Monitro iechyd a lles pysgod/cregynbysgod

URN: LANAqu13
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro iechyd a lles unrhyw bysgod neu gregynbysgod wedi'u ffermio. Mae'n ymwneud â gweithredu rhaglenni i fonitro a chynnal iechyd a lles pysgod/cregynbysgod mewn unedau cadw.

Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle ac yn unol â chodau ymarfer y diwydiant.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn monitro iechyd a lles pysgod/cregynbysgod.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol

  2. monitro dwysedd stocio mewn unedau cadw

  3. monitro pysgod/cregynbysgod am unrhyw arwyddion o straen neu anhwylder
  4. monitro pysgod/cregynbysgod am bresenoldeb clefydau neu barasitiaid yn unol â safonau'r diwydiant
  5. symud a chofnodi marwolaethau o unedau cadw gan amharu cyn lleied â phosibl ar y pysgod/cregynbysgod sydd ar ôl
  6. adrodd am unrhyw amrywiadau mewn marwolaethau yn brydlon i'r person priodol
  7. cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch priodol
  8. darparu gwybodaeth i gynnal cofnodion monitro yn unol â'r gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â monitro iechyd a lles pysgod/cregynbysgod
  2. anatomeg pysgod/cregynbysgod iach
  3. y gofynion lles ar gyfer pysgod/cregynbysgod a'r ffordd y caiff y rhain eu cynnal mewn unedau cadw
  4. yr arwyddion sydd yn dangos straen neu anhwylder mewn pysgod/cregynbysgod
  5. pam y mae cofnodion marwolaethau cywir yn hanfodol i reoli fferm bysgod/cregynbysgod
  6. y ffordd y gellir defnyddio amrywiadau mewn marwolaethau i nodi cyflwr stoc fferm
  7. sut i adnabod parasitiaid cyffredin yn cynnwys eu cylchoedd bywyd gwahanol
  8. sut i adnabod clefydau cyffredin
  9. gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch effeithiol
  10. y gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle ar gyfer cynnal cofnodion iechyd a diogelwch pysgod/cregynbysgod

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

dwysedd stocio – ar gyfer pysgod esgyll – cyfanswm pwysau pysgod sydd yn cael eu cadw mewn cyfaint o ddŵr, fel arfer wedi'i fesur mewn kg/m3 neu kg/m2

dwysedd stocio – ar gyfer cregynbysgod – pwysau neu nifer y cregynbysgod mewn cyfaint hysbys o ddŵr


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu13

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pysgod; iechyd; lles; clefydau; parasitiaid