Rheoli’r amgylchedd cynhyrchu dyfrol ar gyfer pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol ar gyfer unrhyw bysgod neu gregynbysgod sydd yn cael eu ffermio. Mae'n ymwneud â gweithredu rhaglenni i fonitro a chynnal yr amgylchedd cynhyrchu mewn unedau cadw.
Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle ac yn unol â chodau ymarfer y diwydiant.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle
- rheoli'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol i gynnal datblygiad stoc wedi ei ffermio
- trefnu'r adnoddau sydd eu hangen i fonitro a chynnal yr amgylchedd cynhyrchu dyfrol
- hwyluso'r gwaith o gasglu gwybodaeth yn rheolaidd am yr amgylchedd cynhyrchu dyfrol
- rhoi gweithdrefnau ar waith i fonitro cyflwr yr unedau cadw
- gweithredu a rheoli rhaglenni cynnal amgylcheddol i fodloni gofynion sefydliadol, yn unol â deddfwriaeth bresennol
- addasu rhaglenni cynnal i ystyried amodau amgylcheddol cyffredin
- rhoi gweithdrefnau ar waith i fonitro a chynnal amodau amgylcheddol mewn unedau cadw
- cynnal dwyseddau stocio gofynnol mewn unedau cadw
- rhoi gweithdrefnau ar waith i fonitro presenoldeb plâu, ysglyfaethwyr a rhywogaethau sydd yn niweidiol yn fasnachol
- sicrhau bod cyfarpar, larymau a systemau diogelwch yn cael eu cadw mewn cyflwr gweithredol
- rheoli'r gwaith o waredu gwastraff i gynnal yr amgylchedd dyfrol, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
- sefydlu a chynnal hylendid a bioddiogelwch y safle yn unol â gofynion cyfreithiol ac asesiadau risg y safle
- cadw cofnodion o'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol i fodloni gofynion archwilio cyfreithiol ac ansawdd yn unol â gweithdrefnau'r safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau i reoli'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol
- nodweddion safle dyframaethu ac unedau cadw
- amodau amgylcheddol sy'n ofynnol gan y rhywogaethau o bysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
- sut i sefydlu'r dwyseddau stocio gorau ar gyfer yr unedau cadw, yn dibynnu ar y pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
- y ffordd y gall ffactorau amgylcheddol effeithio ar iechyd a lles a datblygiad stoc pysgod/cregynbysgod
- y ffordd y mae rhaglenni cynnal amgylcheddol priodol yn helpu i gynnal ansawdd dŵr
- sut i weithredu a rheoli'r rhaglenni cynnal amgylcheddol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer gwaredu gwastraff yn cynnwys cydsyniadau gollwng a sut mae'r rhain yn cael eu rheoli gan y cyrff rheoliadol
- sut i adnabod plâu ac ysglyfaethwyr a'r dulliau cyfreithiol perthnasol o'u hallgáu a'u rheoli
- pwysigrwydd monitro presenoldeb rhywogaethau sydd yn niweidiol yn fasnachol a'r camau i'w cymryd os bydd eu presenoldeb yn cael eu nodi
- achosion pysgod yn dianc ar fferm pysgod esgyll
- y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag argyfyngau a nodir sydd yn effeithio ar yr amgylchedd dyfrol
- bioddiogelwch a'i bwysigrwydd yn cynnal iechyd pysgod/cregynbysgod a lleihau effaith amgylcheddol
- gweithdrefnau sefydliadol a'r ffordd y mae'r rhain yn berthnasol i'r codau ymarfer perthnasol a'r gyfraith
- dyluniad a chynllun cyfarpar safle a'u cryfderau a'u gwendidau fel system cyfyngu pysgod
- y prosesau a ddefnyddir i fonitro cyflwr cyfarpar safle
- y fframwaith ddeddfwriaethol bresennol a'r goblygiadau yn dilyn torri rheolau cyfyngiant
y gweithdrefnau archwilio sydd yn berthnasol i gyfyngiant sydd wedi cael eu rhoi ar waith y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer cad
w cofnodion o'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol
Cwmpas/ystod
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwybod sut i reoli'r rhaglenni cynnal amgylcheddol canlynol:
- gofalu am unedau cadw, cyfyngiant a diogeledd fferm
- rheoli dwyseddau stocio
- rheoli plâu ac ysglyfaethwyr
- gwaredu gwastraff
- rheoli elifiant fferm
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
unedau cadw – cyfleusterau a ddefnyddir i gadw pysgod neu gregynbysgod mewn amgylchedd cynhyrchu wedi ei reoli e.e. cewyll, llociau, pyllau, tanciau, leiniau hir, rhedfeydd, rhwydi llusern, sanau/tiwbiau, sachau ac ati
rhywogaethau sydd yn niweidiol yn fasnachol – rhywogaeth o bysgod neu gregynbysgod, unrhyw rywogaeth arall o anifail neu rywogaeth o blanhigyn sydd, os nad yw'n cael ei reoli, yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar fuddiannau economaidd neu fasnachol ffermwr pysgod neu gregynbysgod, a, lle nad oes llawer, os o gwbl, o werth masnachol i'r rhywogaeth ei hun. Mae hyn yn cynnwys rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid.
argyfyngau – e.e. digwyddiadau o lygredd, methiant cyfarpar, amrywiadau mewn ansawdd dŵr, pysgod yn dianc