Pennu’r polisïau ar gyfer rheoli anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phennu polisïau ar gyfer rheoli anifeiliaid.
Mae'n cynnwys gosod amcanion polisi, gan ystyried cyfleoedd a chyfyngiadau fel effaith amgylcheddol, goblygiadau o ran adnoddau ac anghenion grwpiau allweddol â diddordeb. Bydd angen i chi nodi opsiynau ymarferol a hyfyw a datblygu trefniadau ar gyfer adolygu polisi sydd yn ystyried nodweddion anifeiliaid fel mathau a chymysgedd o anifeiliaid neu nifer ac ansawdd yr anifeiliaid. Bydd yn rhaid i chi hefyd gyfathrebu'r polisi cytûn i'r grwpiau allweddol â diddordeb.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny y mae eu gwaith yn gosod ac yn cytuno ar bolisïau ar gyfer rheoli anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu yn glir y diben a fwriedir ar gyfer cadw'r anifeiliaid
- nodi a gwerthuso'r cyfleoedd â’r cyfyngiadau yn ymwneud â rheoli anifeiliaid
- adolygu'r opsiynau polisi sydd ar gael ar gyfer rheoli anifeiliaid er mwyn pennu'r opsiwn dewisol
- pennu opsiwn dewisol sydd yn ymarferol ac yn hyfyw, gan greu'r cydbwysedd gorau rhwng nodweddion yr anifail a dibenion y sefydliad a sicrhau bod lles yr anifail yn cael ei fodloni
- nodi'r trefniadau ar gyfer adolygu polisïau
- cytuno ar bolisïau gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn unol â gofynion eich sefydliad
- cyfathrebu'r polisïau cytûn i grwpiau allweddol â diddordeb
- cwbhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y dibenion a fwriadwyd ar gyfer cadw'r anifeiliaid ac a yw unrhyw un o'r dibenion yn cael blaenoriaeth
natur y cyfleoedd â’r cyfyngiadau amrywiol
- sut i asesu cyfleoedd a chyfyngiadau a sut gallai'r rhain gael eu defnyddio er budd y sefydliad
- sut i werthuso'r cyfleoedd â’r cyfyngiadau i bennu camau gweithredu
- agweddau gwahanol iechyd a lles anifeiliaid a sut maent yn rhyng-gysylltiedig
- sut i hwyluso iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer yr anifeiliad perthnasol
- y ffyrdd y gall cynyddu iechyd a lles fod yn wahanol o un anifail i'r llall
- yr adnoddau sydd ar gael gan y sefydliad er mwyn rhoi'r polisïau ar waith
pennu'r ffactorau â’r rhyng-berthynas fydd yn effeithio ar y polisïau
y rhyng-berthynas rhwng nodweddion gwahanol anifeiliaid
- y resymeg dros adolygu polisïau â’r ffordd orau o gyflawni hyn
- pwysigrwydd cyfathrebu'r polisi/polisïau cytûn i grwpiau â diddordeb
- y ddeddfwriaeth, rheoliadau â’r codau ymddygiad perthnasol sydd yn effeithio ar gadw a rheoli anifeiliaid
- y mathau o wybodaeth a chofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Mae'r ffactorau â’r rhyng-berthnasoedd yn cynnwys:
- effaith amgylcheddol cadw anifeiliaid
- yr ardal gyfagos â’r gymuned ehangach o bobl
fflora a ffawna
goblygiadau cadw anifeiliaid o ran adnoddau
- anghenion grwpiau allweddol â diddordeb, pwy ydynt, eu dilysrwydd a ffynonellau dylanwad
- cyfleoedd a chyfyngiadau allanol yn ymwneud â pholisïau, deddfwriaeth berthnasol, rheoliadau a dynodiadau
- polisïau ac amcanion sefydliadol
- goblygiadau a gofynion lles anifeiliaid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)