Gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio fel mater o drefn ar gyfleusterau dyframaethu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw ac atgyweirio cyfleusterau dyframaethu, a allai gynnwys unedau cadw, systemau ailgylchdroi, ardaloedd gwaith, adeiladau, angorfeydd, slipiau a safleoedd glanio. Mae'n cynnwys defnyddio offer a chyfarpar i gwblhau gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio fel mater o drefn ar y cyfleusterau a ddefnyddir i gefnogi dyframaethu. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfleusterau dyframaethu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol ar gyfer gweithio mewn amgylchedd dyfrol
- monitro cyflwr y cyfleusterau dyframaethu
- nodi ac adrodd pan mae angen cynnal a chadw cyfleusterau fel mater o drefn
- paratoi offer, cyfarpar ac adnoddau er mwyn iddynt fod yn ddiogel i'w defnyddio
- cwblhau gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio fel mater o drefn ar gyfleusterau yn unol â'r gweithdrefnau a'r amserlenni cynnal a chadw a nodwyd, gan amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd
- sicrhau bod gwaith sydd wedi ei gwblhau yn bodloni manylebau'r safle a'i fod yn addas at y diben
- ymdrin ag unrhyw bryderon neu anawsterau a brofwyd yn ystod gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio fel mater o drefn o fewn cyfyngiadau eich awdurdod
- adrodd am unrhyw bryderon neu'r angen am unrhyw waith pellach yn unol â gweithdrefnau'r safle
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau rheoli gwastraff y safle
- darparu gwybodaeth i gynnal cofnodion gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio sydd wedi cael ei gwblhau yn unol â'r gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chynnal a chadw ac atgyweirio cyfleusterau dyframaethu
- pwysigrwydd gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio fel mater o drefn i gyfleusterau dyframaethu
- beth yw amserlen cynnal a chadw a pham y mae'n bwysig
- yr arwyddion sydd yn nodi'r angen am waith cynnal a chadw ac atgyweirio
- pwysigrwydd asesu risg cyn dechrau gwaith
- pam y mae'n bwysig lleihau effaith amgylcheddol yn ystod gweithgareddau cynnal a chadw ac atgyweirio fel mater o drefn
yr anawsterau a allai ddigwydd a sut dylid ymdrin â'r rhain
pwysigrwydd gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau rheoli gwastraff y safle
pwysigrwydd bioddiogelwch
- y cyfarpar, y dulliau a'r arbenigedd a ddefnyddir i gynnal a chadw ac atgyweirio cyfleusterau dyframaethu
- y gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle ar gyfer cynnal cofnodion gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio