Cynorthwyo â chwilio am bobl sydd ar goll

URN: LANCS100
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo â chwilio am bobl sydd ar goll. Mae’n cynnwys dilyn cyfarwyddiadau ynghylch y gofynion chwilio, gweithio gydag eraill i gyflawni’r chwilio, cyfathrebu’n gyson ag eraill a chynnal eich diogelwch eich hun.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n cynorthwyo â chwilio am bobl sydd ar goll.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth angenrheidiol i gynorthwyo â’r chwilio a chadarnhau unrhyw beth sy’n aneglur
  2. cadarnhau eich rôl, eich cyfrifoldebau ac awdurdod llinellau adrodd
  3. gwneud y paratoadau gofynnol i gymryd rhan yn y chwilio a gwirio bod y cyfarpar gofynnol wedi’i baratoi
  4. dilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir gan y rhai sy’n rheoli’r broses chwilio
  5. cymryd y camau priodol o ran yr amodau chwilio ac unrhyw beryglon sy’n bresennol
  6. sicrhau bod y dull chwilio a’r broses yn cyd-fynd â chyfarwyddiadau a’r amodau chwilio
  7. cyfathrebu’n gyson â’r rhai sy’n cymryd rhan yn y chwilio a rhoi gwybod i’r sawl sy’n gyfrifol am unrhyw wybodaeth a gasglwyd
  8. cynnal eich diogelwch yn ystod y broses chwilio
  9. rhoi gwybod am unrhyw broblemau y daethoch ar eu traws a gofyn am gymorth, lle bo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y wybodaeth sy’n ofynnol i gynorthwyo â’r chwilio
  2. pwysigrwydd cadarnhau eich rôl, eich cyfrifoldebau ac awdurdod llinell adrodd gyda’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses chwilio
  3. sut i baratoi ar gyfer y chwilio a’r cyfarpar y mae ei angen
  4. sut gall y tywydd, amser y dydd, amodau golau a’r tir effeithio ar weithgareddau chwilio
  5. y mathau o beryglon a all fod yn bresennol yn yr ardal a’r camau i’w cymryd
  6. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau a gweithio gydag eraill sy’n cymryd rhan yn y chwilio
  7. yr amrywiol fathau o batrymau chwilio a phwysigrwydd dilyn dulliau chwilio yn unol â chyfarwyddiadau
  8. y dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu’n gyson ag eraill yn ystod y chwilio
  9. pwysigrwydd rhoi gwybod i’r sawl sy’n gyfrifol am y chwilio am unrhyw wybodaeth a gasglwyd
  10. pwysigrwydd asesu risgiau yn barhaus a chynnal eich diogelwch yn ystod y chwilio
  11. y camau i’w cymryd os dewch chi ar draws problemau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai cyfarpar gynnwys:

  1. Cerbydau
  2. Ysbienddrychau
  3. Dronau
  4. Radios
  5. Megaffonau
  6. Mapiau
  7. Tortshys
  8. Chwibanau
  9. Blancedi
  10. Cyfarpar cymorth cyntaf
  11. Cŵn chwilio ac achub

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS100

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystâd, Ceidwad

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

person ar goll; chwilio