Gweithio’n ddiogel mewn amgylchedd dyfrol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio'n ddiogel mewn amgylchedd dyfrol.
Mae'n cynnwys deall y gofynion iechyd a diogelwch a pholisïau'r safle gwaith a gallu cynnal eich diogelwch eich hun a diogelwch eraill. Mae'n cynnwys pwysigrwydd cynnal asesiadau risg yn barhaus a chymryd y camau perthnasol i gynnal gwaith diogel ar y safle. Mae'n rhaid eich bod yn gallu dilyn y gweithdrefnau gofynnol os bydd damwain neu argyfwng.
Mae'r safon hon ar gyfer pawb sydd yn gweithio mewn amglchedd dyfrol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dilyn y gofynion iechyd a diogelwch cyfreithiol perthnasol, yn ogystal â rhai eich sefydliad, wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
- nodi peryglon ac asesu'r risg i iechyd a diogelwch wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
- gweithio mewn ffordd sydd yn lleihau'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a iechyd a diogelwch pobl eraill
- cymryd gofal i ddiogelu eich hun rhag anaf, clefydau neu broblemau iechyd eraill
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer yr amgylchedd a'r gwaith i gael ei wneud
- gwirio cyflwr ac effeithiolrwydd cyfarpar diogelu personol (PPE) a sicrhau ei fod yn cael ei gadw'n lân i osgoi lledaenu rhywogaethau ymledol neu blâu neu glefydau eraill
- defnyddio dulliau diogel o godi a thrin i leihau'r perygl o anaf
- paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio cyfarpar a pheiriannau yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a'r gweithle a deddfwriaeth berthnasol
- trin, defyddio a storio sylweddau peryglus yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r ddeddfwriaeth berthnasol
- dilyn gweithdrefnau eich sefydliad a mabwysiadu systemau gwaith diogel wrth weithio ar eich pen eich hun mewn mewn sefyllfa a allai fod yn fygythiol
- defnyddio a gweithredu dyfeisiadau cyfathrebu i gynorthwyo eich diogelwch personol
- addasu gwaith i ystyried tywydd cyffredin ac amodau amgylcheddol
- rhoi'r gorau i weithio ar unwaith os oes perygl o ddamwain neu anaf a chymryd y camau gofynnol
- dilyn y gweithdrefnau perthnasol yn ddiogel a heb oedi mewn sefyllfa o argyfwng
- adrodd a chofnodi damweiniau, digwyddiadau a damweiniau fu bron a digwydd yn unol â'r gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prif gyfrifoldebau eich cyflogwr ar gyfer iechyd a diogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol
- eich cyfrifioldeb cyfreithiol a sefydliadol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch
- gofynion iechyd a diogelwch eich sefydliad wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
- yr effaith y gall damweiniau, digwyddiadau a salwch yn ymwneud â gwaith ei chael ar bobl a busnesau
- pryd y dylid cynnal asesiadau risg a rôl asesu risg deinamig
- y risg o anaf personol, dal clefyd neu broblemau iechyd corfforol neu feddyliol eraill sydd yn gysylltiedig â gweithio mewn amgylchedd dyfrol a sut gellir lleihau'r rhain
- pwysigrwydd cyfarpar diogelu personol (PPE) i gynnal diogelwch wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
y defnydd a chymhwysiad cywir cyfarpar diogelu personol (PPE)
pwysigrwydd cadw cyfarpar diogelu personol yn lân a'r broses y dylid ei dilyn ar gyfer hyn
- y risg o anaf sydd yn gysylltiedig â chodi a thrin a sut gellir lleihau'r rhain
- y dulliau diogel o baratoi, defnyddio, cynnal a storio cyfarpar a pheiriannau
- defnyddio, trin a storio sylweddau peryglus yn ddiogel, yn cynnwys nwyon mewn potel
- y risg o weithio'n ynysig neu mewn lleoliadau pellennig neu sefyllfaoedd a allai fod yn fygythiol a'r angen i ddilyn systemau gwaith diogel a gweithdrefnau brys
- sut i weithredu dyfeisiadau cyfathrebu sydd yn ofynnol yn y safle gwaith
- y risg sydd yn gysylltiedig â'r tywydd ac amodau amgylcheddol wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol
- y mathau gwahanol o argyfyngau a allai ddigwydd wrth weithio mewn amgylchedd dyfrol, yn cynnwys damweiniau, digwyddiadau a damweiniau fu bron â digwydd a'r camau y dylid eu cymryd
- y technegau goroesi dŵr oer personol
- y gweithdrefnau i'w dilyn mewn sefyllfa o argyfwng
- y gofynion cyfreithiol a gofynion eich sefydliad ar gyfer cofnodi ac adrodd am argyfyngau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Peryglon – rhywbeth â'r potensial i achosi niwed
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) – gallai gynnwys:
- siacedi achub/cymhorthion hynofedd
- esgidiau glaw/esgidiau pysgota
- anadlwyr/masgiau llwch
- myffiau/plygiau clust
- amddiffynwyr pen/hetiau caled
- menig
- amddiffynwyr llygaid
- esgidiau diogelwch
- dillad llachar
*
*
Risg – y tegybolrwydd o botensial y perygl yn cael ei wireddu
Mewn amgylchedd dyfrol mae'r risgiau mwyaf cyffredin yn deillio o:
- syrthio i mewn i ddŵr a boddi
- hypothermia
- effaith gwrthrychau/malurion sydd yn arnofio neu o dan y dŵr
- cyswllt â dŵr wedi ei halogi e.e. risg o glefyd Weil
- peiriannau neu gyfarpar
- codi a thrin
- cemegion a sylweddau peryglus, yn cynnwys microorganebau
- pryfed yn cnoi/pigo
- mannau cyfyng
- ffynonellau pŵer: nwyon, trydan, aer cywasgedig
- llithro, baglu a syrthio
- effaith tywydd eithafol
- gweithio ar eich pen eich hun