Casglu gwybodaeth am dwf a datblygiad pysgod
URN: LANAqu7
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
29 Ebr 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu gwybodaeth i fonitro twf a datblygiad pysgod. Mae'n cynnwys paratoi a chynnal a chadw cyfarpar mesur a chasglu gwybodaeth a ddefnyddir i bennu twf a datblygiad pysgod. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithredfnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn casglu gwybodaeth am dwf a datblygiad pysgod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion perthnasol iechyd a diogelwch
- paratoi cyfarpar pwyso a mesur i gasglu gwybodaeth gywir am dwf a datblygiad pysgod
- cael samplau cynrychioliadol o bysgod o unedau cadw tra'n amharu cyn lleied â phosibl ar y pysgod sydd ar ôl
- anestheteiddio pysgod, lle bo angen, i'r cyfnod cywir o anesthesia
- defnyddio cyfarpar mesur yn gywir i bennu twf a datblygiad pysgod
- paratoi a thrafod pysgod mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd a lles
- cadw cyfarpar mesur mewn cyflwr gweithredol trwy gydol y broses samplu
- glanhau a storio cyfarpar mesur pysgod ar ôl ei ddefnyddio
- cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch
- darparu gwybodaeth i gadw cofnodion twf a datblygiad pysgod yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â'r broses samplu
pwysigrwydd casglu gwybodaeth gywir ar dwf a datblygiad pysgod i gynhyrchiant fferm bysgod
- sut gall anesthetigion gael eu defnyddio i gynorthwyo'r gwaith o gasglu data cywir a lleihau'r straen a achosir i bysgod, a sut i sicrhau bod y maint cywir o anesthetig yn cael ei weinyddu
- y mesuriadau safonol a ddefnyddir yn gyffredin i nodi maint pysgod unigol
- pwysigrwydd cynnal a chadw cyfarpar mesur mewn cyflwr gweithredol, yn cynnwys cadw graddnodau yn gywir
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch
- sut i gasglu samplau cynrychioliadol o bysgod
- sut caiff asesiadau eu defnyddio i bennu perfformiad er mwyn bodloni targedau cynhyrchu
- y cyfarpar â'r dulliau a ddefnyddir i samplu ac asesu pysgod
- y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion twf a datblygiad pysgod
Cwmpas/ystod
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn pennu twf a datblygiad pysgod yn cynnwys:
- magu pwysau
- newidiadau mewn hyd
- nodweddion corfforol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Ebr 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAqu7
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermio Pysgod
Cod SOC
9119
Geiriau Allweddol
pysgod; twf; datblygiad