Cynllunio a rheoli casglu silod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rheoli casglu silod fel rhan o gynhyrchu cregynbysgod. (Diffinnir "Silod" fel cregynbysgod ifanc a had cregynbysgod).
Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i gynllunio a rheoli'r gweithgareddau canlynol:
- paratoi casglwyr silod
- lleoli casglwyr silod
- monitro casglu silod
- adfer casglwyr silod
- trafod a storio silod
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynllunio ac yn rheoli casglu silod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith iach, diogel a chadarn
cynllunio gweithgareddau casglu silod i gyflawni'r targedau cynhyrchu a gynlluniwyd
- cynllunio'r adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi'r gweithgareddau casglu silod gofynnol
- dewis safleoedd casglu ar gyfer casglu rhywogaethau targed a rhoi cyfrif am amodau amgylcheddol hysbys
- datblygu gweithdrefnau i reoli casglu ac adfer silod cregynbysgod hyfyw
- datblygu gweithdrefnau ar gyfer cludo a storio silod
- sicrhau bod gweithdrefnau yn cynnal lles silod
- datblygu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â ffactorau hysbys a allai effeithio ar roi'r gweithgareddau casglu silod ar waith
- datblygu gweithdrefnau ar gyfer rheoli hylendid a bioddiogelwch
- rheoli'r gwaith o weithredu gweithgareddau casglu silod er mwyn cyflawni gofynion cynhyrchu penodedig ar gyfer silod
- gwerthuso llwyddiant gweithgareddau casglu silod
- rheoli cofnodion casglu silod yn unol â'r gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â chasglu silod cregynbysgod
cyfnodau cylch bywyd y cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
- yr adegau o'r flwyddyn pan mae cregynbysgod, rhywogaethau lleuog ac ysglyfaethus yn silio
- yr amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol i gefnogi silio a chasglu silod yn llwyddiannus
- dulliau gwahanol a ddefnyddir i gasglu silod
- dewis safle, yn cynnwys amodau cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- y ffordd y gall rhywogaethau lleuog ac ysglyfaethus effeithio ar gasglu silod cregynbysgod
- y gofynion adnoddau ar gyfer casglu silod yn ddiogel ac yn effeithiol
- ffactorau sydd yn gallu effeithio ar gasglu silod
- y gofynion lles silod cregynbysgod yn ystod gweithgareddau casglu a storio
- dulliau a ddefnyddir i werthuso llwyddiant gweithgareddau casglu silod
- y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau safle ar gyfer rheoli cofnodion casglu silod
Cwmpas/ystod
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn cynllunio ac yn rheoli'r gweithgareddau canlynol:
- paratoi casglwyr silod
- lleoli casglwyr silod
- monitro casglu silod
- adfer casglwyr silod
- trafod a storio silod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
safleoedd casglu – ardaloedd lle mae casglwyr silod wedi cael eu sefydlu
ffactorau – **e.e. newidiadau mewn amodau amgylcheddol, gweithredoedd ysglyfaethwyr, amrywiadau mewn cwymp silod
cynhyrchiant sydd wedi ei gynllunio – cynhyrchiant a ragwelir yn seilieig ar brofion a data hanesyddol
adnoddau – cyfarpar, personél, amser, deunyddiau
silod cregynbysgod hyfyw – silod sydd yn debygol o oroesi o fewn amgylchedd fferm bysgod