Paratoi a chynnal wyau pysgod mewn deorfa
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynnal wyau pysgod mewn deorfa bysgod, cyn ac ar ôl iddynt ddeor. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi ac yn cynnal wyau pysgod mewn deorfa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- paratoi'r ddeorfa bysgod i gyflwr sydd yn addas ar gyfer derbyn wyau pysgod
- golchi a diheintio wyau pysgod i baratoi ar gyfer deorfa
- amcangyfrif niferoedd wyau pysgod yn ôl cyfaint
- sefydlu wyau pysgod ar ddwysedd penodol o fewn unedau cadw
- cynnal amodau amgylcheddol o fewn unedau cadw i gynyddu cyfraddau goroesi wyau
- monitro ac adrodd ar dymheredd dŵr yn y ddeorfa
symud wyau pysgod marw o unedau cadw, gan amharu cyn lleied â phosibl ar yr wyau sydd ar ôl
rhoi gwybodaeth i gadw cofnodion o amodau deorfa yn unol â gofynion cyfreithiol ac amodau'r safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â gwaith y ddeorfa bysgod
- gofynion datblygiadol ac amgylcheddol cyfnodau bywyd cynnar y pysgod sydd yn cael eu ffermio
- y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli symud wyau pysgod rhwng ffermydd gwahanol
- pam y mae'n bwysig diheintio wyau pysgod cyn eu sefydlu mewn deorfa
- gweithdrefnau safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch mewn deorfa
- problemau iechyd ac anhwylderau cyffredin sydd yn gysylltiedig â deorfeydd, a'r arwyddion sydd yn nodi eu presenoldeb
- sut i amcangyfrif niferoedd wyau pysgod yn ôl cyfaint
- sut i adnabod wyau pysgod hyfyw
- y term "diwrnodau gradd" a sut mae'n cael ei gyfrifo
- pam y mae'n bwysig symud wyau marw o ddeorfeydd ac amharu cyn lleied â phosibl ar wyau eraill
- gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli gwaredu marwolaethau a gwastraff
- argyfyngau deorfeydd a'r gweithdrefnau i'w dilyn os nodir argyfwng
- y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion amodau deorfa
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
diwrnodau gradd – **dull o gyfrifo cyfradd twf pysgod trwy luosi nifer y diwrnodau gan dymheredd cyfartalog y dŵr mewn graddau Celsius ar gyfer y cyfnod hwnnw o amser e.e 5 diwrnod gyda thymheredd dŵr o 10 gradd = 50 o ddiwrnodau gradd. Mae gan rywogaethau gwahanol o bysgod ofynion "diwrnod gradd" i gyrraedd y cyfnod twf gofynnol