Ymateb i ddigwyddiad pan fydd person ar goll

URN: LANCS101
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r cymhwysedd sy’n ofynnol i ymdrin â’r ymateb cychwynnol i ddigwyddiad pan fydd person ar goll. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth, asesu graddau’r brys a chymryd y camau priodol.

Mae’r safon hon yn berthnasol i unigolion sy’n gyfrifol am ymateb i ddigwyddiad pan fydd person ar goll.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael a chofnodi’r holl wybodaeth sydd ar gael am y person sydd ar goll
  2. cael a chofnodi gwybodaeth allweddol gan yr hysbysydd, gan gynnwys eu rhif ffôn, a’u hannog i gadw mewn cysylltiad a pheidio â chwilio ar eu pen eu hunain
  3. sefydlu amodau’r tywydd ar y pryd a’r amodau disgwyliedig sy’n effeithio ar leoliad y digwyddiad
  4. ystyried amser y dydd ac amodau’r golau ac effaith hyn ar y broses chwilio
  5. ystyried tir y lleoliad ac effaith hyn ar y broses chwilio
  6. pennu a allai fod peryglon penodol yn lleoliad y digwyddiad a fydd yn effeithio ar y broses chwilio
  7. asesu’r holl wybodaeth am y person sydd ar goll a’r amodau chwilio er mwyn sefydlu’r risgiau sy’n gysylltiedig, pennu brys y sefyllfa a chynllunio’r camau gweithredu sy’n ofynnol
  8. monitro’r sefyllfa yn agos, lle bo’r risg yn isel, a chadw mewn cysylltiad â’r hysbysydd ac ailasesu os bydd amgylchiadau yn newid
  9. cysylltu â’r heddlu i drafod y camau gweithredu sy’n ofynnol os yw’r risg yn ganolig a chychwyn chwiliad cychwynnol os cewch gyfarwyddyd i wneud hynny
  10. cysylltu â’r heddlu ar unwaith a chymryd cyfarwyddyd pellach ganddynt os yw’r risg yn uchel
  11. sefydlu’r math mwyaf priodol o gynllun chwilio i’w ddefnyddio pan fydd angen chwiliad cychwynnol
  12. sefydlu’r lleoliad sail ar gyfer dechrau’r chwiliad
  13. pennu pwy sydd angen cymryd rhan yn y chwilio
  14. briffio’r rhai sy’n cymryd rhan yn y chwilio, gan ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol
  15. nodi a chadarnhau rolau, cyfrifoldebau a llinellau awdurdod wrth gydlynu’r chwilio
  16. cadarnhau bod y cyfarpar sy’n ofynnol i ymgymryd â’r chwilio ar gael ac wedi’i baratoi
  17. cydlynu’r chwilio yn ôl y cynllun
  18. cyfathrebu’n gyson â’r rhai sy’n cymryd rhan trwy gydol y chwiliad
  19. monitro iechyd a diogelwch y rhai sy’n cymryd rhan yn y chwilio
  20. monitro hynt y chwilio a gwneud newidiadau i’r cynllun o ganlyniad i ganfyddiadau a’r wybodaeth a gasglwyd
  21. cadw mewn cysylltiad â’r heddlu a galw am gymorth os bydd y chwilio’n methu cyflawni canlyniadau neu os bydd y risg yn cynyddu
  22. cofnodi ac adrodd ar ganlyniad y chwilio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pa wybodaeth ddylai gael ei chasglu am y person sydd ar goll a pham mae’n bwysig ei chofnodi
  2. pa wybodaeth ddylai gael ei chasglu gan yr hysbysydd a pham mae’n rhaid i’r hysbysydd gadw mewn cysylltiad a pheidio â chwilio ar ei ben ei hun
  3. sut i ddarganfod amodau’r tywydd ar y pryd a’r amodau disgwyliedig sy’n effeithio ar leoliad y digwyddiad
  4. pwysigrwydd amser y dydd a nifer yr oriau o olau dydd sydd ar ôl i’r broses chwilio
  5. sut gall tir y lleoliad ac unrhyw beryglon penodol effeithio ar y broses chwilio
  6. sut i asesu’r wybodaeth am y person sydd ar goll a’r amodau chwilio i bennu brys y sefyllfa a’r camau gweithredu sy’n ofynnol
  7. sut gellir defnyddio system sgorio o fath asesu risg at y diben hwn
  8. pryd i gysylltu â’r heddlu a pha wybodaeth y bydd arnynt ei hangen
  9. pryd mae’n briodol cychwyn chwiliad cychwynnol
  10. sut i sefydlu lleoliad sail a chynllunio chwiliad cychwynnol
  11. beth mae angen ei ystyried wrth ystyried y risgiau sy’n gysylltiedig a sefydlu’r math mwyaf priodol o gynllun chwilio i’w ddefnyddio
  12. y dulliau ar gyfer plotio gwybodaeth am y chwiliad ar siart neu fap
  13. pwy ddylai gymryd rhan yn y chwiliad a pha wybodaeth y dylid ei rhoi iddynt
  14. pwysigrwydd cadarnhau rolau, cyfrifoldebau a llinellau awdurdod gyda’r rhai sy’n cymryd rhan yn y chwilio
  15. pwysigrwydd briffio’r rhai sy’n cymryd rhan yn y chwilio a chadw mewn cysylltiad drwy’r amser
  16. y cyfarpar sy’n ofynnol ar gyfer y chwilio a sut i sicrhau ei fod ar gael ac wedi’i baratoi
  17. pwysigrwydd asesu risg cyn ac yn ystod y chwilio a monitro diogelwch y rhai sy’n cymryd rhan yn y chwilio
  18. yr amrywiol fathau o batrymau chwilio, y sefyllfaoedd pryd y gallai’r rhain gael eu defnyddio a pham
  19. pwysigrwydd monitro’r chwilio a gwneud newidiadau i’r cynllun o ganlyniad i ganfyddiadau a gwybodaeth a gasglwyd
  20. pwysigrwydd rhoi gwybodaeth yn gyson i’r heddlu a phryd i ddwysau’r chwilio
  21. y gofynion am gofnodi ac adrodd ar y chwiliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai cyfarpar gynnwys:

  • Cerbydau
  • Ysbienddrychau
  • Dronau
  • Radios
  • Megaffonau
  • Mapiau
  • Tortshys
  • Chwibanau
  • Blancedi
  • Cyfarpar cymorth cyntaf
  • Cŵn chwilio ac achub

Gwybodaeth bwysig:

  • Enw
  • Cyfeiriad/lleoliad
  • Rhif ffôn cyswllt
  • Y berthynas â’r person sydd ar goll

Gwybodaeth am y sawl sydd ar goll:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn symudol
  • Oedran
  • Rhyw
  • Taldra/corffolaeth
  • Lliw/steil gwallt
  • Y dillad yr oedd yn eu gwisgo neu’n eu cario pan gafodd ei weld ddiwethaf - disgrifiad, lliw, brand
  • Math o esgidiau, brand a phatrwm ôl troed, os oes modd
  • Gwarbac neu gyfarpar arall a oedd yn cael ei gario (bwyd, tortsh, chwiban, bag goroesi, map, cwmpawd ac ati)
  • A oes gan yr unigolyn brofiad o gerdded yn yr awyr agored, defnyddio mapiau, cwmpawdau ac ati?
  • A yw’n adnabod yr ardal?
  • Faint o’r gloch y gwelwyd yr unigolyn ddiwethaf
  • Ble y gwelwyd yr unigolyn ddiwethaf (grid neu gyfeirnod arall, os oes modd)
  • Pa weithgaredd yr oedd yn ei wneud, os yw’n hysbys
  • Manylion y person diwethaf i weld yr unigolyn
  • Unrhyw gyflyrau meddygol (corfforol neu feddyliol)
  • Anian/cyflwr meddwl pan welwyd yr unigolyn ddiwethaf
  • A yw’r unigolyn wedi mynd ar goll o’r blaen?
  • Y tywydd a gwelededd pan aeth yr unigolyn ar goll
  • A oedd unrhyw gerddwyr eraill yn yr ardal ar y pryd?
  • Yn ogystal, os yw’r unigolyn yn blentyn:
    Beth yw diddordebau’r plentyn?
    A fyddai’n troi at ddieithryn i ofyn am help neu’n rhy swil i wneud?
    A yw’r plentyn wedi arfer bod ar ei ben ei hun?
    A oedd gan y plentyn unrhyw losin neu fwyd – beth yw’r brand? Gall deunydd lapio fod yn llwybr ‘briwsion’

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS101

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Prif Giper, Prif Geidwad

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

person ar goll; chwilio