Monitro a gwerthuso polisïau ar gyfer rheoli anifeiliaid

URN: LANAnC67
Sectorau Busnes (Suites): Technoleg Anifeiliaid,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a gwerthuso polisïau ar gyfer rheoli anifeiliaid.

Bydd angen i chi fonitro amodau allanol, yn cynnwys deddfwriaeth berthnasol, a thechnoleg bresennol a datblygiadau gwybodaeth ac ymarfer diwydiant.  Bydd angen i chi hefyd gael gwybodaeth, ansoddol a meintiol, am weithredu polisi.  Bydd angen i chi werthuso'r wybodaeth yma ac ymdrin ag unrhyw amrywiadau o'r cynlluniau a gweithredu lle bo angen. Gallai amrywiadau o'r cynlluniau fod yn ariannol, ffisegol neu'r defnydd o adnoddau dynol.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny y mae eu gwaith yn monitro ac yn gwerthuso gweithredu polisïau ar gyfer rheoli anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cael data a gwybodaeth ar gyfer gwerthuso'r gwaith o weithredu polisïau rheoli anifeiliaid
  2. monitro amodau allanol yn rheolaidd er mwyn pennu'r effaith y gallent ei gael ar y polisïau ac effeithiolrwydd rheoli anifeiliaid
  3. gweithredu lle mae monitro yn dangos bod amrywiadau o'r polisïau rheoli anifeiliaid
  4. gwerthuso'r systemau rheoli anifeiliaid â’r dulliau sydd ar gael i gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol perthnasol a hybu arfer da
  5. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  6. cymryd y camau sydd yn ofynnol ar gyfer casgliadau'r gwerthusiad
  7. cyfathrebu'r holl newidiadau i'r polisïau ar gyfer rheoli anifeiliaid i'r holl anifeiliaid hynny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y data â’r wybodaeth sydd yn cael eu creu wrth weithredu'r polisïau rheoli anifeiliaid

  2. sut i asesu'r gwahaniaeth rhwng y wybodaeth y mae'r system reoli yn ei chreu ac effeithiolrwydd y polisïau rheoli anifeiliaid

  3. y ffyrdd o gyflwyno data ansoddol a meintiol â’r wybodaeth â’r dulliau sydd o fudd i'r sefydliad neu ar gyfer y gweithgaredd perthnasol
  4. y ffordd y gall newidiadau mewn barn gyhoeddus a gweithgaredd cystadleuwyr, y ddeddfwriaeth berthnasol, gwybodaeth ac ymarfer a thechnoleg bresennol effeithio ar systemau ac arferion rheoli anifeiliaid
  5. y ffordd y gall pwysau cyhoeddus a lobïo effeithio ar y ffordd y mae pobl yn ystyried rheolaeth anifeiliaid, â’r effaith y gallai hyn ei gael ar y sefydliad
  6. y dulliau sydd ar gael ar gyfe rmonitro a gwerthuso amodau allanol
  7. y dulliau sydd ar gael ar gyfer monitro a gwerthuso iechyd a lles anifeiliaid
  8. y camau all fod yn angenrheidiol ar ôl gwerthuso, a sut i benderfynu ar amseru'r gweithredu
  9. yr amrywiadau mewn data a all ddigwydd a sut i asesu pwysigrwydd y rhain
  10. sut i bennu'r camau sydd yn ofynnol pan fydd amrywiad
  11. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer rheoli anifeiliaid a sut i gymhwyso'r rhain i'r sefydliad a rhedeg sefydliadau o'r fath
  12. y cofnodion sydd yn angenrheidiol at ddibenion mewnol, a rheoliadau allanol ar gyfer rheoli anifeiliaid
  13. am ba hyd y dylid storio cofnodion i alluogi sefydliadau i weithredu, ac i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:

  • Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
  • Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
  • Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANAnC69

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Gweithrediadau; , Gofal anifeiliaid, Rheolwr Cyfleuster Anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

anifail; rheolaeth; polisi; gwerthuso; amrywiadau