Rheoli’r ymateb cychwynnol i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn y sector tir
Trosolwg
Bwriedir y safon hon i’r rhai sy’n gweithio ar lefel oruchwylio neu reoli yn y sector tir ac y mae angen iddynt baratoi ar gyfer, a rheoli, yr ymateb cychwynnol i ddigwyddiadau ac argyfyngau. Mewn sefydliad mawr, gall fod ganddynt rolau penodol fel Rheolwr/Swyddog Ymateb i Ddigwyddiadau, Cynghorydd Rheoli Digwyddiadau neu Arweinydd Tîm Ymateb i Ddigwyddiadau. Mewn sefydliad llai, rheolwr neu oruchwyliwr dynodedig fydd yn gyfrifol am hyn hyd nes bydd y gwasanaethau brys neu sefydliad cyfrifol arall yn cyrraedd, a fydd wedyn yn cymryd rheolaeth.
Gallai digwyddiadau ac argyfyngau gynnwys tân, llifogydd, gollyngiadau, halogiad neu ddigwyddiadau amgylcheddol eraill (ar dir neu ar ddŵr), lleoliadau troseddau, damweiniau ac argyfyngau meddygol, ynghyd â digwyddiadau iechyd a diogelwch, a diogeledd.
Mae’n bwysig bod gweithdrefnau ar waith i ddelio â digwyddiadau neu argyfwng o unrhyw faint, a bod y rhain yn cael eu cyfleu i’r bobl sydd angen eu gwybod. Dylent gynnwys beth i’w wneud i ddechrau, er enghraifft sut i ddefnyddio cyfarpar argyfwng priodol, sut i gysylltu â’r gwasanaethau brys a ffynonellau cymorth perthnasol eraill, sut i uwchgyfeirio digwyddiad i lefel reoli uwch a sut i gofnodi a gwneud adroddiadau am fanylion digwyddiadau ac argyfyngau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod gweithdrefnau ar waith i ddelio â mân ddigwyddiadau ac argyfyngau, a chamau cynnar digwyddiadau mwy cymhleth, yn eich man gwaith
- gwirio bod gweithdrefnau a chyfarwyddiadau’n cael eu cyfleu i bawb sydd angen gwybod
- os bydd digwyddiad neu argyfwng, asesu’r sefyllfa i nodi’r peryglon a’r risgiau a gyflwynir a beth yw’r gweithdrefnau ymateb priodol
- ceisio a chadarnhau gwybodaeth am y digwyddiad neu’r argyfwng i lywio’r camau gweithredu sydd eu hangen
- cymryd cyfrifoldeb a dechrau rheoli’r ymateb cychwynnol i’r digwyddiad neu’r argyfwng
- lle bo’r angen, galw am gymorth y gwasanaethau brys priodol, sefydliadau cyfrifol, neu ffynonellau cymorth perthnasol eraill, gan roi manylion llawn am y digwyddiad neu’r argyfwng
- gweithio gyda’r gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill, lle bo gofyn, gan ddarparu gwybodaeth a derbyn cyfarwyddiadau
- pan fydd digwyddiad yn gwaethygu, bod yn barod i friffio awdurdodau uwch a throsglwyddo rheolaeth yn effeithiol
- darparu’r wybodaeth berthnasol i bawb sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad neu’r argyfwng, neu y mae’r digwyddiad neu’r argyfwng wedi effeithio arnynt, gan gynnwys unrhyw wybodaeth am risgiau posibl
- darparu cymorth a chyfarwyddyd i’r rhai sy’n ymwneud â’r digwyddiad neu’r argyfwng
- gwirio bod uniondeb y dystiolaeth yn cael ei ddiogelu os gallai fod ei hangen ar y gwasanaethau brys neu bartïon eraill e.e. cwmni yswiriant
- cynnal eich diogelwch eich hun a diogelwch pobl eraill wrth reoli’r ymateb cychwynnol i ddigwyddiadau neu argyfyngau
- rheoli gweithredu cynlluniau wrth gefn yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
- casglu gwybodaeth am y digwyddiad neu’r argyfwng a allai helpu i sefydlu’r achos a’i atal rhag digwydd eto
- gwirio bod y weithdrefn ar gyfer cofnodi a gwneud adroddiadau am ddigwyddiadau ac argyfyngau yn cael ei dilyn, a bod y ddogfennaeth ofynnol yn cael ei chwblhau, yn unol â gofynion a graddfeydd amser cyfreithiol perthnasol a’ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o ddigwyddiadau neu argyfyngau a allai ddigwydd yn eich man gwaith
- egwyddorion rheoli digwyddiadau a phwysigrwydd bod â gweithdrefnau ar waith i reoli digwyddiadau ac argyfyngau e.e. system rheoli digwyddiadau
- y gweithdrefnau a’r cyfarwyddiadau penodol ar gyfer delio â digwyddiadau ac argyfyngau yn eich man gwaith, gan gynnwys gweithdrefnau gwacau, cynlluniau wrth gefn a phryd a sut i gysylltu â gwasanaethau brys, sefydliadau cyfrifol neu ffynonellau cymorth perthnasol eraill
- pwysigrwydd cyfleu gweithdrefnau a chyfarwyddiadau i bawb sydd angen gwybod, a sut y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd ymateb yn gyflym i ddigwyddiad neu argyfwng, gan nodi’r peryglon a’r risgiau a’r gweithdrefnau ymateb priodol
- pwysigrwydd ceisio a chadarnhau gwybodaeth am y digwyddiad neu’r argyfwng i lywio’r camau gweithredu sydd eu hangen
- y camau gweithredu sydd eu hangen i gymryd cyfrifoldeb am reoli’r ymateb cychwynnol i’r digwyddiad neu’r argyfwng
- pwysigrwydd cysylltu â’r gwasanaethau brys, sefydliadau cyfrifol perthnasol neu ffynonellau cymorth eraill a’r wybodaeth i’w rhoi iddynt
- y broses ar gyfer uwchgyfeirio digwyddiad cynyddol neu gymhleth a throsglwyddo gofal yn effeithiol
- pwysigrwydd rhoi gwybod i’r bobl sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad neu’r argyfwng, neu y mae’r digwyddiad neu’r argyfwng wedi effeithio arnynt, am y sefyllfa ac unrhyw risgiau posibl
- pwysigrwydd diogelu uniondeb tystiolaeth
- yr arferion diogel y dylid eu defnyddio wrth ddelio â digwyddiadau ac argyfyngau
- pwysigrwydd ymchwilio i achos digwyddiadau ac argyfyngau
- y gweithdrefnau cyfreithiol a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cofnodi a gwneud adroddiadau am ddigwyddiadau ac argyfyngau, a’r gofynion ar gyfer cwblhau dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Argyfwng: Digwyddiad neu sefyllfa frys, annisgwyl a pheryglus fel arfer sy’n peri risg uniongyrchol i iechyd, bywyd, eiddo neu’r amgylchedd ac y mae angen gweithredu ar unwaith yn ei gylch. Digwyddiad neu sefyllfa sy’n bygwth difrod difrifol i les pobl mewn man yn y Deyrnas Unedig (DU), i amgylchedd man yn y DU, neu i ddiogelwch y DU neu fan yn y DU.
Digwyddiad: Digwyddiad neu sefyllfa anfwriadol sy’n tarfu ar weithrediadau arferol ac sydd angen ymateb gan y gwasanaethau brys neu ymatebwyr eraill. Gellir diffinio bod digwyddiad yn un mân, cymedrol neu fawr, gydag amrywiaeth o effeithiau ar y sefydliad, y sector, yr amgylchedd a phobl.
System Rheoli Digwyddiad: Dull systematig cymeradwy ar gyfer rheoli digwyddiad
Sefydliadau cyfrifol perthnasol neu ffynonellau cymorth eraill: e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd, SEPA, Defra, DAERA, Cyfoeth Naturiol Cymru, swyddog cymorth cyntaf, rheolwr, person iechyd a diogelwch, milfeddyg
Dolenni I NOS Eraill
LANCS11 Ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn y sector tir
LANCS104 Cynllunio a rheoli’r ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn y sector tir