Cyflawni’r cynlluniau ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae’r uned hon yn bwysig wrth wneud yn siŵr bod eich cynlluniau ar gyfer eich busnes yn cael eu cyflawni’n gywir. Dyma beth gwerthfawr i’w wneud i sicrhau bod eich busnes wir yn mynd i’r cyfeiriad rydych am iddo fynd.
Gallech wneud hyn os ydych chi’n rhedeg:
- eich busnes eich hun
- busnes masnachfraint neu fformat
- menter gymdeithasol
Mae’r uned hon yn cynnwys cyflawni eich cynlluniau ar gyfer eich busnes:
- penderfynu sut i farnu llwyddiant
- penderfynu pwy sy’n gwneud beth a phryd
- meddwl am broblemau posibl
- monitro a rheoli cynnydd
- gwerthuso eich cynlluniau i sicrhau eu bod wedi cyflawni’r hyn roeddech chi eisiau iddynt eu cyflawni
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- penderfynu beth sydd angen ei wneud, a phryd, i roi eich cynlluniau ar waith
- penderfynu beth sydd ei angen arnoch i gyflawni eich cynlluniau, a sut byddwch yn ei gael
- gwneud yn siŵr na fydd canlyniadau eich cynlluniau yn niweidio’ch busnes
- meddwl am unrhyw broblemau a allai atal canlyniadau eich cynlluniau rhag cael eu cyflawni a nodi ffyrdd o ddelio â nhw
- penderfynu pryd a sut byddwch chi’n monitro cynnydd yn erbyn eich cynlluniau a gwirio cynnydd yn rheolaidd
- gwneud yn siŵr bod pawb sy’n ymwneud â’ch busnes yn gwybod am eich cynlluniau ac y byddant yn helpu i’w gwneud yn llwyddiannus
- gwneud yn siŵr bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac yn y ffordd orau bosibl
- gwirio’n rheolaidd gyda’r bobl sy’n ymwneud â rhoi eich cynlluniau ar waith i weld beth yw eu barn am gynnydd
- nodi problemau o ran rhoi eich cynlluniau ar waith a gweithredu’n brydlon i’w datrys a’u newid, os bydd angen
- gwirio pa adnoddau sydd ar gael o hyd os na fydd cynlluniau’n mynd yn eu blaen fel yr ydych yn disgwyl
- nodi unrhyw gyfleoedd newydd sy’n dod i’r amlwg a gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’ch cynlluniau
- asesu, costau, buddion a llwyddiannau cynlluniau mewn ffordd deg a chywir
- penderfynu pa adnoddau oedd yn fwyaf defnyddiol o ran bodloni’r nodau a’r targedau a osodwyd
- adolygu eich cynlluniau tymor hir i’ch busnes gan ddefnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi’i chasglu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio
1 sut i rannu targedau mawr yn weithgareddau ag amserlenni a therfynau amser y gellir eu cyflawni a’u mesur
2 pa broblemau allai atal eich cynlluniau rhag cael eu cyflawni (er enghraifft, newidiadau yn y farchnad, cystadleuaeth, diffyg adnoddau, newidiadau i staffio neu newidiadau i gyfreithiau neu reoliadau anstatudol)
3 sut i gynllunio ffyrdd o osgoi unrhyw ansicrwydd (cynllunio wrth gefn)
Adnoddau
4 pa adnoddau y mae eu hangen i gyflawni eich cynlluniau, sut byddwch yn eu cael a faint fydd eu cost (er enghraifft cynnyrch, staff, cyllid, safle, peirannau, cyfarpar, marchnata a gweinyddu)
Symbylu pobl eraill
5 pwy ddylai gymryd rhan mewn rhoi eich cynlluniau ar waith, a sut a pham y dylid ymgynghori â nhw
6 sut i gyfathrebu â phawb sydd ynghlwm â’ch busnes am eich cynlluniau a sut i symbylu pobl a’u hannog nhw i roi eich cynlluniau ar waith
Monitro
7 sut i osod terfynau amser ar gyfer cyflawni nodau a thargedau, olrhain ac adolygu cynnydd
8 pa drefniadau monitro sy’n addas (er enghraifft pam, pryd, sut a pha mor aml) a phwy i’w cynnwys
9 sut a phryd i adolygu’r adnoddau a ddefnyddiwyd ar gyfer eich cynlluniau a sut i asesu eu heffeithiolrwydd
10 sut i wneud asesiadau teg a chywir gan ddefnyddio safbwyntiau pobl eraill a’u cydbwyso â’ch safbwyntiau chi, ynghyd â chasglu gwybodaeth arall am eich busnes
11 sut byddwch chi’n barnu costau, buddion a llwyddiannau eich cynlluniau
Ffocws busnes
12 sut i nodi cyfleoedd newydd a beth maen nhw’n debygol o’u cynnwys (er enghraifft, marchnadoedd, cynnyrch neu wasanaethau newydd, newidiadau yng ngweithgareddau cystadleuwyr, materion lleol neu faterion y llywodraeth)