Bwydo Pysgod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â bwydo pysgod yn unol â chyfundrefnau bwydo a nodir, rhai fel mater o drefn ac arbenigol. Mae'n cynnwys cael bwyd, a chynnal a chadw cyfarpar a pheiriannau bwydo er mwyn gallu bwydo yn gywir. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn bwydo pysgod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion perthnasol iechyd a diogelwch
- cynnal storfa fwyd lân ar draws y safle
- bwydo pysgod yn unol â manyleb fwydo a nodir, gan wastraffu cyn lleied â phosibl
- arsylwi ac adrodd ar ymddygiad bwydo
- monitro bwyd sydd yn cael ei fwyta a'i wastraffu
- gosod, graddnodi a chynnal cyfarpar bwydo i sicrhau ei fod mewn cyflwr gweithredol da
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau rheoli gwastraff safle
- darparu gwybodaeth i gadw cofnodion gweithgareddau bwydo yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â bwydo
y nodweddion â'r mathau o fwyd sydd yn addas ar gyfer bwydo pysgod yn ystod cyfnodau datblygiad gwahanol
- y gofynion storio bwyd pysgod yn cynnwys pwysigrwydd rheoli plâu yn effeithiol
- pwysigrwydd dilyn amserlenni bwydo a nodir a lleihau gwastraff
- sut i adnabod bwyd o ansawdd gwael â'r problemau y gellir eu hachosi os caiff ei roi i bysgod
- y mathau gwahanol o systemau bwydo a ddefnyddir ar y safle
- pam y mae bwydo'n cael ei addasu mewn ymateb i amodau amgylcheddol
- ymddygiad bwydo arferol yn cynnwys arwyddion sydd yn dangos bod pysgod yn llawn
- sut gall ansawdd dŵr a gollyngiadau solidau mewn daliant gael eu heffeithio gan weithgaredd bwydo
- sut mae cyfraddau bwydo yn cael eu cyfrifo
- sut a pham y mae bwydwyr yn cael eu gosod, eu graddnodi a'u cynnal a'u cadw
y systemau a ddefnyddir i fonitro'r bwyd sydd yn cael ei fwyta a gwastraff (yn cynnwys ystyried bwyd o ansawdd gwael, bwyd heb ei fwyta a deunydd pecynnu)
cydrannau bwydydd a'u rôl yn natblygiad pysgod
- y ffordd y mae gofynion cwsmeriaid a gofynion ansawdd yn dylanwadu ar gynnwys y bwyd a ddefnyddir
- sut mae cyfraddau trosi bwyd yn cael eu cyfrifo ar gyfer stoc pysgod, y ffactorau sydd yn effeithio arno a'i bwysigrwydd i'r broses gynhyrchu
- arwyddocâd ariannol costau bwyd wrth gynhyrchu pysgod sydd yn cael eu ffermio
- pwysigrwydd hylendid da wrth fwydo pysgod
- y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion gweithgareddau bwydo
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
cyfundrefn fwydo fel mater o drefn – gweithgareddau bwydo arferol
cyfundrefn fwydo arbenigol – bwydo i gefnogi gofynion penodol e.e. ymprydio, triniaethau mewn bwyd, darparu lliw, deiet gleisiad, imiwno-gyfnerthwyr
amodau amgylcheddol – y tywydd, newidiadau i ansawdd dŵr