Tocio traeth gwartheg

URN: LANCFT2
Sectorau Busnes (Suites): Tân ac Achub - ymdrin ag achosion o Danau Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Hyd 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i docio traed gwartheg.

Mae angen gwirio traed gwartheg yn rheolaidd a'u tocio lle bo angen er mwyn cynnal iechyd traed yr anifail. Mae traed yn cael eu tocio er mwyn creu troed weithredol, gytbwys a gwella ymsymudiad a lleddfu poen.

Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a sicrhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer tocwyr traed gwartheg sydd wedi cael hyfforddiant a chymwysterau priodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 cynnal safon uchel o ymddygiad proffesiynol a moesegol a gweithio o fewn cyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun

P2 sicrhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol anifeiliaid fferm bob amser

P3 gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol

P4 sicrhau bod lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch yn cael eu gweithredu

P5 defnyddio arferion gwaith sy’n lleihau’r perygl o anaf personol neu broblemau iechyd

P6 sicrhau bod yr anifail wedi ei atal yn ddiogel, yn gadarn ac yn waraidd ac nad yw’n dangos arwyddion o drallod

P7 asesu’r cyflwr a chydymffurfiad y traed er mwyn nodi unrhyw broblemau a phenderfynu ar ofynion tocio priodol

P8 nodi achosion posibl o anafiadau, y camau gweithredu sydd eu hangen a phryd i argymell cyngor/sylw gan filfeddyg

P9 tocio traed y gwartheg yn ddiogel ac yn effeithiol, gan ddefnyddio offer a dulliau priodol yn cynnwys defnyddio blociau carnau/crafangau lle bo angen

P10 monitro lles yr anifail trwy’r broses docio a sicrhau bod yr anifail yn cael ei gadw yn y cyffglo cyn lleied â phosibl

P11 rhyddhau’r anifail o’r cyffglo mewn ffordd ddiogel a sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd i fan diogel ar ôl ei ryddhau

P12 cwblhau cofnodion o’r canfyddiadau, y camau i’w cymryd ac unrhyw argymhellion

P13 glanhau a diheintio’r offer ar ôl tocio er mwyn cynnal hylendid a bioddiogelwch

P14 cynnal cymhwysedd proffesiynol trwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​G1 eich cyfrifoldebau proffesiynol a moesegol a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad

G2 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid bresennol, rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol eraill ar gyfer anifeiliaid fferm, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Milfeddygon Llawfeddygol (1966) yn ymwneud â diagnosis a thriniaeth o glefydau neu anafiadau

G3 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

G4 sut y gall y tociwr drosglwyddo neu achosi clefydau, a ffyrdd o atal hyn

G5 pwysigrwydd cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch priodol a sut y gellir cyflawni hyn

G6 peryglon anafiadau personol neu broblemau iechyd sy’n gysylltiedig â’ch gwaith a sut y gellir lleihau’r rhain

G7 pwysigrwydd monitro lles yr anifail trwy gydol y broses

G8 sut i asesu cyflwr y droed ac adnabod anafiadau

G9 achosion posibl anafiadau’r droed

G10 effaith llety/amgylchedd a deiet ar gyflwr y droed a thwf cyrn

G11 arwyddion sy’n dangos haint a dulliau posibl o’i reoli

G12 pryd i argymell cyngor/sylw milfeddyg

G13 sut i gynnal gweithdrefnau tocio traed gwartheg a’r camau y dylid eu dilyn

G14 y rhesymau dros ddefnyddio blociau carnau/crafangau, y dull cywir o’u defnyddio a phryd y dylid eu tynnu

G15 y gofynion cyfreithiol perthnasol a gofynion eraill ar gyfer cadw cofnodion a’r wybodaeth y dylid ei chynnwys ynddynt

G16 pwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol

G17 pwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol a rôl sefydliadau proffesiynol


Cwmpas/ystod

​Mae anafiadau'r traed yn cynnwys:

1 dermatitis digidol
2 erydiad corn sawdl (sawdl biswail, dermatitis rhyngddigidol)
3 tyfiant rhyngddigidol
4 troed glonc (luer)
5 cleisio'r gwadn/gwaedlif y gwadn (camweithrediad y croen, amhariad corn sawdl)
6 madredd y bysedd
7 briw gwadn
8 clefyd y llinell wen

Effaith llety/yr amgylchedd ar gyflwr y traed yn cynnwys:

9 maint/esmwythder y ciwbicl (ansawdd, argaeledd)/amserau gorwedd
10 awyru
11 goleuo
12 cyflwr o dan y traed/arwyneb y llawr
13 mynediad i fwyd a dŵr

Effaith deiet ar dwf cyrn yn cynnwys:

14 dim digon o ffibr yn y deiet
15 unrhyw gamreolaeth faethol sy'n arwain at sgôr cyflwr isel (llai na CS 2) neu golli gormod o bwysau
16 pH blaenstumog isel (asidosis)

Arwyddion sy'n dangos haint:

17 cloffni
18 gwres
19 chwyddo
20 cochni/arogl/rhedlif

Dulliau rheoli:

21 bath traed
22 chwistrellu rhai anifeiliaid yn lleol
23 llety glân
24 tocio fel mater o drefn

Camau a ddefnyddir wrth docio:

25 crafanc fewnol ar y traed ôl, hyd a lefel gywir
26 crafanc allanol ar y droed ôl, hyd a lefel gywir
27 modelu
28 gwahaniaeth uchder os oes angen
29 tynnu cyrn rhydd
30 ymwybyddiaeth o ewinedd fferau a gwirio'r croen ymhellach am haint

Rhesymau dros ddefnyddio blociau carnau/crafangau:

31 gwella ymsymud
32 lleddfu poen
33 hybu gwella
34 trosglwyddo pwysau

Paratoi a defnyddio blociau carnau/crafangau:

35 paratoi'r droed (crafanc wastad)
36 glanhau'r grafanc
37 dewis bloc priodol
38 creu bloc gwastad, llyfn, sefydlog
39 defnyddio a storio gludydd yn gywir
40 argymhellion ar gyfer ôl-ofal

Rhesymau dros dynnu blociau carnau/crafangau:

41 os yw traul anwastad o'r bloc yn golygu bod yr anifail yn cerdded yn ôl ar ei sawdl
42 os yw'r bloc neu'r gludydd yn achosi llid neu anesmwythdra trwy rwbio ar y grafanc
43 os yw'r bloc wedi bod yn ei le am fwy na 6 wythnos

Dylai'r cofnodion gynnwys:

44 nifer a hunaniaeth yr anifeiliaid a dociwyd
45 y dyddiad tocio
46 canfyddiadau/anafiadau a nodwyd

47 y weithdrefn
48 sylwadau eraill e.e. ymweliadau yn y dyfodol, argymhellion i gael cyngor milfeddygol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Hyd 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCFT2

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwartheg; anifail; troed; tocio; anafiadau