Paratoi a thrin problemau iechyd mewn pysgod
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a thrin problemau iechyd mewn pysgod a helpu i gyflwyno Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) y safle. Gellir ei gymhwyso i unrhyw sefyllfa lle mae pysgod yn cael eu trin i gynnal eu hiechyd a'u cyflwr. Mae'n gofyn bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon yn cynnwys gweinyddu triniaethau mewnol ac allanol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn trin problemau iechyd mewn pysgod sydd yn cael eu ffermio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- adnabod a chyflyru pysgod yn barod ar gyfer gweinyddu triniaethau yn ddiogel
- paratoi triniaethau a chyfarpar i fodloni gofynion penodol, yn unol â Chynllun Iechyd Pysgod y safle
- paratoi cyfleusterau trin i ynysu stoc targed yn effeithiol yn ystod triniaeth, ac osgoi halogi stoc nad ydynt yn rhai targed a'r amgylchedd
- gweinyddu triniaethau i bysgod yn gywir yn unol â chyfarwyddiadau milfeddygol tra'n monitro pysgod yn barhaus am arwyddion o straen
- defnyddio cyfleusterau triniaeth i reoli gweinyddu triniaethau i osgoi halogi stoc eraill a'r amgylchedd (h.y. unedau cadw a chynwysyddion)
- cymryd camau brys, o fewn terfynau eich awdurdod eich hun, mewn ymateb i unrhyw effaith niweidiol a achosir gan driniaethau
- monitro pysgod wedi eu trin i werthuso adferiad ac effeithiolrwydd triniaethau
- darparu gwybodaeth i gynnal cofnodion triniaethau a weinyddir i bysgod yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol wrth drin problemau mewn pysgod
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â thriniaethau a'r rhagofalon a ddefnyddir i'w rheoli
- y ffordd y mae pysgod yn cael eu cyflyru yn barod ar gyfer triniaeth
- y ffordd y caiff asesiadau risg hwsmonaeth eu defnyddio i sicrhau triniaethau llwyddiannus ac i gynnal lles pysgod
- y cyfarpar a'r dulliau a ddefnyddir i drin pysgod
- sut i baratoi'r cyfarpar a ddefnyddir i drin pysgod
- pwysigrwydd paratoi pysgod yn llawn cyn gweinyddu triniaethau
- sut i wybod pan nad yw pysgod wedi eu paratoi yn llawn ac yn barod ar gyfer triniaeth
- pam y mae'n bwysig paratoi triniaeth yn unol â gofynion cyfreithiol
- y ffordd y mae dognau ar gyfer triniaethau yn cael eu cyfrifo
- pam y mae'n bwysig gweinyddu triniaeth yn unol â chyfarwyddiadau milfeddygol a gofynion Cynllun Iechyd Pysgod y safle
- pam y mae'n bwysig rheoli triniaethau i ddiogelu stoc eraill a'r amgylchedd
- pam y mae angen i bysgod sydd yn cael eu trin gael eu hynysu a'u rheoli
- sut i adnabod arwyddion straen yn ystod triniaeth
- y camau brys i'w cymryd mewn ymateb i unrhyw effeithiau niweidiol a achosir gan driniaethau
- diben cyfnodau diddyfnu a sut i gyfrifo cyfnodau diddyfnu
- pam y mae'n bwysig cadw cofnodion cywir o driniaethau a weinyddir i bysgod
- pwysigrwydd monitro a gwerthuso pysgod sydd yn cael eu trin
gweithdrefnau safle ar gyfer gwaredu cemegion a thriniaethau
y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion o driniaethau a weinyddir i bysgod
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cynllun Iechyd Pysgod (FHP) – cyfeirir ato hefyd fel Cynllun Iechyd Milfeddygol (VHP) neu Gynllun Iechyd a Lles Milfeddygol (VHWP)
cyflyru – dileu porthiant
triniaethau – e.e. bath, chwistrelliad, triniaeth mewn porthiant