Stocio pysgod/cregynbysgod mewn unedau cadw
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â stocio unrhyw rywogaeth o bysgod neu gregynbysgod wedi'u stocio mewn unedau cadw. Mae'n cynnwys y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer defnyddio y dulliau trosglwyddo diogel, ymdrin a stocio er mwyn lleihau cyfleoedd i ddianc a'r straen a achosir i bysgod yn ystod y broses stocio. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn stocio pysgod/cregynbysgod mewn unedau cadw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- sicrhau bod unedau cadw addas wedi cael eu paratoi
- paratoi cyfarpar ymdrin a throsglwyddo yn barod ar gyfer symud pysgod/cregynbysgod yn ddiogel
- trosglwyddo pysgod/cregynbysgod i unedau cadw mewn ffordd sydd yn lleihau straen ac yn cynnal iechyd a lles
- sicrhau bod stocio'n cael ei wneud mewn ffordd amserol i gynnal hyfywedd pysgod/cregynbysgod
- stocio pysgod/cregynbysgod mewn unedau cadw ar y dwysedd stocio gofynnol yn unol â'r cynllun stocio
- osgoi colli pysgod/cregynbysgod yn ystod y broses stocio
- glanhau a storio cyfarpar ymdrin ar ôl ei ddefnyddio
- arsylwi ac adrodd ar ymddygiad/cyfraddau marwolaeth pysgod/cregynbysgod sydd newydd eu stocio
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn ystod y broses stocio
- darparu gwybodaeth i gynnal cofnodion stocio yn unol â'r gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â stocio unedau cadw
- sut i gynnal iechyd a lles pysgod/cregynbysgod yn ystod y broses stocio
- y ffordd y gall amodau amgylcheddol niweidiol (tywydd, amodau dŵr) effeithio ar y weithred o stocio
- pwysigrwydd dwysedd stocio yn cynnal safonau iechyd a lles
- achosion colledion pysgod/cregynbysgod yn ystod gweithgareddau stocio a'r ffordd y gall hyn effeithio ar yr amgylchedd
- y ffordd y gall goblygiadau cyfreithiol colli pysgod/cregynbysgod effeithio ar y fferm
- y ffordd y mae gofynion cyfreithiol yn rheoli symud a derbyn pysgod/cregynbysgod
- pwysigrwydd arsylwi pysgod/cregynbysgod newydd eu stocio am arwyddion sydd yn dangos straen neu anhwylder
- pwysigrwydd arsylwi a chofnodi cyfraddau marwolaeth mewn pysgod/cregynbysgod
- gweithdrefnau gweithredu safonol y safle sydd yn rheoli'r broses stocio
- cynllun stocio'r safle a'r berthynas rhwng dwysedd stocio a gallu i gario
- sut i ymdrin â ffactorau sydd yn gallu amharu ar y broses stocio o fewn cyfyngiadau eich awdurdod
- y cyfarpar a'r dulliau a ddefnyddir i drosglwyddo pysgod/cregynbysgod i'r safle
- gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch effeithiol
- y gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle ar gyfer cynnal cofnodion stocio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
unedau cadw – cyfleusterau a ddefnyddir i gadw pysgod neu gregynbysgod mewn amgylchedd cynhyrchu wed'i reoli e.e. cewyll, llociau, pyllau, tanciau, leiniau hir, rhedfeydd, rhwydi llusern, sanau/tiwbiau, sachau ac ati
gallu cario – biomas y pysgod y gall corff o ddŵr eu cynnal
dwysedd stocio – ar gyfer pysgod esgyll – cyfanswm pwysau pysgod sydd yn cael eu cadw mewn cyfaint o ddŵr – fel arfer wedi'i fesur mewn kg/m3 neu kg/m2 dwysedd stocio – ar gyfer cregynbysgod – pwysau neu nifer y cregynbysgod mewn cyfaint hysbys o ddŵr