Paratoi i gludo pysgod/cregynbysgod byw

URN: LANAqu19
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer cludo pysgod/cregynbysgod byw. Gellir ei chymhwyso i unrhyw sefyllfa lle mae pysgod/cregynbysgod yn cael eu cludo'n fyw trwy ddulliau fel cludiant cerbydau, ffynnon gychod a biniau hofrennydd. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Bydd y ddeddfwriaeth sydd yn rheoli cymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y fferm bysgod/cregynbysgod yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi pysgod/cregynbysgod byw ar gyfer eu cludo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. sicrhau bod unrhyw ganiatâd angenrheidiol wedi ei sefydlu ar gyfer cludo pysgod byw
  3. cael manyleb gludo
  4. sicrhau bod pysgod/cregynbysgod mewn cyflwr corfforol sydd yn addas ar gyfer eu cludo a, lle y bo'n briodol, eu bod wedi eu cyflyru
  5. paratoi systemau cludo i symud pysgod/cregynbysgod byw yn ddiogel
  6. paratoi uned gadw'r cludiant er mwyn ei bod mewn cyflwr sydd yn addas ar gyfer derbyn pysgod/cregynbysgod byw
  7. cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas
  8. sefydlu amodau amgylcheddol yn uned gadw'r cludiant i gynnal iechyd a lles pysgod/cregynbysgod wrth eu cludo
  9. sicrhau bod y cyrchfan arfaethedig yn barod ac yn addas i dderbyn pysgod/cregynbysgod byw
  10. darparu gwybodaeth i gadw cofnodion cludo yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chludo pysgod byw
  2. deddfwriaeth sydd yn rheoli cludo pysgod/cregynbysgod byw
  3. dulliau a ddefnyddir i gludo pysgod/cregynbysgod byw
  4. pam y dylid ond cludo pysgod/cregynbysgod iach a phryd y mae angen eu cyflyru
  5. yr ymddygiad sydd yn dangos pryd y mae pysgod/cregynbysgod o dan straen neu fod ganddynt anhwylder
  6. sut i sefydlu'r amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol gan bysgod/cregynbysgod
  7. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch wrth gludo pysgod/cregynbysgod byw
  8. y rhagofalon sydd yn cael eu dilyn i leihau'r perygl o gludo rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu gyda'r pysgod/cregynbysgod byw
  9. y cyfarpar sydd ei angen a sut i'w baratoi
  10. pwysigrwydd lleihau'r risg o ddianc
  11. yr angen i gynnal asesiad risg hwsmonaeth a'r ffordd y mae hyn yn rheoli cludo pysgod/cregynbysgod byw
  12. y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion cludo

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

unedau cadw cludiant – e.e. bwced, tanc, ffynnon gwch, bin hofrennydd, bag/sach, bocs oer, hambwrdd

wedi eu cyflyru**dileu porthiant

amodau amgylcheddol – amodau ffisegol, ansawdd dŵr, tymheredd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu19

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; cludiant