Graddio pysgod/cregynbysgod byw
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â graddio pysgod neu gregynbysgod byw fel rhan o hwsmonaeth arferol. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau rheoli safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn graddio pysgod/cregynbysgod byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
sefydlu cyfarpar ac ardaloedd graddio er mwyn graddio pysgod/cregynbysgod byw yn effeithiol yn unol â'r gofynion graddio
- lle y bo'n briodol, sicrhau bod pysgod/cregynbysgod wedi cael eu cyflyru yn barod ar gyfer graddio
- trafod pysgod/cregynbysgod wrth eu graddio mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd a lles
- cynnal a chadw cyfarpar graddio mewn cyflwr gweithredol trwy gydol y broses raddio
- arsylwi ac adrodd ar berfformiad y weithred o raddio, gan sicrhau cydymffurfio â'r fanyleb
- ailsefydlu pysgod mewn unedau cadw gan ddilyn y broses raddio, yn unol â'r gofynion graddio
- arsylwi ac adrodd ar gyfraddau ymddygiad/marwolaethau pysgod/cregynbysgod sydd newydd gael eu hailstocio
- glanhau a storio cyfarpar graddio pysgod ar ôl ei ddefnyddio
- darparu gwybodaeth i gynnal cofnodion graddio yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â'r broses raddio
cyfarpar graddio ar gyfer y pysgod/cregynbysgod i gael eu graddio
- manteision ac anfanteision y dulliau graddio gwahanol
- pwysigrwydd graddio cywir i reolaeth pysgod/cregynbysgod iach
- effaith bosibl amodau amgylcheddol niweidiol ar y weithred raddio
- pam y mae pysgod/cregynbysgod yn cael eu graddio fel rhan o raglenni hwsmonaeth
- arwyddion sydd yn dangos straen neu anhwylder mewn pysgod/cregynbysgod wrth raddio
- y ffordd y gall cyfarpar graddio niweidio pysgod/cregynbysgod, os nad yw mewn cyflwr gweithredol
- gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch effeithiol wrth raddio pysgod/cregynbysgod byw
- y cyfarpar â'r dulliau a ddefnyddir i raddio pysgod/cregynbysgod byw ar y safle
- y ffordd y mae pysgod/cregynbysgod byw yn cael eu graddio yn ôl eu nodwedion gwahanol (manyleb, maint, ansawdd, cyflwr)
- sut i ymdrin â ffactorau sydd yn gallu amharu ar y broses raddio o fewn terfynau eich awdurdod
- y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion graddio
Cwmpas/ystod
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwybod sut i ymdrin â'r ffactorau canlynol wrth raddio:
- newidiadau mewn amodau amgylcheddol
- cyfarpar yn camweithredu
- materion iechyd a lles mewn pysgod/cregynbysgod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
cyflyru - e.e. symud bwyd, triniaethau
unedau cadw – cyfleusterau a ddefnyddir i gadw pysgod neu gregynbysgod mewn amgylchedd cynhyrchu wedi ei reoli e.e. cewyll, llociau, pyllau, tanciau, leiniau hir, rhedfeydd rasio, rhwydi llusern, hosanau/tiwbiau, bagiau, ac ati