Cynnal gweithredoedd puro cregynbysgod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phuro cregynbysgod. At ddiben y safon hon, "puro" yw'r broses a ddefnyddir i buro cregynbysgod deuglawr i gyflwr sydd yn addas i bobl eu bwyta. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i wneud y gweithgareddau puro canlynol:
- paratoi cregynbysgod a chyfarpar
- llwytho cregynbysgod i gael eu puro
- gwirio amodau amgylcheddol
- dadlwytho cregynbysgod wedi eu puro
- labelu cregynbysgod ar gyfer eu cludo
- cludo cregynbysgod wedi eu puro
- glanhau cyfleusterau puro
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal gweithgareddau puro cregynbysgod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- paratoi system buro ar gyfer derbyn dŵr sterileiddio a chregynbysgod, gan gynnal amodau gwaith glân
- paratoi a chyflyru cregynbysgod yn barod i'w hychwanegu i'r system buro
- llwytho cregynbysgod i systemau puro ar ddwysedd penodedig
- gwirio amodau amgylcheddol yn y system buro i gyflawni'r puro gofynnol
- adrodd am unrhyw broblemau gyda'r broses buro
- dadlwytho cregynbysgod ar ôl cael eu puro, mewn ffordd sydd yn lleihau'r straen a achosir i'r cregynbysgod ac yn osgoi ailhalogi
- golchi, paratoi a labelu cregynbysgod ar gyfer eu cludo
- glanhau'r cyfleusterau puro i gyflwr glân yn barod ar gyfer y swp nesaf o gregynbysgod
- darparu gwybodaeth i gadw cofnodion puro a chludo cregynbysgod i fodloni gofynion cyfreithol â'r gofynion y safle.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â'r broses buro
y gofynion hylendid a diogelwch bwyd sydd yn gysylltiedig â phuro a'ch cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelwch bwyd
- problemau iechyd dynol cyffredin y gellir eu hachosi gan gregynbysgod sydd heb gael eu puro
- y gofynion cyfreithiol y broses buro
- pam mae cregynbysgod yn cael eu golchi cyn eu puro
- pam y mae'n bwysig symud cregynbysgod marw neu wedi eu niweidio cyn i'r puro ddechrau
- pam y mae'n bwysig cadw at lefelau dwysedd penodedig wrth lwytho cregynbysgod i mewn i'r system buro
- yr amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol ar gyfer puro effeithiol
- y dosbarthiadau a roddir i ardaloedd tyfu cregynbysgod a sut mae hyn yn effeithio ar ofynion puro
- y gofynion Dadansoddi Peryglon a Mannau Rheoli Hanfodol (HACCP) mewn perthynas â'r broses buro
- sut mae cregynbysgod yn dioddef straen a pham y mae'n bwysig lleihau'r straen a achosir
- sut i gludo cregynbysgod fel bod eu hansawdd yn cael ei gynnal
- y gofynion labelu ar gyfer cludo cregynbysgod
- arwyddocâd halogiad cregynbysgod i iechyd y cyhoedd
- y gofynion amser cyfreithlon ar gyfer puro
- cyfyngiadau'r broses buro
- gweithdrefn y safle ar gyfer ymdrin â chregynbysgod marw neu wedi eu niweidio
- y gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion puro a chludo cregynbysgod, yn cynnwys gwybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer eu holrhain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
amodau amgylcheddol – tymheredd, llif dŵr, lleidiogrwydd, halltedd, ocsigen toddedig
paratoi a chyflyru cregynbysgod – golchi, symud cregynbysgod marw, symud cregynbysgod wedi eu niweidio