Cynaeafu pysgod

URN: LANAqu5
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithrediadau cynaeafu pysgod, lle mae pysgod yn cael eu cludo er mwyn i bobl eu bwyta. Mae'n cynnwys paratoi cyfleusterau a chyfarpar cynaeafu yn barod ar gyfer trafod a chludo'r pysgod mewn ffordd lân. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynaeafu pysgod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud gwaith yn unol â'r gofynion perthnasol iechyd a diogelwch

  2. sicrhau bod y pysgod wedi cael eu cyflyru yn barod i'w cludo

  3. paratoi cyfarpar a chyfleusterau cynaeafu i hwyluso cludo a storio pysgod yn effeithiol
  4. cymhwyso dulliau cynaeafu yn effeithiol mewn ffordd sydd yn lleihau straen a achosir i bysgod
  5. cludo pysgod yn drugarog
  6. trafod pysgod wedi eu cynaeafu mewn ffordd sydd yn cynnal ansawdd y cig
  7. sefydlu pysgod yn effeithiol o fewn storfa oer
  8. dilyn gweithdrefnau hylendid safle yn unol ag arfer da a deddfwriaeth hylendid
  9. arsylwi ac adrodd ar bysgod sydd wedi eu cynaeafu ac amrywiadau o fanyleb cynaeafu disgwyliedig
  10. ymdrin â physgod nad ydynt yn bodloni manylebau cynaeafu yn unol â gweithdrefnau'r safle
  11. glanhau a storio cyfarpar cynaeafu ar ôl ei ddefnyddio
  12. gwaredu gwastraff (gwaed, pysgod nad ydynt yn bodloni manylebau ansawdd) yn unol â gweithdrefnau rheoli gwastraff y safle
  13. darparu gwybodaeth i gadw cofnodion i gefnogi cynaeafu yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gofynion y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chynaeafu pysgod
  2. y ffordd y mae deddfwriaeth berthnasol yn rheoli cynhyrchu pysgod i gael eu bwyta gan bobl
  3. gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli cludo pysgod
  4. eich cyfrifoldebau eich hun yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol hylendid bwyd
  5. y gofynion cludo pysgod yn drugarog, yn cynnwys y dulliau â'r technegau gwahanol a ddefnyddir
  6. y ffordd y mae deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol yn rheoli gwaredu gwastraff
  7. sut a pham y mae pysgod sydd wedi eu cynaeafu yn cael eu storio i gynnal ansawdd cig yn cynnwys y defnydd o rew i gyd-fynd ag amodau amgylcheddol cyffredin
  8. pam y mae'n bwysig lleihau straen i bysgod wrth gynaeafu
  9. pam y mae'n hanfodol i bysgod wedi eu cynaeafu fodloni gofynion cwsmeriaid a gofynion ansawdd
  10. sut a pham y mae pysgod yn cael eu cyflyru er mwyn paratoi ar gyfer cynaeafu
  11. y cyfarpar â'r dulliau a ddefnyddir i gynaeafu pysgod
  12. sut i ymdrin â ffactorau sydd yn gallu amharu ar y broses gynaeafu, o fewn terfynau eich awdurdod eich hun
  13. y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion cynaeafu

Cwmpas/ystod

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwybod sut i ymdrin â'r ffactorau canlynol wrth gynaeafu:

  1. newidiadau mewn amodau amgylcheddol
  2. cyfarpar yn camweithredu
  3. pysgod nad ydynt yn bodloni manylebau a nodir.

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

cyflyru - e.e. symud bwyd, cael gwared ar weddillion, yn rhydd rhag clefydau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu5

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; cynaeafu