mwyn gwella ymateb yn y dyfodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai digwyddiadau’n gysylltiedig â storm gynnwys:
• Cwymp tir
• Cwymp creigiau/clogwyn
• Mellt yn taro
• Llifogydd
• Difrod i adeiladau
• Difrod i seilwaith
• Difrod coed
• Chwythiadau’r gwynt
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2028
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS107
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Cadwraeth Amgylcheddol, Coedwigaeth, Garddwriaeth
Cod SOC
1211
Geiriau Allweddol
storm; difrod; digwyddiad; cwymp tir; cwymp creigiau; llifogydd; difrod coed; mellt