Rheoli’r gwaith o gynhyrchu pysgod/cregynbysgod wedi eu ffermio i’w gwerthu neu eu trosglwyddo
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o gynhyrchu pysgod/cregynbysgod wedi eu ffermio i'w gwerthu neu eu trosglwyddo, i gyflawni'r targedau ansawdd a maint a osodwyd.
Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli'r gwaith o gynhyrchu pysgod/cregynbysgod wedi eu ffermio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod y gwaith i gyd yn cael ei wneud yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle
- trefnu'r adnoddau sy'n ofynnol i gyflawni'r gwaith a gynlluniwyd o gynhyrchu pysgod/cregynbysgod wedi eu ffermio i'w gwerthu neu eu trosglwyddo
- rheoli gweithgareddau cynhyrchu i fodloni gofynion cwsmeriaid ac ansawdd
- monitro cynhyrchiant gwirioneddol pysgod/cregynbysgod yn erbyn y cynhyrchu a gynlluniwyd i amlygu'r angen i addasu gweithgareddau cynhyrchu
- rhoi gweithdrefnau ar waith i fonitro a chynnal iechyd a lles pysgod/cregynbysgod
- rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin â phroblemau sydd yn effeithio ar y cynhyrchu a gynlluniwyd (fel amrywiadau mewn amodau amgylcheddol, camweithrediad cyfarpar, prinder stoc addas ac iechyd gwael pysgod)
- parhau i gyfathrebu'n effeithiol gyda chwsmeriaid ac eraill sydd yn gysylltiedig â'r broses gynhyrchu
- cadw cofnodion cynhyrchu pysgod/cregynbysgod i fodloni gofynion cyfreithiol ac archwilio ansawdd yn unol â gweithdrefnau'r safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle o ran iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu pysgod/cregynbysgod wedi eu ffermio
- yr adnoddau sydd yn ofynnol i gynorthwyo cynhyrchu pysgod/cregynbysgod wedi eu ffermio yn effeithiol i'w gwerthu neu eu trosglwyddo
- gweithgareddau cynhyrchu a'u gweithrediad effeithiol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gynhyrchu pysgod/cregynbysgod wedi eu ffermio i'w gwerthu neu eu trosglwyddo
- pam y mae'n bwysig cyflawni'r cynhyrchiant a gynlluniwyd a bodloni gofynion cwsmeriaid ac ansawdd
- gofynion Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) y safle yn cynnal safonau iechyd a lles pysgod yn ystod gweithgareddau cynhyrchu
- gofynion iechyd a lles ar gyfer y pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio, a sut mae'r rhain yn cael eu cynnal yn yr unedau cadw sydd ar gael
- pam y mae'n bwysig monitro cofnodion marwolaethau
- y dulliau a ddefnyddir i fonitro cynhyrchu gwirioneddol yn erbyn cynhyrchu a gynlluniwyd
- sut i asesu a chynnal ansawdd cynnyrch a'r ffordd y mae pysgod ac ansawdd y cig yn cael ei asesu a'i sgorio
- codau ymarfer perthnasol, a'u cymhwyso wrth reoli cynhyrchu pysgod/cregynbysgod wedi eu ffermio
- ffactorau sydd yn gallu amharu ar gynhyrchu a'r camau y gellir eu cymryd i leihau eu heffaith
gwerth cyfathrebu'n effeithiol gyda chwsmeriaid
y gofynion cyfreithiol ac ansawdd, a gweithdrefnau'r safle ar gyfer cadw cofnodion cynhyrchu pysgod/cregynbysgod
Cwmpas/ystod
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn monitro ac yn cynnal y gweithgareddau cynhyrchu canlynol:
- paratoi stoc i'w werthu neu ei drosglwyddo
- cludiant
- glanhau a chynnal a chadw cyfleusterau cynhyrchu
- hylendid a bioddiogelwch
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
cwsmer – defnyddiwr eich cynnyrch fferm. Gall y defnyddiwr fod yn fewnol (safle fferm arall a weithredir gan eich cyflogwr) neu'n allanol (fferm neu sefydliad heb unrhyw gysylltiad â'ch sefydliad)
adnoddau – pobl, cyfarpar, storfa, cludiant
Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) – cyfeirir ato hefyd fel Cynllun Iechyd Milfeddygol (VHP) a Chynllun Iechyd a Lles Milfeddygol (VHWP)