Lleoli, monitro a chynnal casglwyr silod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â lleoli, monitro a chynnal casglwyr silod ar gyfer casglu silod cregynbysgod, (diffinnir "silod" fel cregynbysgod ifanc a had cregynbysgod). Mae'n ymwneud â'r gwaith sydd yn gysylltiedig â lleoli, monitro a chynnal casglwyr silod cregynbysgod. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn lleoli, monitro a chynnal casglwyr silod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion perthnasol iechyd a diogelwch
- gosod cyfarpar casglu silod yn barod ar gyfer ei leoli
- lleoli cyfarpar casglu silod mewn lleoliadau penodedig, i gynyddu faint o silod sydd yn cael eu casglu
- monitro ac adrodd am gwymp silod
- cynnal cyfarpar casglu silod i gynyddu faint o rywogaethau o silod cregynbysgod sydd yn cael eu casglu
- cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch
- darparu gwybodaeth i gadw cofnodion o weithgareddau casglu silod yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau casglu silod
cyfnodau bywyd cynnar cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
- anghenion datblygu silod
- swyddogaeth a strwythur cyfarpar casglu silod
- sut i adnabod silod rhywogaethau cregynbysgod sydd yn cael eu targedu a rhai nad ydynt yn cael eu targedu
- sut i adnabod rhywogaethau ysglyfaethwyr a rhywogaethau lleuog
- y lleoliadau lle mae cwymp silod yn debygol o ddigwydd
- pam y mae'n bwysig cynnal cyflwr cyfarpar casglu silod wrth gasglu silod
- gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch effeithiol
- y ffordd y mae amodau amgylcheddol yn dylanwadu ar atgynhyrchu cregynbysgod a chwymp silod
- gwaith clymau a rhaff sylfaenol casglu silod
- y gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion o weithgareddau casglu silod
Cwmpas/ystod
monitro ac adrodd ar gwymp silod o ran:
- dwysedd silod targed
- presenoldeb rhywogaethau ysglyfaethwyr
- presenoldeb rhywogaethau lleuog
- presenoldeb rhywogaethau cregynbysgod nad ydynt yn cael eu targedu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
silod – cregynbysgod ifanc a had cregynbysgod
rhywogaethau ysglyfaethwyr – e.e sêr môr, crancod
rhywogaethau lleuog – anifeiliaid a phlanhigion sydd yn cysylltu eu hunain i gregynbysgod, gan gyfyngu ar allu'r cregynbysgod i weithredu ac effeithio ar eu derbynioldeb yn y farchnad
rhywogaethau o gregynbysgod nad ydynt yn cael eu targedu – rhywogaethau cregynbysgod nad ydych yn ceisio eu casglu
cwymp silod – pan fydd cregynbysgod yn dod i orffwys y tu hwnt i'w cyfnod nofio rhydd planctonig