Monitro’r amgylchedd cynhyrchu dyfrol ar gyfer pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol ar gyfer unrhyw bysgod neu gregynbysgod sydd yn cael eu ffermio. Mae'n ymwneud â gweithredu rhaglenni i fonitro a chynnal yr amgylchedd cynhyrchu mewn unedau cadw.
Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle ac yn unol â chodau ymarfer y diwydiant.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn monitro'r amgylchedd cynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- monitro cyflwr unedau cadw
- gwneud gweithdrefnau i gynnal cyfnewid dŵr mewn unedau cadw
gwneud gweithdrefnau i reoli gollyngiadau o unedau cadw
gwneud gweithdrefnau i gynnal lefelau ocsigen mewn unedau cadw
- gweithredu i gyfyngu ar effaith tywydd ac amodau amgylcheddol niweidiol, o fewn cyfyngiadau eich awdurdod
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau rheoli gwastraff y safle
- lle y bo'n briodol, monitro cyflwr mesurau a dyfeisiadau atal plâu ac ysglyfaethwyr, a monitro amgylchedd y fferm am arwyddion o ysglyfaethu a dianc
- adrodd am unrhyw amheuaeth o ddianc ac unrhyw bryderon yn ymwneud â chadw, yn unol â gweithdrefnau'r safle
- monitro ac adrodd ynghylch presenoldeb unrhyw rywogaethau sydd yn niweidiol yn fasnachol
- ymateb i argyfyngau yr amgylchedd cynhyrchu yn unol â gweithdrefnau'r safle
cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch priodol
darparu gwybodaeth i gynnal cofnodion monitro yn unol â'r gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â monitro'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol
- sut i arolygu a phrofi unedau cadw
- yr amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol gan y pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio a'r camau y gellir eu cymryd i gynnal amodau mewn unedau cadw
- pam y mae'n bwysig cynnal amodau amgylcheddol mewn unedau cadw a'r ffordd y gall newidiadau i amodau amgylcheddol effeithio ar bysgod/cregynbysgod
- y cyfarpar a'r dulliau a ddefnyddir i samplu ac asesu amodau amgylcheddol
- y berthynas rhwng tymheredd dŵr ac ocsigen tawdd
- y ffordd y mae deddfwriaeth yn effeithio ar y defnydd o ddŵr a gollyngiadau
- pam y mae'n rhaid gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r safle
- y ffordd y mae dyluniad ac adeiladwaith unedau cadw a chyfarpar trin yn cefnogi cyfyngiant
- achosion posibl stoc yn dianc a'r camau i'w dilyn os oes yw dianc yn cael ei amau neu ei nodi
- plâu ac ysglyfaethwyr cyffredin a'r ffordd y maent yn debygol o effeithio ar stoc fferm
- arwyddion sydd yn gallu dangos gweithgareddau posibl ysglyfaethwyr
- mesurau a dyfeisiadau atal plâu ac ysglyfaethwyr cyfreithiol perthnasol
- mathau o rywogaethau sydd yn niweidiol yn fasnachol, pam y mae angen eu rheoli a'r camau i'w cymryd os amheuir eu presenoldeb
- y ffordd y gall colli pysgod/cregynbysgod effeithio ar yr amgylchedd a chynhyrchiant fferm a'r ffordd y gall goblygiadau cyfreithiol dianc effeithio ar y fferm
- gweithdrefnau brys a pham y mae'n rhaid eu dilyn wrth ymdrin â digwyddiad
- systemau wrth gefn y safle, yn cynnwys pryd a sut cânt eu defnyddio i gynnal amodau amgylcheddol ac ymdrin ag argyfyngau
- gweithdrefnau'r safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch effeithiol
- y gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle ar gyfer cynnal cofnodion monitro'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
unedau cadw – cyfleusterau a ddefnyddir i gadw pysgod neu gregynbysgod mewn amgylchedd cynhyrchu wedi'i reoli e.e. cewyll, llociau, pyllau, tanciau, leiniau hir, rhedfeydd, rhwydi llusern, sanau/tiwbiau, sachau ac ati
plâu – e.e. llau pysgod a pharatsitiaid eraill, malwod, slefrod môr, ewinedd moch, tiwblyngyr calch
ysglyfaethwyr – e.e. morloi, dyfrgwn, mincod, mulfrain, crehyrod, sêr môr, crancod
rhywogaethau sydd yn niweidiol yn fasnachol – rhywogaeth o bysgod neu gregynbysgod, unrhyw rywogaeth arall o anifail neu rywogaeth o blanhigyn sydd, os nad yw'n cael ei reoli, yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar fuddiannau economaidd neu fasnachol ffermwr pysgod neu gregynbysgod, a, lle nad oes llawer, os o gwbl, o werth masnachol i'r rhywogaeth ei hun. Mae hyn yn cynnwys rhywogaethau ymledol nad ydynt yn gynhenid.