Rheoli’r gwaith o gasglu silod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o gasglu silod i gynorthwyo cynhyrchu cregynbysgod. (Diffinnir "Silod" fel cregynbysgod ifanc a had cregynbysgod).
Mae'r safon hon yn cynnwys y gallu i drefnu'r gweithgareddau canlynol:
- paratoi casglwyr silod
- defnyddio casglwyr silod yn y môr
- monitro'r gwath o gasglu silod
- adennill casglwyr silod
- trin a storio silod
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli'r gwaith o gasglu silod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle
- trefnu'r adnoddau sydd eu hangen i gwblhau'r gweithgareddau a gynlluniwyd o gasglu silod
- rheoli gweithgareddau casglu silod i gyflawni'r gofynion cynhyrchu a gynlluniwyd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
- sicrhau bod lles silod yn cael ei gynnal wrth gasglu
- monitro ac addasu gweithrediadau casglu silod i roi cyfrif am amrywiadau o'r cynhyrchu a gynlluniwyd
- rheoli adennill a didoli silod hyfyw trwy roi gweithrediadau casglu a storio silod ar waith yn effeithiol
sicrhau bod lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal
cadw cofnodion casglu silod i fodloni'r gofynion cyfreithiol, yn unol â gweithdrefnau'r safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â chasglu silod cregynbysgod
- technegau casglu silod sydd yn berthnasol i'r rhywogaethau o gregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
- sut i adnabod cyfnodau cylch bywyd y cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
- sut i adnabod silod cregynbysgod targed a rhai nad ydynt yn rhai targed, organebau llygru a rhywogaethau o ysglyfaethwyr
- sut a phryd i sefydlu gweithgareddau casglu silod er mwyn rheoli a chynyddu casgladau silod
- sut i storio a chludo silod cregynbysgod
- y dulliau a ddefnyddir i gyfyngu ar weithredoedd ysglyfaethwyr wrth gasglu silod
- technegau trin silod sydd yn cyfyngu'r straen a achosir i silod cregynbysgod
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio i reoli'r gwaith o gasglu silod
- yr amodau cyfreithiol ac amgylcheddol sydd yn cyfyngu'r detholiad o safleoedd casglu
- gofynion adnoddau casglu silod yn ddiogel ac yn effeithiol
- ffactorau sydd yn gallu effeithio ar gasglu silod
- sut i bennu hyfywedd silod
- gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch
- y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer cadw cofnodion casglu silod
Cwmpas/ystod
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn trefnu'r gweithgareddau canlynol:
- paratoi casglwyr silod
- defnyddio casglwyr silod yn y môr
- monitro'r gwaith o gasglu silod
- adennill casglwyr silod
- trin a storio silod
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn ystyried amrywiadau o gynhyrchu wedi ei gynllunio oherwydd:
- newidiadau mewn amodau amgylcheddol
- gweithredoedd ysglyfaethwyr
- amrywiadau mewn gollyngiadau silod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
safleoedd casglu – ardaloedd yn y môr lle mae casglwyr silod wedi cael eu sefydlu
silod hyfyw – silod sydd yn debygol o oroesi mewn amgylchedd fferm bysgod
cynhyrchu wedi ei gynllunio – cynhyrchiant a ragwelir yn seiliedig ar ddata hanesyddol a phrofion
adnoddau – pobl, cyfarpar, storfa, cludiant