Cynnal eich diogelwch eich hun a diogelwch pobl eraill yn y gweithle
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chymryd gofal o’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun yn y gwaith ac iechyd a diogelwch pobl eraill a allai fod wedi eu heffeithio gan yr hyn yr ydych yn ei wneud. Mae hyn yn cynnwys bod yn ymwybodol o beryglon yn yr ardal waith, gwisgo dillad priodol (yn cynnwys dillad a chyfarpar diogelu pan fo angen), dilyn hyfforddiant a chyfarwyddiadau am y ffordd o wneud pethau yn ddiogel a bod yn ymwybodol o ganlyniadau eich gweithredoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwneud eich gwaith yn unol â'r hyfforddiant â'r cyfarwyddiadau yr ydych wedi eu cael fel nad oes risg i'ch iechyd a'ch diogelwch chi ac iechyd a diogelwch pobl eraill
Adnabod peryglon yn yr ardal waith ac adrodd amdanynt wrth berson priodol
- Gwisgo dillad addas ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei wneud
- Gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE) lle mae wedi cael ei asesu fel gofyniad ar gyfer y gwaith yr ydych yn ei wneud
- Defnyddio y dulliau diogel o godi a thrafod wrth symud eitemau
- Defnyddio a storio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel ac yn gywir
- Cadw'r ardal waith yn daclus bob amser
- Gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir
- Cyflawni eich gwaith mewn ffordd sydd yn lleihau niwed amgylcheddol
- Adrodd am unrhyw ddamweiniau, digwyddiadau neu broblemau heb oedi wrth berson priodol a chymryd camau angenrheidiol ar unwaith i leihau perygl pellach.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Y mathau o beryglon a allai fod yn bresennol yn eich ardal waith
Y risg i iechyd a diogelwch â'r mesurau sydd wedi eu sefydlu i reoli'r risgiau hynny
- Eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
- Pa gyfarpar diogelu personol (PPE) a dillad y dylid eu gwisgo a sut dylid gofalu am hyn
- Technegau codi a thrafod diogel
- Y ffordd gywir a diogel o ddefnyddio a storio cyfarpar a deunyddiau sydd yn ofynnol ar gyfer eich gwaith
- Pwysigrwydd cymhennu da yn y gweithle
- Dulliau cywir o waredu gwastraff
- Dulliau o leihau niwed amgylcheddol yn ystod eich gwaith
- Pam y dylid adrodd am ddamweiniau, digwyddiadau a phroblemau â'r camau priodol i'w cymryd
- Gweithdrefnau i'w dilyn ar gyfer mathau gwahanol o argyfyngau sydd yn berthnasol i'r diwydiant yr ydych yn gweithio ynddo e.e. tân, damwain.