Cludo pysgod/cregynbysgod byw
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chludo pysgod/cregynbysgod byw. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Bydd y ddeddfwriaeth sydd yn rheoli cymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y fferm bysgod/cregynbysgod yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cludo pysgod/cregynbysgod byw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth gludo pysgod/cregynbysgod byw
- llwytho pysgod/cregynbysgod byw yn ddiogel i mewn i gludiant mewn ffordd sydd yn atal dianc ac yn lleihau straen
- cynnal amodau amgylcheddol mewn unedau cadw cludiant er mwyn sicrhau bod iechyd a lles pysgod/cregynbysgod yn cael ei gynnal
- cludo pysgod/cregynbysgod byw yn effeithlon gan oedi cyn lleied â phosibl
- arsylwi ymddygiad pysgod/cregynbysgod am arwyddion straen wrth gludo, lle y bo'n briodol
- arsylwi ac adrodd ar gyflwr pysgod/cregynbysgod sydd wedi eu cludo
- darparu gwybodaeth i gadw cofnodion cludo pysgod/cregynbysgod byw yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chludo pysgod byw yn ddiogel
- pam y mae'n bwysig symud pysgod/cregynbysgod byw gan oedi cyn lleied â phosibl
- amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol i gynnal cyflwr pysgod/cregynbysgod wrth eu cludo
- pwysigrwydd monitro iechyd a lles pysgod/cregynbysgod
- sut i adnabod arwyddion straen mewn pysgod/cregynbysgod
- pwysigrwydd cymryd camau uniongyrchol os bydd anawsterau wrth gludo
- pam y mae'n bwysig monitro cyflwr pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu cludo
y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli symud pysgod/cregynbysgod byw rhwng lleoliadau gwahanol
peryglon cludo rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu gyda physgod/cregynbysgod
- peryglon bioddiogelwch wrth symud pysgod/cregynbysgod byw
- y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion cludo pysgod/cregynbysgod byw
Cwmpas/ystod
Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn gwybod sut i ymdrin â'r anawsterau canlynol wrth gludo:
- pysgod o dan straen
- camweithrediad cyfarpar
- newidiadau mewn amodau amgylcheddol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
unedau cadw cludiant – e.e. bwced, tanc, ffynnon gwch, bin hofrennydd, bag/sach, bocs oer, hambwrdd
amodau amgylcheddol – amodau ffisegol, ansawdd dŵr, tymheredd