Rheoli systemau ailgylchrediad dyframaethu

URN: LANAqu35
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2015

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli system ailgylchrediad dyframaethu, a elwir hefyd yn Systemau Dyframaethu Ailgylchredeg (RAS), ar gyfer unrhyw bysgod neu gregynbysgod sydd yn cael eu ffermio. Mae’n cynnwys datblygu a rheoli gweithdrefnau i fonitro a chynnal yr amgylchedd cynhyrchu.

Mae’n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â safonau gweithredu safonol y safle ac yn unol â chodau ymarfer y diwydiant.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli system ailgylchrediad dyframaethu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith iach, diogel a chadarn

  2. cynllunio'r adnoddau sydd yn ofynnol i fonitro a chynnal y system ailgylchrediad dyframaethu

  3. pennu manyleb paramedrau ansawdd dŵr ar gyfer y system ailgylchrediad, sydd yn briodol ar gyfer y rhywogaethau o bysgod/cregynbysgod
  4. rheoli gweithdrefnau ar gyfer monitro a chynnal llif/cylchrediad dŵr o fewn unedau cadw
  5. rheoli gweithdrefnau i fonitro a chynnal cyflwr y cyfarpar hidlo a phuro dŵr
  6. dadansoddi data ar baramedrau ansawdd dŵr i nodi unrhyw ddiffyg cydymffurfio neu ddiffyg cydymffurfio posibl
  7. ymchwilio i achos unrhyw ddiffyg cydymffurfio a gweithredu i gyfyngu ar ei effaith
  8. datblygu gweithdrefnau i ymdrin ag argyfyngau system
  9. cael cymorth a chyngor arbenigol pan fo angen
  10. rheoli gweithdrefnau i gynnal iechyd a lles stoc wedi ei ffermio
  11. datblygu gweithdrefnau i reoli hylendid a bioddiogelwch
  12. gwerthuso llwyddiant gweithgareddau i reoli'r system ailgylchrediad dyframaethu
  13. rheoli cofnodion system ailgylchrediad dyframaethu yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â systemau ailgylchrediad dyframaethu

  2. paramedrau ansawdd dŵr ar gyfer y pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio a sut mae'r rhain yn cael eu mesur

  3. y gofynion lles yn ymwneud â rhwywogaethau a chyfnod bywyd y pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio a sut mae'r rhain yn cael eu cynnal yn y system ailgylchrediad
  4. rheoliadau yn ymwneud â chadw rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid
  5. cydrannau y system ailgylchrediad a sut maent yn cynorthwyo'r gwaith o drin dŵr
  6. y prosesau a ddefnyddir i fonitro'r amodau yn y system ailgylchrediad, llaw ac awtomataidd
  7. y data sydd yn ofynnol i fonitro'r system ailgylchrediad
  8. amserlenni cynnal a chadw a'u pwysigrwydd i weithrediad y system ailgylchrediad
  9. sut gellir gwneud addasiadau i gynnal yr amodau gofynnol
  10. sut mae deddfwriaeth yn effeithio ar y defnydd o ddŵr a gollyngiadau
  11. sut gall paramedrau ansawdd dŵr amhriodol effeithio ar iechyd a lles y rhywogaethau sydd yn cael eu ffermio
  12. sut i leihau effaith argyfyngau ar y pysgod
  13. systemau wrth gefn y safle a sut cânt eu defnyddio i gynnal amodau mewn argyfwng
  14. ffynonellau cyngor a chymorth arbenigol sydd yn gallu ymateb yn gyflym i'r systemau arbenigol
  15. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch mewn system ailgylchrediad
  16. y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau safle ar gyfer rheoli cofnodion system ailgylchrediad
  17. dulliau a ddefnyddir i werthuso llwyddiant gweithgareddau i reoli system ailgylchrediad dyframaethu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

diffyg cydymffurfio – lle mae paramedrau ansawdd dŵr y tu allan i lefelau goddefiant penodedig

prosesau a ddefnyddir i fonitro'r amodau – e.e. gwiriadau llaw dyddiol/wythnosol, system larwm, system chwilota

paramedr ansawdd dŵr – e.e. ph, osôn, lefelau dŵr, tymheredd, ocsigen toddedig, alcalinedd, math o nitrogen, clorin, halltedd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu35

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

dyframaethu; ailgylchrediad