Ymateb i ddigwyddiadau iechyd planhigion
Trosolwg
Mae’r safon hon yn addas i bobl sy’n gweithio ym meysydd coedyddiaeth, coedwigaeth, cadwraeth amgylcheddol, amaeth, garddwriaeth a rheoli anifeiliaid hela a bywyd gwyllt.
Mae’n berthnasol i bob amgylchedd a allai ddioddef digwyddiadau ac argyfyngau iechyd planhigion ac mae’n berthnasol i blanhigion, coed a chynnyrch planhigion. Mae’n gysylltiedig â’r gweithgareddau y mae angen i chi ymgymryd â nhw cyn, yn ystod ac ar ôl nodi bod digwyddiad neu argyfwng iechyd planhigion yn bresennol.
I fodloni’r safon hon, byddwch chi’n gallu:
• paratoi ar gyfer digwyddiadau ac argyfyngau iechyd planhigion
• cymryd camau i amddiffyn iechyd planhigion
• monitro iechyd planhigion
• adnabod plâu a chlefydau
• rhoi gwybod am blâu a chlefydau hysbysadwy (cwarantin)
• cymryd camau i gyfyngu a rheoli plâu ac achosion o glefydau
• monitro a gwella’r ymateb
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwybod am blâu a chlefydau posibl a allai effeithio ar y planhigion, y coed neu’r cynnyrch planhigion yn eich gofal
- cadw i fyny â’r rhybuddion diweddaraf am blâu a chlefydau
- gweithredu mesurau i amddiffyn y planhigion, y coed neu’r cynnyrch planhigion yn eich gofal rhag plâu a chlefydau
- monitro’r planhigion, y coed neu’r cynnyrch planhigion sydd yn eich gofal yn rheolaidd am arwyddion o blâu a chlefydau
- adnabod plâu a chlefydau sy’n hysbysadwy (cwarantin) a rhoi gwybod amdanynt i’r sefydliad cyfrifol yn unol â’r gofynion
- yn achos digwyddiadau plâu a chlefydau sy’n destun gweithredu statudol, dilyn y mesurau statudol sydd wedi’u diffinio gan y sefydliad cyfrifol er mwyn cynnwys a rheoli’r achosion
- yn achos digwyddiadau plâu a chlefydau nad ydynt yn hysbysadwy, cymryd y camau priodol i leihau effeithiau’r achosion
- rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith i leihau effaith digwyddiadau iechyd planhigion
- ceisio cyngor arbenigol, lle bo angen
- monitro canlyniad y digwyddiad iechyd planhigion a chymryd camau i wella’r ymateb
- cwblhau cofnodion a dogfennaeth yn unol â gofynion deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y plâu a’r clefydau a allai effeithio ar y planhigion neu’r coed yn eich gofal
- sut i gadw i fyny â’r rhybuddion diweddaraf am blâu a chlefydau
- mesurau i amddiffyn y planhigion, y coed neu’r cynnyrch planhigion yn eich gofal rhag plâu a chlefydau, gan gynnwys mesurau bioddiogelwch
- pwysigrwydd monitro’r planhigion, y coed neu’r cynnyrch planhigion sydd yn eich gofal yn rheolaidd am arwyddion o blâu a chlefydau, a pha mor aml y dylid gwneud hyn
- sut i adnabod achosion posibl o blâu a chlefydau sy’n hysbysadwy (cwarantin) a rhai nad ydynt yn hysbysadwy (dim cwarantin)
- sut i roi gwybod am ddigwyddiadau plâu a chlefydau sy’n hysbysadwy (cwarantin), i bwy y dylid rhoi gwybod a’r gofynion ar gyfer hysbysu
- pwysigrwydd dilyn y mesurau statudol sydd wedi’u diffinio gan y sefydliad cyfrifol wrth ymateb i ddigwyddiad pla a chlefyd hysbysadwy
- y camau y gellir eu cymryd i leihau effaith digwyddiadau plâu a chlefydau nad ydynt yn hysbysadwy
- pwysigrwydd cynlluniau wrth gefn i leihau effaith digwyddiadau iechyd planhigion a beth ddylent ei gynnwys
- ble i geisio cyngor a hyfforddiant arbenigol
- pwysigrwydd monitro canlyniad y digwyddiad iechyd planhigion a defnyddio’r gwersi a ddysgwyd i wella camau yn y dyfodol
- y cofnodion a’r ddogfennaeth y mae angen eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Bioddiogelwch:
Mesurau wedi’u hanelu at atal cyflwyno a/neu ledaenu organebau niweidiol a rhywogaethau estron
Camau gweithredu posibl i gynnwys a rheoli achosion:
• Gwaredu a dinistrio neu drin y deunydd planhigion sydd wedi’i effeithio
• Gweithredu mesurau cyfyngu i atal deunydd planhigion a all fod wedi’u heffeithio rhag symud ymlaen
• Cyfyngu ar symudiadau (e.e. pobl/traffig) i ardaloedd sydd wedi’u heffeithio ac allan ohonynt
• Glanhau a diheintio cyfarpar, cyfarpar diogelu personol (PPE), cerbydau, peiriannau ac eitemau cysylltiedig eraill yn drylwyr, a allai beri bod y pla a/neu’r clefyd yn lledaenu
• Dilyn trywydd ac olrhain planhigion a all fod wedi’u heffeithio
• Cyfathrebu’n gyson â phawb sy’n gysylltiedig
• Monitro canlyniadau camau gweithredu gan reolwyr
Sefydliadau cyfrifol e.e.
• DEFRA
• Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
• Comisiwn Coedwigaeth (FC)
• Forest Research (FR)
• Llywodraeth yr Alban (SG)
• SASA (isadran i Gyfarwyddiaeth Amaeth ac Economi Wledig Llywodraeth yr Alban) (ARE)
• NatureScot
• Scottish Forestry (SF)
• Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW)
• Llywodraeth Cymru
• Cyfarwyddiaeth Iechyd Planhigion DAERA