Casglu, didoli a storio sil

URN: LANAqu10
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Awst 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu, didoli a storio sil, (diffinnir "sil" fel cregynbysgod ifanc neu had cregynbysgod). Mae'n cynnwys ymdrin â sil cregynbysgod yn ofalus, gan gynyddu goroesiad sil a symud ysglyfaethwyr, llygrwyr a rhywogaethau o gregynbysgod nad ydynt yn cael eu targedu. Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn casglu, yn didoli ac yn storio sil


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud gwaith yn ddiogel yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol

  2. paratoi cyfleusterau a chyfarpar i gynyddu goroesiad sil

  3. adfer, storio a chludo sil mewn ffordd sydd yn cynyddu goroesiad sil
  4. ymdrin a didoli sil mewn ffordd sydd yn lleihau straen a niwed, ac yn cynnal iechyd a lles sil
  5. adnabod a symud ysglyfaethwyr, llygrwyr a rhywogaethau o gregynbysgod nad ydynt yn cael eu targedu oddi wrth sil
  6. storio a chynnal sil mewn amodau sydd yn cynyddu cyfraddau goroesi
  7. arsylwi ac adrodd am arwyddion o straen neu niwed mewn sil sydd yn cael ei storio yn unol â gweithdrefnau'r safle
  8. cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch
  9. darparu gwybodaeth i gynnal cofnodion casglu sil yn unol â'r gofynion cyfreithiol â'r gofynion y safle

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chasglu sil

  2. bregusrwydd y sil â'r gofynion ymdrin sydd yn lleihau straen a niwed

  3. pwysigrwydd symud ysglyfaethwyr, llygrwyr a rhywogaethau o gregynbysgod nad ydynt yn cael eu targedu oddi wrth y sil sydd wedi'i gasglu
  4. sut i adnabod sil rhywogaethau cregynbysgod sydd wedi'a heb eu targedu
  5. sut i adnabod rhywogaethau ysglyfaethwyr a llygrwyr
  6. sut i storio sil cregynbysgod i gynyddu cyfraddau goroesi
  7. gweithdrefnau safle ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch effeithiol

  8. y gofyion cyfreithiol â'r gofynion y safle ar gyfer cadw cofnodion casglu sil


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

sil – cregynbysgod ifanc a had cregynbysgod

rhywogaethau ysglyfaethwyr – e.e. sêr môr, crancod

rhywogaethau llygrwyr – anifeiliaid a phlanhigion sydd yn glynu wrth gregynbysgod, gan gyfyngu ar allu cregynbysgod i weithredu ac effeithio ar eu derbyn i'r farchnad

rhywogaethau o gregynbysgod nad ydynt yn cael eu targedu – rhywogaethau o gregynbysgod nad ydych yn ceisio eu casglu

cwymp sil – pan mae sil cregynbysgod yn llonyddu ar ôl eu cyfnod nofio rhydd planctonig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAqu10

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

cregynbysgod; sil