Cynllunio a rheoli gweithredoedd puro cregynbysgod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rheoli'r weithred o buro ar gyfer puro cregynbysgod i bobl eu bwyta. Gellir ei gymhwyso i unrhyw fferm cregynbysgod sydd yn gweithredu uned buro.
Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i gynllunio a rheoli gweithgareddau puro i fodloni gofynion cynhyrchu, a sefydlu gweithdrefnau gweithredol i fonitro a rheoli'r broses.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynllunio ac yn rheoli gweithredoedd puro cregynbysgod er mwyn paratoi cregynbysgod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith iach, diogel a chadarn
cynllunio gweithredoedd puro cregynbysgod i fodloni gofynion cynhyrchu
- cynllunio'r adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi'r gweithredoedd puro cregynbysgod sydd wedi eu cynllunio
- sicrhau bod gweithredoedd puro sydd wedi eu cynllunio yn bodloni gofynion diogelwch bwyd cyfreithiol perthnasol
- sicrhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r system buro wedi eu hyfforddi'n llawn yn unol â'r gofynion cyfreithiol
- rheoli gweithredoedd puro i fodloni gofynion cynhyrchu a gwneud y defnydd gorau o'r cyfleusterau â'r adnoddau sydd ar gael
- datblygu gweithdrefnau gweithredol i gynnal amodau amgylcheddol mewn cyfleusterau puro a chyflawni puriad gofynnol cregynbysgod
- datblygu systemau i fonitro puro yn effeithiol a rhybuddion am amrywiadau posibl neu wirioneddol i'r puriad sydd wedi ei gynllunio
- datblygu gweithdrefnau gweithredol i ymdrin ag argyfyngau a methiannau system
- datblygu gweithdrefnau i gynorthwyo'r gwaith o gludo cregynbysgod yn unol â'r gofynion cyfreithiol
- datblygu gweithdrefnau ar gyfer gwaredu marwolaethau a gwastraff
- gwerthuso llwyddiant gweithrediadau puro
- rheoli cofnodion puro cregynbysgod yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelwch bwyd a gweithdrefnau safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â phuro cregynbysgod
dosbarthiad ardaloedd tyfu cregynbysgod a dŵr y môr a'u gofynion puro cysylltiedig
- y gofynion diogelwch bwyd cyfreithiol, yn cynnwys hylendid personol, Dadansoddi Peryglon a Mannau Rheoli Hanfodol (HACCP) â'r rheoliadau sydd yn gysylltiedig â chanolfannau cludo ar gyfer cregynbysgod
- eich cyfrifoldebau eich hun yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol diogelwch bwyd
- y gofynion safonau cynnyrch terfynol
- egwyddorion puro fel proses o buro cregynbysgod
- galluoedd cynhyrchu a nodweddion y systemau puro
- yr adnoddau sydd yn ofynnol i reoli'r weithred o buro
- yr amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol i gynorthwyo'r puro
- y gweithgareddau y mae angen eu cwblhau i sefydlu a chynnal cregynbysgod yn unol â'r amodau gofynnol
- y gofynion cludo cregynbysgod
- y gofynion cyfreithiol rheoli gwaredu marwolaethau a gwastraff
- dulliau a ddefnyddir i fonitro a gwerthuso gweithredoedd puro
- y cofnodion cyfreithiol sydd yn ofynnol gan ganolfannau puro cregynbysgod (puro)
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
ardaloedd tyfu cregynbysgod – gellir dod o hyd i'r rhain ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd