Cynllunio a rheoli gwarchodaeth anifeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rheoli gwarchodaeth anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn ymwneud â gallu cynllunio rhaglenni ar gyfer gwarchod anifeiliaid yn eich gofal. Gall hyn fod i ddiogelu rhywogaethau cynhenid neu i warchod rhywogaethau o anifeiliaid sydd mewn perygl a gallai gynnwys ailstocio, adleoli neu raglen ailgyflwyno.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio a rheoli gwarchodaeth anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- cadarnhau bod gofynion perthnasol polisïau ac asesu risg iechyd a diogelwch yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- datblygu cynllun gwarchod anifeiliaid gyda thargedau wedi eu diffinio'n glir sydd yn bodloni anghenion a nodir
- cael a dehongli gwybodaeth sydd yn gysylltiedig â gwarchod anifeiliaid o'r ffynonellau perthnasol
- nodi'r gofynion cyfreithol, moesegol a lles gofynnol ac unrhyw ofynion sydd yn benodol i'r wlad
cyfathrebu'r cynllun gwarchod i bawb fydd yn gysylltiedig â'i weithredu
cadarnhau bod gan bawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r cynllun y sgiliau â’r wybodaeth sydd yn ofynnol i gynnal y gweithgareddau
cadarnhau bod y cyfleusterau, y cyflenwadau, y cyfarpar ac unrhyw adnoddau sydd yn ofynnol, yn cynnwys staffio, ar gael ar gyfer gweithredu'r cynllun gwarchod yn llwyddiannus
rheoli, monitro a gwerthuso'r gwaith o weithredu'r cynllun gwarchod, gan weithredu a gwneud newidiadau i'r cynllun lle bo angen
cynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd, a lles yr anifeiliaid yn ystod y gwaith
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol â’r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
eich cyfrifoldeb yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
y ddeddfwriaeth â’r ymarfer rhyngwladol yn ymwneud â gwarchod a lles rhywogaethau
- sut i ddatblygu cynllun gwarchod yn seiliedig ar yr amcanion â’r adnoddau sydd ar gael
- y berthynas rhwng lles a gwarchod anifeiliaid
- sut i bwyso a mesur costau a buddion cynllun gwarchod o ran lles a gwarchod anifeiliaid
- y gwahaniaethau o ran technegau a llwyddiant trawsleoli, ailgyflwyno, ailstocio ac adsefydlu
- ymddygiad anifeiliaid a gofynion y rhywogaeth yn cynnwys hanes naturiol a hwsmonaeth
- y rhesymau sylfaenol dros warchod h.y. cydbwysedd ecolegol, cyfrifoldeb bodau dynol/anifeiliaid, cysyniad hanesyddol
- canlyniadau methiant gwarchodaeth, o ran lles anifeiliaid, rhaglenni gwarchod a statws gwarchodaeth y rhywogaeth berthnasol
- nodau gwyddonol ac amgylcheddol gwarchodaeth
- y ffordd y gellir adeiladu, sefydlu a rheoli prosiectau gwarchodaeth
- ble a phryd i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol wrth gynllunio a rheoli gwarchodaeth anifeiliaid
- pwysigrwydd briffio a pharhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu'r cynllun gwarchodaeth
- y mathau o broblemau a allai godi a'u heffaith ar y cynllun gwarchodaeth
- pwysigrwydd adolygu a diwygio'r cynllun gwarchodaeth er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni'r amcanion
- ystyr gwarchodaeth foesegol
- diben casglu a chynllunio rhanbarthol a sefydliadol mewn gwarchodaeth anifeiliaid
cyfranogiad casgliadau anifeiliaid wrth gydlynu gwarchodaeth yn fyd-eang
y cofnodion â’r adroddiadau y mae angen eu cadw mewn perthynas â datblygu a rheoli'r cynlluniau iechyd a lles anifeiliaid a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)