Monitro a chynnal pysgod ifanc mewn deorfa
URN: LANAqu18
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a chynnal pysgod ifanc mewn deorfa ac mae'n cynnwys yr holl weithgareddau sydd yn gysylltiedig â gofalu am y pysgod. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn monitro a chynnal pysgod ifanc mewn deorfa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cynnal amodau amgylcheddol o fewn unedau cadw'r ddeorfa
- arsylwi ac adrodd am y broses ddeor
- monitro ac adrodd ar dymheredd dŵr mewn unedau cadw deorfa
- bwydo pysgod ifanc mewn ymateb i arwyddion sydd yn dangos eu bod yn barod i gael eu bwydo am y tro cyntaf
- monitro a chynnal iechyd a lles pysgod ifanc
- symud pysgod marw a malurion o unedau cadw, gan amharu cyn lleied â phosibl ar y pysgod sydd ar ôl
- darparu gwybodaeth er mwyn cadw cofnodion
- gweithgareddau deorfa yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â gwaith deorfa bysgod
- yr arwyddion sydd yn dangos parodrwydd i gael eu bwydo am y tro cyntaf
- y gofynion bwydo ar gyfer stoc o bysgod ifanc
- gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch effeithiol mewn deorfa
- problemau iechyd ac anhwylderau cyffredin sydd yn gysylltiedig â deorfeydd, a'r arwyddion sydd yn dangos eu presenoldeb
- pwysigrwydd cynnal iechyd a lles pysgod
- rheolyddion cyfreithiol perthnasol ar weinyddu triniaethau
- pwysigrwydd symud stoc marw ac sy'n marw o ddeorfeydd
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli gwaredu marwolaethau a gwastraff
- argyfyngau deorfa a'r gweithdrefnau i'w dilyn os yw argyfwng yn cael ei nodi
- y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion o weithgareddau deorfa
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANAqu18
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermio Pysgod
Cod SOC
9119
Geiriau Allweddol
pysgod; ifanc; deorfa