Rheoli cyfundrefnau rheoli ar gyfer pysgod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli cyfundrefnau rheoli, fel mater o drefn ac arbenigol, i gynorthwyo cynhyrchu pysgod ar fferm pysgod esgyll.
Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â rheoli cyfundrefnau bwydo ar gyfer pysgod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle
- rheoli cyfundrefnau bwydo ar gyfer pysgod i ystyried amrywiadau amgylcheddol
- sicrhau bod cyfundrefnau bwydo yn cael eu dilyn gan weithdrefnau bwydo wedi eu gweithredu'n gywir
- defnyddio data i gyfrifo perfformiad cynhyrchu
- gweithredu addasiadau i gyfundrefnau bwydo i ystyried newidiadau mewn perfformiad cynhyrchu ac amrywiadau mewn amodau amgylcheddol
- ymchwilio i newidiadau mewn ymddygiad bwydo i bennu eu hachos a'r camau cywiro sydd eu hangen
- monitro gweithrediad effeithiol bwydwyr, systemau bwydo a chyfarpar monitro
- cynnal y gwaith o storio porthiant yn effeithiol
- sicrhau cynnal hylendid effeithiol
- dadansoddi adborth o gyfarpar monitro a chan y rheiny sydd yn gysylltiedig â bwydo
- ymchwilio i achosion o wastraff a'u symud o gyfundrefnau bwydo
- cadw cofnodion o'r holl weithgareddau bwydo a storio porthiant i fodloni gofynion cyfreithiol yn unol a gweithdrefnau'r safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â bwydo pysgod
- cyfraddau bwydo a'r ffordd y maent yn newid gydag amodau amgylcheddol
- sut i gyfrifo perfformiad cynhyrchu
- deddfwriaeth amgylcheddol sydd yn benodol i'ch safle a'r ffordd y mae'n effeithio ar gyfundrefnau bwydo
- cyfundrefnau bwydo arbenigol a'u cymhwyso wrth gynnal iechyd a datblygiad pysgod
- ymddygiad bwydo arferol a sut i bennu achos tebygol newidiadau yn yr ymddygiad hwn
- pam y mae'n bwysig ymchwilio i amrywiadau mewn ymddygiad bwydo
- sut i addasu manylebau bwydo i ystyried amrywiadau mewn amodau amgylcheddol
- gofynion gweithredu yn ymwneud â bwydo, systemau bwydo a dyfeisiadau monitro
- y systemau a ddefnyddir i gasglu, storio a dadansoddi cofnodion bwydo
- mathau o borthiant a deiet a sut cânt eu dewis i sicrhau bod targedau cynhyrchu'n cael eu cyflawni
- y ffordd y mae gofynion cwsmeriaid ac ansawdd yn dylanwadu ar gynnwys porthiant
- dyluniad a rheolaeth dulliau storio porthiant effeithiol yn cynnwys cysoni cofnodion porthiant
- sut i ddefnyddio data bwydo i bennu nodweddion poblogaeth pysgod
- sut mae arsylwadau gweledol yn cael eu defnyddio i helpu i reoleiddio'r broses fwydo, a sut gall pobl eraill gynorthwyo'r gwaith o gasglu'r data hwn
- sut i ddadansoddi gwybodaeth a geir o ddyfeisiadau bwydo a monitro
- sut i leihau gwastraff porthiant a pham y dylid ei gadw mor isel â phosibl
- gweithdrefnau'r safle ar gyfer gwaredu gwastraff
- gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid effeithiol
- y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer cadw cofnodion o weithgareddau bwydo a storio porthiant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
amodau amgylcheddol – **tywydd, newidiadau mewn ansawdd dŵr
cyfundrefnau bwydo fel mater o drefn – gweithgareddau bwydo arferol
cyfundrefnau bwydo arbenigol – bwydo i gynorthwyo gofynion penodol e.e. ymprydio, triniaethau mewn porthiant, darparu lliw, deiet gleisiaid, imiwno-gyfnerthwyr
deddfwriaeth amgylcheddol - e.e. Rheoliadau Gweithgareddau Rheoledig (CAR)