Gweithio’n ddiogel mewn amgylchedd dyfrol LEGACY

URN: LANAqu37L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio'n ddiogel mewn amgylchedd dyfrol.

Mae'n cynnwys deall y gofynion iechyd a diogelwch a pholisïau'r safle gwaith a gallu cynnal eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill. Mae'n cynnwys pwysigrwydd cynnal asesiadau risg yn barhaus a chymryd y camau perthnasol i gynnal gwaith diogel ar y safle. Mae'n rhaid eich bod yn gallu dilyn y gweithdrefnau gofynnol os bydd damwain neu argyfwng.

Mae'r safon hon ar gyfer pawb sydd yn gweithio mewn amglchedd dyfrol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dilyn y gofynion iechyd a diogelwch cyfreithiol perthnasol, yn ogystal â rhai eich sefydliad, wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
  2. nodi peryglon ac asesu'r risg i iechyd a diogelwch wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
  3. gweithio mewn ffordd sydd yn lleihau'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a iechyd a diogelwch pobl eraill
  4. cymryd gofal i ddiogelu eich hun rhag anaf, clefydau neu broblemau iechyd eraill
  5. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer yr amgylchedd a'r gwaith i gael ei wneud
  6. gwirio cyflwr ac effeithiolrwydd cyfarpar diogelu personol (PPE) a sicrhau ei fod yn cael ei gadw'n lân i osgoi lledaenu rhywogaethau ymledol neu blâu neu glefydau eraill
  7. defnyddio dulliau diogel o godi a thrin i leihau'r perygl o anaf
  8. paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio cyfarpar a pheiriannau yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a'r gweithle a deddfwriaeth berthnasol
  9. trin, defyddio a storio sylweddau peryglus yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r ddeddfwriaeth berthnasol
  10. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad a mabwysiadu systemau gwaith diogel wrth weithio ar eich pen eich hun mewn mewn sefyllfa a allai fod yn fygythiol
  11. defnyddio a gweithredu dyfeisiadau cyfathrebu i gynorthwyo eich diogelwch personol
  12. addasu gwaith i ystyried tywydd cyffredin ac amodau amgylcheddol
  13. rhoi'r gorau i weithio ar unwaith os oes perygl o ddamwain neu anaf a chymryd y camau gofynnol
  14. dilyn y gweithdrefnau perthnasol yn ddiogel a heb oedi mewn sefyllfa o argyfwng 
  15. adrodd a chofnodi damweiniau, digwyddiadau a damweiniau fu bron a digwydd yn unol â'r gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. prif gyfrifoldebau eich cyflogwr ar gyfer iechyd a diogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol
  2. eich cyfrifioldeb cyfreithiol a sefydliadol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch
  3. gofynion iechyd a diogelwch eich sefydliad wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
  4. yr effaith y gall damweiniau, digwyddiadau a salwch yn ymwneud â gwaith ei chael ar bobl a busnesau
  5. pryd y dylid cynnal asesiadau risg a rôl asesu risg deinamig
  6. y risg o anaf personol, dal clefyd neu broblemau iechyd corfforol neu feddyliol eraill sydd yn gysylltiedig â gweithio mewn amgylchedd dyfrol a sut gellir lleihau'r rhain
  7. pwysigrwydd cyfarpar diogelu personol (PPE) i gynnal diogelwch wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
  8. y defnydd a chymhwysiad cywir cyfarpar diogelu personol (PPE)

  9. pwysigrwydd cadw cyfarpar diogelu personol yn lân a'r broses y dylid ei dilyn ar gyfer hyn

  10. y risg o anaf sydd yn gysylltiedig â chodi a thrin a sut gellir lleihau'r rhain
  11. y dulliau diogel o baratoi, defnyddio, cynnal a storio cyfarpar a pheiriannau
  12. defnyddio, trin a storio sylweddau peryglus yn ddiogel, yn cynnwys nwyon mewn potel
  13. y risg o weithio'n ynysig neu mewn lleoliadau pellennig neu sefyllfaoedd a allai fod yn fygythiol a'r angen i ddilyn systemau gwaith diogel a gweithdrefnau brys
  14. sut i weithredu dyfeisiadau cyfathrebu sydd yn ofynnol yn y safle gwaith
  15. y risg sydd yn gysylltiedig â'r tywydd ac amodau amgylcheddol wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
  16. y mathau gwahanol o argyfyngau a allai ddigwydd wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol, yn cynnwys damweiniau, digwyddiadau a damweiniau fu bron â digwydd a'r camau y dylid eu cymryd
  17. y technegau goroesi dŵr oer personol
  18. y gweithdrefnau i'w dilyn mewn sefyllfa o argyfwng
  19. y gofynion cyfreithiol a gofynion eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac adrodd am argyfyngau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Peryglon – rhywbeth â'r potensial i achosi niwed

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) – gallai gynnwys:

  • siacedi achub/cymhorthion hynofedd
  • esgidiau glaw/esgidiau pysgota
  • anadlwyr/masgiau llwch
  • myffiau/plygiau clust
  • amddiffynwyr pen/hetiau caled
  • menig
  • amddiffynwyr llygaid
  • esgidiau diogelwch
  • dillad llachar
    *
    *

Risg – y tegybolrwydd o botensial y perygl yn cael ei wireddu

Mewn amgylchedd dyfrol mae'r risgiau mwyaf cyffredin yn deillio o:

  • syrthio i mewn i ddŵr a boddi
  • hypothermia
  • effaith gwrthrychau/malurion sydd yn arnofio neu o dan y dŵr
  • cyswllt â dŵr wedi ei halogi e.e. risg o glefyd Weil
  • peiriannau neu gyfarpar
  • codi a thrin
  • cemegion a sylweddau peryglus, yn cynnwys microorganebau
  • pryfed yn cnoi/pigo
  • mannau cyfyng
  • ffynonellau pŵer: nwyon, trydan, aer cywasgedig
  • llithro, baglu a syrthio
  • effaith tywydd eithafol
  • gweithio ar eich pen eich hun

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu37

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod, Cadwraeth Amgylcheddol

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

iechyd a diogelwch; dyfrol