Datblygu a rheoli’r gwaith o weithredu Cynllun Iechyd Pysgod y safle

URN: LANAqu33
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a rheoli'r gwaith o weithredu Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) safle, gan ddisgrifio'r rhaglenni â'r gweithdrefnau sydd yn hyrwyddo cynnal iechyd pysgod. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn casglu gwybodaeth i gynorthwyo diagnosis pysgod unigol a grwpiau o bysgod.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli'r gwaith o weithredu Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) safle.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith iach, diogel a chadarn

  2. datblygu cynllun Iechyd Pysgod (FHP) safle i fonitro a chynnal iechyd pysgod

  3. cynllunio'r adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi'r gwaith o gynnal Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) y safle
  4. datblygu rhaglenni i gynnal iechyd a lles pysgod trwy gynnal gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch, amodau amgylcheddol a dwysedd stocio mewn unedau cadw
  5. datblygu rhaglenni iechyd proffylactig i gynnal iechyd pysgod
  6. cyfathrebu anghenion Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) y safle i bawb sydd yn gysylltiedig â'i weithredu
  7. sicrhau bod gweithgareddau monitro iechyd yn adnabod salwch a symptomau annormaledd mewn pysgod, ac yn casglu gwybodaeth i gynorthwyo diagnosis o'r rhain
  8. gofyn am gyngor milfeddygol, yn seiliedig ar ddisgrifiad cywir o symptomau
  9. cymryd camau ar unwaith i leihau effaith bosibl argyfyngau iechyd
  10. rheoli'r gwaith o weithredu rhaglenni i fonitro a chynnal iechyd pysgod
  11. gwerthuso effeithiolrwydd Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) y safle
  12. rheoli cofnodion iechyd yn unol â'r gofynion cyfreithiol a Chynllun Iechyd Pysgod (FHP) y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â chynnal rhaglenni iechyd pysgod

  2. y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli Cynlluniau Iechyd Pysgod (FHP) safleoedd, eu cynnwys a'u swyddogaeth

  3. sut i sefydlu gweithgareddau monitro iechyd i nodi ymddygiad iach pysgod â'r arwyddion sydd yn dangos salwch neu annormaledd
  4. clefydau cyffredin ac achosion salwch yn y rhywogaethau o bysgod sydd yn cael eu ffermio
  5. pwysigrwydd cael cyngor pan fydd amheuaeth o broblemau iechyd
  6. triniaethau iechyd a'u cymhwyso wrth gynnal iechyd pysgod
  7. sut gall technegau hwsmonaeth da helpu i gynnal iechyd pysgod
  8. argyfyngau iechyd a sut mae'n bosibl cyfyngu eu heffaith ar stoc fferm
  9. pam y mae'n hanfodol cymryd camau ar unwaith os bydd amheuaeth o glefydau hysbysadwy
  10. sut i hysbysu ynghylch clefydau hysbysadwy
  11. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch wrth gynnal Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) y safle
  12. sut i werthuso effeithiolrwydd rhaglenni iechyd
  13. y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau safle ar gyfer rheoli cofnodion iechyd pysgod

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) – cyfeirir ato hefyd fel Cynllun Iechyd Milfeddygol (VHP) a Chynllun Iechyd a Lles Milfeddygol (VHWP)

clefydau hysbysadwy – clefydau pysgod y mae angen hysbysu adran berthnasol y llywodraeth yn eu cylch

proffylactig – triniaeth ataliol e.e. brechu

adnoddau – pobl, cyfarpar, storio, cludiant


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu33

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

Pysgod; cynllun iechyd