Paratoi a chasglu pysgod/cregynbysgod byw
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer ac yna casglu (heidio neu sgubo) pysgod neu gregynbysgod byw i unedau cadw, gan ddefnyddio rhwydi neu ddyfeisiadau eraill. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn casglu pysgod/cregynbysgod byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dewis uned gadw ar gyfer casglu yn unol â'r gofynion
- lle y bo'n briodol, gwirio a chadarnhau bod pysgod/cregynbysgod wedi cael eu cyflyru yn barod ar gyfer eu symud a'u trafod
- paratoi'r cyfarpar casglu i'w ddefnyddio, fel bod iechyd a lles pysgod/cregynbysgod yn cael ei gynnal wrth gasglu
- casglu pysgod/cregynbysgod byw gan ddefnyddio technegau sydd yn lleihau straen ac yn atal pysgod rhag dianc
- monitro pysgod/cregynbysgod am arwyddion o faterion iechyd a lles wrth gasglu
- monitro amodau amgylcheddol wrth gasglu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chasglu pysgod/cregynbysgod byw
pam y mae'n bwysig addasu prosesau casglu i adlewyrchu newidiadau mewn amodau amgylcheddol
- pam y mae'n bwysig paratoi cyfarpar yn gywir cyn casglu pysgod/cregynbysgod byw
pryd a sut i gasglu pysgod/cregynbysgod i leihau lefelau straen yn ystod y broses gasglu, a pham y mae hyn yn bwysig
pwysigrwydd monitro iechyd a lles pysgod/cregynbysgod wrth gasglu
- arwyddion sydd yn dangos straen neu anhwylder mewn pysgod/cregynbysgod
- pam a sut mae pysgod/cregynbysgod yn cael eu cyflyru cyn eu symud a'u trafod
- pam y mae'n bwysig monitro amodau amgylcheddol wrth gasglu
- effaith bosibl amodau amgylcheddol niweidol ar gasglu
- y cyfarpar â'r dulliau a ddefnyddir i gasglu pysgod/cregynbysgod byw ar y safle
- gweithdrefn y safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch
- sut i ymdrin â ffactorau sydd yn gallu amharu ar y broses gasglu o fewn terfynau eich awdurdod.
Cwmpas/ystod
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwybod sut i ymdrin â'r ffactorau canlynol wrth gasglu:
- newidiadau mewn amodau amgylcheddol
- cyfarpar yn camweithio
- materion iechyd a lles mewn pysgod/cregynbysgod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
unedau cadw – cyfleusterau a ddefnyddir i gadw pysgod neu gregynbysgod mewn amgylchedd cynhyrchu wedi ei reoli e.e. cewyll, llociau, pyllau, tanciau, leiniau hir, rhedfeydd rasio, rhwydi llusern, hosanau/tiwbiau, bagiau, ac ati
proses gasglu – e.e. heidio, sgubo
cyflyru – e.e. symud bwyd, triniaethau