Rheoli cyfyngiant ar fferm bysgod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli cyfyngiant ar fferm bysgod. Mae'n cynnwys dylunio a gweithredu arferion fferm sydd yn cefnogi cyfyngiant ac yn lleihau'r posibilrwydd o ddianc.
Bydd y ddeddfwriaeth sydd yn rheoli cymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y fferm bysgod yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i sefydlu cynllun wrth gefn o ran pysgod yn dianc sydd yn disgrifio'r camau i'w cymryd i:
• ymchwilio i achos y dianc ac ymdrin ag ef
• hwyluso'r gwaith o ddal y pysgod sydd wedi dianc
• adrodd i'r rhanddeiliaid â'r awdurdodau rheoliadol.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am reoli cyfyngiant ar fferm bysgod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith iach, diogel a chadarn
sicrhau bod arferion gwaith y safle yn cynnal diogeledd a chyfyngiant ac yn lleihau'r perygl o'r pysgod yn dianc
- sicrhau bod cyfarpar a chyfleusterau yn cael eu sefydlu a'u cynnal yn unol â'r gofynion cyfreithiol a chanllawiau cynhyrchwyr
- sicrhau bod mesurau a rheolyddion atal plâu ac ysglyfaethwyr effeithiol, cyfreithiol yn cael eu sefydlu
- datblygu cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc
- cyfathrebu gofynion y cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc i bawb sydd yn gysylltiedig â'i weithredu
- rheoli'r gwaith o weithredu archwiliadau cyfyngiant
- rheoli dianc yn effeithiol yn unol â'r cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc
- sefydlu a chynnal cyfathrebiadau effeithiol gyda rhanddeiliaid a gwneuthurwyr polisïau
- gwerthuso effeithiolrwydd cyfyngiant
- rheoli cofnodion cyfyngiant yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer iechyd a diogelwch ar y safle
y gofynion cyfreithiol yn ymwneud â chyfyngiant â'r amgylchedd
- rôl a swyddogaeth y cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc
- y fframwaith â'r goblygiadau deddfwriaethol presennol yn dilyn torri amodau cyfyngiant
- sut mae deddfwriaeth yn rheoli arferion ffermio a chyfyngiant stoc
- y gofynion cyfyngiant y rhywogaethau o bysgod sydd yn cael eu ffermio
- sut i adrodd am achos o ddianc i'r awdurdod perthnasol
- y mesurau y gellir eu defnyddio i leihau effaith plâu ac ysglyfaethwyr
- achosion methu â chyfyngu a physgod yn dianc, yn cynnwys y rheiny sydd yn ymwneud â dyluniad ac adeiladwaith fferm bysgod
- sut i ddatblygu gweithdrefnau sefydliadol sydd yn ymwneud â chodau ymarfer sy'n berthnasol i'r diwydiant â'r gyfraith
- dyluniad a chynllun uned gadw, yn cynnwys cryfderau a gwendidau y systemau sydd yn cael eu defnyddio o ran cyfyngiant
- sut mae gweithdrefnau yn cael eu datblygu i leihau'r cyfle i ddianc
- y prosesau a ddefnyddir i fonitro cyflwr unedau cadw
- y broses archwilio sydd yn berthnasol i gyfyngiant
- y camau i'w dilyn i leihau effaith amgylcheddol dianc
- sut mae dyluniad ac adeiladwaith unedau cadw a chyfarpar trin yn cynorthwyo cyfyngiant
- y peryglon posibl i gyfanwaith unedau cadw
- y gofynion archwilio a phrofi unedau cadw
- y dulliau y gellir eu defnyddio i ddal pysgod sydd wedi dianc
- y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau safle ar gyfer rheoli cofnodion cyfyngiant
Cwmpas/ystod
Mae'r safon hon yn gofyn am y gallu i sefydlu cynllun wrth gefn i atal pysgod rhag dianc sydd yn disgrifio'r camau i'w cymryd i:
- ymchwilio ac ymdrin ag achos y dianc
- hwyluso'r gwaith o ddal pysgod sydd wedi dianc
- adrodd i randdeiliaid â'r awdurdod perthnasol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
rhanddeiliaid – unrhyw berson, unigolyn neu sefydliad sydd â budd yn safle'r fferm neu'r amgylchedd lleol