Rheoli digwyddiadau iechyd anifeiliaid

URN: LANCS106
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn addas i bobl sy’n rheoli digwyddiadau ac argyfyngau iechyd anifeiliaid, fel rhan o sefydliad cyfrifol.

Mae’n berthnasol i bob sefyllfa sy’n ymwneud â digwyddiadau ac argyfyngau iechyd anifeiliaid ac mae’n berthnasol i bob math o anifail ac aderyn. Mae’n gysylltiedig â’r gweithgareddau y mae angen i chi ymgymryd â nhw cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad neu argyfwng iechyd anifeiliaid.

I fodloni’r safon hon, byddwch chi’n gallu:
• paratoi ar gyfer digwyddiadau plâu a chlefydau anifeiliaid
• cymryd camau i ymchwilio a rhoi’r prosesau angenrheidiol ar waith
• cymryd camau i ymateb a rhoi’r prosesau angenrheidiol ar waith
• cymryd camau i adfer a rhoi’r prosesau angenrheidiol ar waith

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. annog arsylwi parhaus gan bawb sy’n cadw neu’n monitro anifeiliaid ac adar i ganfod arwyddion cynnar o blâu a chlefydau hysbysadwy
  2. darparu rhybuddion a gwybodaeth am blâu a chlefydau anifeiliaid arwyddocaol, beth y dylid rhoi gwybod amdano a sut i wneud hynny
  3. gwirio bod cynlluniau a gweithdrefnau ar waith i reoli camau ymchwilio, ymateb ac adfer digwyddiadau iechyd anifeiliaid
  4. cadarnhau bod adnoddau staffio ar gael a’u bod wedi cael hyfforddiant priodol
  5. cael hysbysiad o amheuaeth o ddigwyddiad iechyd anifeiliaid a chychwyn yr ymchwiliadau angenrheidiol i sefydlu diagnosis o’r pla neu’r clefyd ac asesu arwyddocâd y canfyddiadau
  6. cadarnhau statws digwyddiad y pla neu’r clefyd, yr awdurdod rheoli, graddfa’r ymateb, pryd mae cyfyngu neu ddileu yn bosibl a chymryd unrhyw gamau gweithredu ar unwaith
  7. cadarnhau aelodaeth o Dîm Rheoli’r Digwyddiad a’u cyfrifoldebau o ran ymateb
  8. pennu cynllun gweithredu’r digwyddiad sy’n ofynnol i ymateb i’r digwyddiad iechyd anifeiliaid
  9. darparu’r ymateb cychwynnol i’r digwyddiad iechyd anifeiliaid
  10. sefydlu a chyfathrebu’n gyson â’r tîm ymateb i’r digwyddiad a phawb sy’n ymwneud â’r digwyddiad neu y mae’r digwyddiad wedi effeithio arnynt
  11. monitro llwyddiant canlyniad yr ymateb dileu/cyfyngu a chynllunio’r cam adfer
  12. cynnal cofnodion o’r digwyddiad a’r camau a gymerwyd yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
  13. gwerthuso ac adrodd ar reoli’r digwyddiad iechyd anifeiliaid
  14. defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o’r digwyddiad i ddiweddaru cynlluniau, gweithdrefnau a pholisïau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd annog arsylwi parhaus i ganfod arwyddion cynnar o blâu a chlefydau allweddol anifeiliaid ac adar a darparu rhybuddion a gwybodaeth
  2. pwysigrwydd darparu gwybodaeth am beth y dylid adrodd amdano a sut y dylid gwneud hyn
  3. y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n benodol i wlad yn gysylltiedig â rheoli digwyddiadau iechyd anifeiliaid
  4. dyletswyddau sefydliadau cyfrifol am reoli digwyddiadau iechyd anifeiliaid
  5. y cynlluniau a’r gweithdrefnau sydd ar waith i reoli camau ymchwilio, ymateb ac adfer digwyddiadau iechyd anifeiliaid
  6. yr adnoddau staffio sydd ar gael a phwysigrwydd darparu hyfforddiant priodol
  7. sut i gychwyn ymchwiliadau i sefydlu diagnosis ac asesu arwyddocâd adroddiad am ddigwyddiad pla neu glefyd a gwybod pa ymchwiliadau y mae eu hangen
  8. sut i weithredu cynlluniau wrth gefn cyffredinol a phenodol ar iechyd anifeiliaid
  9. sut i ddiffinio statws digwyddiad y pla neu’r clefyd, yr awdurdod rheoli, graddfa’r ymateb, pryd mae cyfyngu neu ddileu yn bosibl ac unrhyw gamau gweithredu ar unwaith
  10. rôl ac aelodaeth o Dîm Rheoli’r Digwyddiad a’u cyfrifoldebau am yr ymateb
  11. sut i bennu cynllun gweithredu’r digwyddiad sy’n ofynnol i ymateb i’r digwyddiad iechyd anifeiliaid, a darparu ymateb cychwynnol
  12. sut i sefydlu a chyfathrebu’n gyson, gyda phwy y mae angen cyfathrebu â nhw a phwysigrwydd paratoi
  13. sut i fonitro llwyddiant canlyniad yr ymateb dileu/cyfyngu a chynllunio’r cam adfer
  14. sut i gau’r digwyddiad iechyd anifeiliaid
  15. sut i werthuso’r rheolaeth ar y digwyddiad iechyd anifeiliaid
  16. gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer cofnodi ac adrodd ar reoli digwyddiadau iechyd anifeiliaid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Asesu arwyddocâd yr achosion yn gysylltiedig â:
• lleoliad
• graddau
• economaidd
• iechyd y cyhoedd
• yr amgylchedd

Bioddiogelwch: Mesurau wedi’u hanelu at atal cyflwyno a/neu ledaenu organebau pathogenaidd

Argyfwng: digwyddiad neu sefyllfa frys, annisgwyl a pheryglus fel arfer sy’n peri risg uniongyrchol i iechyd, bywyd, eiddo neu’r amgylchedd ac mae angen gweithredu ar unwaith yn ei gylch. Digwyddiad neu sefyllfa sy’n bygwth difrod difrifol i les pobl mewn man yn y DU, i amgylchedd man yn y DU, neu i ddiogelwch y DU neu fan yn y DU.

Digwyddiad: digwyddiad neu sefyllfa anfwriadol sy’n tarfu ar weithrediadau arferol ac sydd angen ymateb gan y gwasanaethau brys neu ymatebwyr eraill. Gellir diffinio bod digwyddiad yn un mân, cymedrol neu fawr, gydag amrywiaeth o effeithiau ar y sefydliad, y sector, yr amgylchedd a phobl.

Tîm Rheoli Digwyddiad: Y tîm rheoli a ddefnyddiwyd i ymateb i ddigwyddiadau iechyd anifeiliaid ac adfer yn dilyn y digwyddiadau hyn

Camau gweithredu posibl i ymateb i ddigwyddiad iechyd anifeiliaid:
• Atal symudiadau i mewn i’r ardal ac allan ohoni
• Glanhau cyfarpar a pheiriannau yn drylwyr
• Gweithredu mesurau bioddiogelwch
• Gweithredu mesurau rheoli a chyfyngu
• Dilyn trywydd ac olrhain anifeiliaid a all fod wedi’u heffeithio
• Cyfathrebu’n gyson â phawb sy’n gysylltiedig
• Gweithredu gweithdrefnau rheoli plâu a chlefydau er mwyn cyfyngu neu waredu
• Monitro’r canlyniadau

Paratoi ar gyfer digwyddiadau iechyd anifeiliaid, gan gynnwys:
o Dogfennaeth ac arweiniad ar gyfer achosion
o Cynlluniau wrth gefn sy’n benodol i bla a chlefyd
o Gweithdrefnau gweithredu safonol
o Protocol diagnosteg
o Hyfforddiant ac ymarferion
o Adnoddau staffio

Cam adfer:
• Gostegu – codi cyfyngiadau yn raddol
• Cymorth i’r unigolion, y busnesau, y cymunedau a’r amgylcheddau sydd wedi’u heffeithio
• Gwerthusiad o’r gwersi a ddysgwyd
• Argymhellion ac adolygiad o gynlluniau a gweithdrefnau presennol

Sefydliadau cyfrifol e.e.
• DEFRA
• Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
• Llywodraeth yr Alban (SG)
• NatureScot
• Llywodraeth Cymru
• DAERA


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS106

Galwedigaethau Perthnasol

Arolygydd Iechyd Anifeiliaid

Cod SOC

3581

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; da byw; adar; dofednod; plâu; clefydau; achosion; digwyddiad