Cynllunio a rheoli cynhyrchiant deorfa bysgod/cregynbysgod

URN: LANAqu34
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2015

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rheoli gweithredoedd deorfa bysgod/cregynbysgod i gyflawni’r cynhyrchiant a gynlluniwyd.

Mae’n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynllunio a rheoli cynhyrchiant pysgod/cregynbysgod mewn deorfa.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith iach, diogel a chadarn

  2. cynllunio gweithgareddau deorfa i gyflawni targedau cynhyrchu wedi eu cynllunio

  3. cynllunio'r adnoddau sydd yn ofynnol i gynorthwyo'r ddeorfa i gynhyrchu pysgod/cregynbysgod
  4. datblygu gweithdrefnau i gynnal amgylchedd diogel a chadarn ar gyfer pysgod/cregynbysgod
  5. rheoli rheolaeth yr amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol i gynorthwyo datblygiad stoc iach a bodloni targedau cynhyrchu sydd wedi eu cynllunio
  6. sefydlu cyfundrefnau i gynorthwyo cynhyrchiant y ddeorfa sydd wedi ei gynllunio yn effeithiol
  7. sicrhau bod cyfundrefnau yn cynnal iechyd a lles stoc y ddeorfa

  8. datblygu gweithdrefnau i ymdrin ag argyfyngau a ffactorau eraill sydd yn debygol o amharu ar weithgareddau'r ddeorfa

  9. datblygu systemau i fonitro amodau yn effeithiol yn y ddeorfa a chynnal diogeledd stoc y ddeorfa
  10. datblygu gweithdrefnau i reoli hylendid a bioddiogelwch
  11. rheoli gweithredu cynhyrchiant y ddeorfa
  12. gwerthuso llwyddiant y ddeorfa o ran cynhyrchiant
  13. rheoli cofnodion y ddeorfa yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â chynhyrchiant deorfa bysgod/cregynbysgod

  2. nodweddion cynhyrchu deorfa

  3. dulliau o bennu gallu cynhyrchu ar gyfer deorfa
  4. lefelau stocio gorau ar gyfer y cyfleusterau cadw sydd ar gael
  5. y gofynion iechyd a lles pysgod/cregynbysgod sydd yn gysylltiedig â stoc deorfa
  6. ffactorau sydd yn debygol o amharu ar gynhyrchu
  7. gweithdrefnau cynhyrchu effeithiol y ddeorfa
  8. yr amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol ar gyfer stoc y ddeorfa a sut mae'r rhain yn cael eu rheoli yn y ddeorfa
  9. y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli symud wyau a physgod/cregynbysgod
  10. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch yn amgylchedd y ddeorfa
  11. rheolyddion cyfreithiol ar ollyngiadau gwastraff o ddeorfeydd
  12. sut i asesu hyfywedd stoc deorfa
  13. gweithdrefnau brys a'u cymhwyso wrth gynnal cynhyrchiant deorfa
  14. dulliau a ddefnyddir i werthuso llwyddiant cynhyrchiant deorfa
  15. y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer rheoli cofnodion deorfa

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

argyfyngau – cyfarpar yn camweithredu, amrywiadau mewn cyflenwad dŵr, amrywiadau yn ansawdd dŵr, problemau gydag iechyd pysgod

gweithgareddau deorfa – bwydo, hylendid, symud marwolaethau, triniaethau iechyd, graddio

stoc deorfa – wyau, pysgod ifanc

cynhyrchiant sydd wedi ei gynllunio – cynhyrchiant a ragwelir yn seiliedig ar brofion a data hanesyddol **

adnoddau – pobl, cyfarpar, cyflenwad dŵr, bwyd, ynni


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu34

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; deorfa; cynhyrchiant