Rheoli’r gwaith o gynhyrchu pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio ar gyfer eu gwerthu neu eu trosglwyddo

URN: LANAqu30
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Ebr 2015

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli’r gwaith o gynhyrchu pysgod/cregynbysgod ar gyfer eu gwerthu neu eu trosglwyddo, i gyflawni ansawdd penodol a thargedau meintiol.

Mae’n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli’r gwaith o gynhyrchu pysgod/cregynbysgod wedi eu ffermio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith iach, diogel a chadarn
  2. cynllunio'r adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi'r gwaith sydd wedi cael ei gynllunio ar gyfer cynhyrchu pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio ar gyfer eu gwerthu neu eu trosglwyddo
  3. sefydlu cynhyrchiant posibl trwy fonitro datblygiad stoc pysgod/cregynbysgod yn rheolaidd
  4. dadansoddi gofynion cwsmeriaid a sefydlu galluogrwydd y fferm i fodloni gofynion ansawdd a maint penodol
  5. rheoli gweithgareddau cynhyrchu i fodloni gofynion a chynnal iechyd a lles pysgod/cregynbysgod
  6. datblygu gweithdrefnau i ymdrin â ffactorau sydd â'r potensial i amharu ar weithgareddau cynhyrchu
  7. gwerthuso llwyddiant gweithrediadau cynhyrchu
  8. cysylltu â chwsmeriaid ac eraill i sicrhau bod gofynion cwsmeriaid ac ansawdd yn cael eu bodloni
  9. rheoli cofnodion gweithgareddau cynhyrchu yn unol â'r gofynion cyfreithiol ac ansawdd a gweithdrefnau'r safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio

  2. yr adnoddau sydd yn ofynnol i reoli cynhyrchu pysgod/cregynbysgod yn effeithiol ar gyfer eu gwerthu neu eu trosglwyddo

  3. nodweddion cynhyrchu fferm ac uned gadw
  4. sut i sefydlu'r potensial cynhyrchu ar gyfer y stoc o bysgod/cregynbysgod sydd ar gael
  5. pam y mae'n bwysig cynnal safonau iechyd a lles pysgod/cregynbysgod yn ystod gweithgareddau cynhyrchu
  6. ffactorau sydd yn debygol o amharu ar gynhyrchu a sut gellir lleihau unrhyw amharu
  7. gweithgareddau cynhyrchu a'u gweithrediad effeithiol
  8. y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli cynhyrchu pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio ar gyfer eu gwerthu neu eu trosglwyddo
  9. pam y mae'n bwysig cyflawni'r cynhyrchu sydd wedi ei gynllunio
  10. pwysigrwydd cyflawni gofynion cwsmeriaid o fewn y cynhyrchu
  11. y dulliau a ddefnyddir i fonitro'r cynhyrchu sydd wedi ei gynllunio
  12. sut mae codau ymarfer yn dylanwadu ar gynhyrchu pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
  13. sut i sefydlu cynhyrchu i gyfyngu ar effaith y ffactorau sydd yn gallu amharu ar gynhyrchu
  14. sut mae deddfwriaeth yn rheoli symudiad pysgod/cregynbysgod byw
  15. y dulliau a ddefnyddir i werthuso cynhyrchu
  16. y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau safle ar gyfer rheoli cofnodion cynhyrchu pysgod/cregynbysgod

Cwmpas/ystod

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn cynllunio ac yn goruchwylio'r gweithgareddau cynhyrchu canlynol:

  1. paratoi stoc ar gyfer ei werthu neu ei drosglwyddo
  2. cludiant
  3. glanhau a chynnal cyfleusterau cynhyrchu
  4. hylendid a bioddiogelwch

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn datblygu gweithdrefnau i ymdrin ag:

  1. amrywiadau mewn amodau amgylcheddol
  2. cyfarpar yn camweithredu
  3. prinder stoc
  4. cyflwr gwael (iechyd) pysgod/cregynbysgod
  5. newdiadau mewn gofynion cwsmeriaid/y farchnad

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

cynhyrchiant posibl – faint o bysgod/cregynbysgod sydd ar gael i'w gwerthu neu eu trosglwyddo **

gweithgareddau cynhyrchu – gweithgareddau sydd yn gysylltiedig â pharatoi terfynol pysgod/cregynbysgod i gyflawni archebion cwsmeriaid **

cwsmer – defnyddiwr eich cynhyrchiant fferm. Gall y defnyddiwr fod yn fewnol (safle fferm arall a weithredir gan eich cyflogwr) neu'n allanol (sefydliad fferm heb unrhyw gysylltiad â'ch sefydliad)


adnoddau – pobl, cyfarpar, storio, cludiant


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu30

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; cynhyrchiant