Rheoli digwyddiadau iechyd planhigion
Trosolwg
Mae’r safon hon yn addas i bobl sydd â chyfrifoldeb am reoli digwyddiadau ac argyfyngau iechyd planhigion, fel rhan o sefydliadau cyfrifol.
Mae’n berthnasol i bob sector yn gysylltiedig â digwyddiadau ac argyfyngau iechyd planhigion ac mae’n berthnasol i blanhigion, coed a chynnyrch planhigion. Mae’n gysylltiedig â’r gweithgareddau rydych yn ymgymryd â nhw cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad neu argyfwng iechyd planhigion.
I fodloni’r safon hon, byddwch chi’n gallu:
• paratoi ar gyfer digwyddiadau plâu a chlefydau (rhwystro/achosion)
• ymgymryd â chamau ymchwilio a rhoi prosesau ar waith
• ymgymryd â chamau ymateb a rhoi prosesau ar waith
• ymgymryd â chamau adfer a rhoi prosesau ar waith
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- annog arsylwi parhaus gan y sector i ganfod arwyddion cynnar o blâu a chlefydau planhigion a choed hysbysadwy
- darparu rhybuddion a gwybodaeth i’r sector ar blâu a chlefydau arwyddocaol, beth y dylid rhoi gwybod amdano a sut i wneud hynny
- gwirio bod cynlluniau a gweithdrefnau ar waith i reoli camau ymchwilio, ymateb ac adfer digwyddiadau iechyd planhigion
- cadarnhau bod adnoddau staffio ar gael a’u bod wedi cael hyfforddiant priodol
- cael hysbysiad o amheuaeth o ddigwyddiadau rhwystro a/neu achosion iechyd planhigion a chychwyn yr ymchwiliadau angenrheidiol i sefydlu diagnosis o’r pla neu’r clefyd ac asesu arwyddocâd y canfyddiadau
- cadarnhau statws digwyddiad y pla neu’r clefyd, yr awdurdod rheoli, graddfa’r ymateb, pryd mae cyfyngu neu ddileu yn bosibl ac unrhyw gamau gweithredu i’w cymryd ar unwaith
- cadarnhau aelodaeth o Dîm Rheoli’r Digwyddiad a chyfrifoldebau aelodau o ran ymateb
- pennu cynllun gweithredu’r digwyddiad sy’n ofynnol i ymateb i’r digwyddiad iechyd planhigion
- darparu ymateb cychwynnol i’r digwyddiad iechyd planhigion
- sefydlu a chyfathrebu’n gyson â’r tîm ymateb i’r digwyddiad a phawb sy’n ymwneud â’r digwyddiad neu y mae’r digwyddiad wedi effeithio arnynt
- monitro llwyddiant yr ymateb dileu/cyfyngu a chynllunio’r cam adfer
- cynnal cofnodion o’r digwyddiad a’r camau a gymerwyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- gwerthuso ac adrodd ar reoli’r digwyddiad iechyd planhigion
- defnyddio gwersi a ddysgwyd o’r digwyddiad i ddiweddaru cynlluniau, gweithdrefnau a pholisïau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd annog arsylwi parhaus gan y sector i ganfod arwyddion cynnar o blâu a chlefydau planhigion a choed a phwysigrwydd darparu rhybuddion a gwybodaeth
- pwysigrwydd darparu gwybodaeth i’r sector ar ba blâu a chlefydau y dylid adrodd amdanynt a sut y dylid gwneud hyn
- sut i ddefnyddio’r ddeddfwriaeth berthnasol sy’n benodol i wlad yn gysylltiedig â rheoli digwyddiadau iechyd planhigion
- dyletswyddau sefydliadau cyfrifol am reoli digwyddiadau iechyd planhigion
- y cynlluniau a’r gweithdrefnau sydd ar waith i reoli camau ymchwilio, ymateb ac adfer digwyddiadau iechyd planhigion
- faint o adnoddau staffio sydd ar gael a phwysigrwydd darparu’r hyfforddiant priodol
- sut i gychwyn ymchwiliadau i sefydlu diagnosis ac asesu arwyddocâd adroddiad am rwystro a/neu achosion o bla neu glefyd a pha ymchwiliadau y mae eu hangen
- sut i weithredu’r cynllun wrth gefn cyffredinol ar iechyd planhigion a chynlluniau wrth gefn ar blâu penodol
- sut i ddiffinio statws digwyddiad y pla neu’r clefyd, yr awdurdod rheoli, graddfa’r ymateb, pryd mae cyfyngu neu ddileu yn bosibl ac unrhyw gamau gweithredu i’w cymryd ar unwaith
- rôl Tîm Rheoli’r Digwyddiad a rolau a chyfrifoldebau aelodau o ran ymateb
- sut i bennu cynllun gweithredu’r digwyddiad sy’n ofynnol i ymateb i’r digwyddiad iechyd planhigion
- sut i sefydlu a chyfathrebu’n gyson, gyda phwy y mae angen cyfathrebu â nhw a phwysigrwydd paratoi
- sut i fonitro llwyddiant canlyniad yr ymateb dileu/cyfyngu a chynllunio’r cam adfer
- sut i gau’r digwyddiad iechyd planhigion ac, os yw’n briodol, symud i’r cam ymateb
- sut i werthuso’r rheolaeth ar y digwyddiad iechyd planhigion
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac adrodd ar reoli digwyddiadau iechyd planhigion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Asesu arwyddocâd rhwystro a/neu achosion:
• Arwyddocâd y pla a/neu’r clefyd
• Lleoliad
• Graddfa
• Economaidd
• Iechyd y cyhoedd
• Yr amgylchedd
• Cymdeithasol/Amwynder
Bioddiogelwch: Mesurau wedi’u hanelu at atal cyflwyno a/neu ledaenu organebau niweidiol a rhywogaethau estron
Argyfwng: digwyddiad neu sefyllfa frys, annisgwyl a pheryglus fel arfer sy’n peri risg uniongyrchol i iechyd, bywyd, eiddo neu’r amgylchedd ac mae angen gweithredu ar unwaith yn ei gylch. Digwyddiad neu sefyllfa sy’n bygwth difrod difrifol i les pobl mewn man yn y DU, i amgylchedd man yn y DU, neu i ddiogelwch y DU neu fan yn y DU.
Digwyddiad: digwyddiad neu sefyllfa anfwriadol sy’n tarfu ar weithrediadau arferol ac sydd angen ymateb gan y gwasanaethau brys neu ymatebwyr eraill. Gellir diffinio bod digwyddiad yn un mân, cymedrol neu fawr, gydag amrywiaeth o effeithiau ar y sefydliad, y sector, yr amgylchedd a phobl.
Tîm Rheoli Digwyddiad: Y tîm rheoli a ddefnyddiwyd i ymateb i ddigwyddiadau iechyd planhigion ac adfer yn dilyn y digwyddiadau hyn
Camau gweithredu posibl i ymateb i ddigwyddiad iechyd planhigion:
• Sefydlu pa arbenigwyr pwnc y mae eu hangen
• Comisiynu diagnosteg ac ymchwil i lywio penderfyniadau rheoli
• Cyhoeddi hysbysiadau iechyd planhigion statudol i dirfeddianwyr
• Creu Ardaloedd â Therfynau Gosod i roi cyfyngu ar waith
• Gweithredu uniongyrchol i roi gweithdrefnau rheoli plâu a chlefydau ar waith
• Dinistrio neu drin y deunydd planhigion sydd wedi’i effeithio
• Cyfyngu ar symudiadau (e.e. personél/traffig) i’r ardal/ardaloedd priodol wedi’u heffeithio ac allan o’r ardal/ardaloedd hynny
• Glanhau cyfarpar a pheiriannau yn drylwyr
• Dilyn trywydd ac olrhain planhigion a all fod wedi’u heffeithio am yn ôl ac ymlaen
• Cyfathrebu’n gyson â rhanddeiliaid
• Monitro a chasglu’r canlyniadau ynghyd
Paratoi ar gyfer digwyddiadau iechyd planhigion, gan gynnwys:
o Mynd i’r afael â bylchau mewn ymchwil
o Ystyried cynyddu capasiti labordy a diagnostig
o Creu a chynnal dogfennaeth ac arweiniad digwyddiadau
o Paratoi cynlluniau wrth gefn penodol i bla
o Creu gweithdrefnau gweithredu safonol a’u rhoi ar waith
o Sefydlu protocolau diagnosteg
o Rhoi hyfforddiant ac ymarferion ar waith
o Mae adnoddau staffio ar gael a chontractau a chontractwyr priodol ar gael
Cam adfer:
• Gostegu, codi cyfyngiadau yn raddol
• Pontio i’r normal newydd
• Cymorth ac arweiniad i unigolion, busnesau, cymunedau ac amgylcheddau sydd wedi’u heffeithio
• Gwerthuso gwersi a ddysgwyd
• Argymhellion ac adolygu cynlluniau a gweithdrefnau presennol
Sefydliadau cyfrifol e.e.
• DEFRA
• Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
• Comisiwn Coedwigaeth (FC)
• Forest Research (FR)
• Llywodraeth yr Alban (SG)
• SASA (isadran i Gyfarwyddiaeth Amaeth ac Economi Wledig Llywodraeth yr Alban) (ARE)
• NatureScot
• Scottish Forestry (SF)
• Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW)
• Llywodraeth Cymru
• Cyfarwyddiaeth Iechyd Planhigion DAERA