Darparu a gwerthuso therapi corfforol anifeiliaid
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu a gwerthuso therapi corfforol anifeiliaid.
Mae’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn cyfyngu’r gweithgareddau y gellir eu gwneud gan y rheiny nad ydynt yn llawfeddygon milfeddygol cymwys. Dylid gwneud yr holl weithgareddau o fewn cyfyngiadau’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol â’r Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon fod wedi cael eu hyfforddi a chadarnhau bod eu hymarfer yn defnyddio data sydd yn gadarn yn wyddonol, safonau a pholisïau trugarog. Mae’n rhaid iddynt weithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’u profiad.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn darparu gwasanaethau therapy corfforol i anifeiliaid y mae pobl eraill yn berchen arnynt, wrth gael eu hatgyfeirio gan lawfeddyg milfeddygol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio yn unol â'r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol, y Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol
- asesu arferion mewn ffordd gadarn i bennu eu haddasrwydd, effeithlonrwydd a goblygiadau lles
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid a deddfwriaeth arall yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- asesu'r ffordd y gallai anghenion anifeiliaid gael eu bodloni tra'u bod o dan eich dyletswydd gofal
- asesu'r risgiau posibl i iechyd a diogelwch wrth ddarparu therapi corfforol i anifeiliaid
- cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal
- asesu addasrwydd yr anifail ar gyfer cynllun y driniaeth therapi corfforol, gan ystyried ei iechyd a'i ymddygiad, ymlaen llaw ac ar ddiwrnod y driniaeth
- cyflwyno'r anifail i'r amgylchedd therapiwtig, y cyfarpar â’r dull o drin
- rhoi dull o drafod a rheoli ar waith sydd yn addas ar gyfer yr anifail cysylltiedig a'i ofynion trin, er mwyn lleihau'r risg i'r anifail, i chi eich hun â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith
addasu trafod a rheoli'r anifail mewn ymateb i'w adweithiau a'i ymddygiad
cwblhau paratoadau sydd yn ofynnol cyn triniaeth cyn y therapi corfforol, gallai hyn gynnwys cael cawod, tynnu dillad neu garthenni'r anifail neu glipio
- darparu triniaeth therapi corfforol i fodloni anghenion yr anifail, ei gyflwr a'i ofynion
- monitro a chofnodi ymateb a chynnydd yr anifail trwy gydol y cynllun trin corfforol
- monitro'r anifail am arwyddion poen, trallod neu fraw ac ymateb yn unol â hynny
- gwybod pryd y gallai cynnydd yr anifail gael ei ddylanwadu gan weithgaredd yn yr amgylchedd uniongyrchol
- gwybod pryd y gallai ymddygiad yr anifail ddangos na ddylech barhau gyda'r gweithgaredd
- cydnabod sefyllfaoedd sydd angen atgyfeirio yn ôl at y llawfeddyg milfeddygol sydd yn atgyfeirio
- cwblhau gweithdrefnau ar ôl triniaeth a sicrhau bod yr anifail mewn cyflwr addas i ddychwelyd at ei berchennog neu geidwad
- gwerthuso ac adolygu addasrwydd y cynllun trin fel sydd yn ofynnol
- sicrhau bod ymateb a chynnydd yr anifail o ran y cynllun trin yn cael ei gyfathrebu i'r perchennog neu'r ceidwad ac i'r llawfeddyg milfeddygol sydd yn atgyfeirio
- rhoi cyngor i'r perchennog neu'r ceidwad am ofal anifeiliaid yn dilyn triniaeth a disgrifio unrhyw weithredoedd y dylid eu gwneud
- cynllunio, cofnodi a gwerthuso eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol â’r Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad) presennol mewn perthynas â'ch rôl a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a sut gellir cyflawni hyn
- y ffordd y gall anghenion anifeiliaid o dan eich dyletswydd gofal gael eu hasesu a'u trin
- anatomeg a ffisioleg y rhywogaeth o anifail yr ydych yn gweithio gydag ef
- effeithiau ffisiolegol y therapi corfforol ar yr anifail
- effeithiau posibl y therapi corfforol ar ymddygiad yr anifail
- pwysigrwydd cyflwyno'r anifail i'r amgylchedd, cyfarpar â’r dull o drin, â’r technegau y gellir eu defnyddio i wneud hyn
- y rhagofalon i'w cymryd i atal anaf, straen neu waethygu cyflyrau presennol yr anifail
- pwysigrwydd cydnabod ymddygiad sydd yn dangos na fyddai'n briodol parhau gyda'r gweithgaredd
- y ffactorau allai achosi trallod, poen neu fraw i'r anifeiliaid a sut i adnabod ac asesu'r arwyddion, ac ymateb posibl yr anifail
sut i adnabod sefyllfaoedd brys â’r camau i'w cymryd i ymdrin â nhw
egwyddorion cymorth cyntaf anifeiliaid â’r protocolau sydd yn berthnasol i ddarparu cymorth cyntaf a thriniaeth frys i anifeiliaid yn eich canolfan therapi
sut i nodi namau neu niwed i'r cyfleusterau, cyflenwadau, cyfarpar neu'r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer triniaethau amrywiol therapi anifeiliaid, â’r camau gofynnol i'w cymryd
- sut i gydnabod eich galluoedd a'ch cyfyngiadau eich hun yn ymwneud â thrafod a rheoli anifeiliaid a sut gellir gwella'r rhain
- y ffordd y gall eich gweithredoedd, gweithredoedd anifeiliaid eraill a gweithredoedd pawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo effeithio ar ymddygiad, lles a chynnydd yr anifail yn ystod therapi corfforol
- sut i weithredu a gwerthuso cynllun trin ar gyfer anifail, gan ystyried cyflyrau meddygol penodol neu ar ôl llawdriniaeth
- pam y mae'n bwysig rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r perchennog neu'r ceidwad am y camau sydd yn cael eu cymryd
- sut i gynghori'r perchennog neu'r ceidwad ynghylch y camau gofynnol i'w cymryd ar ôl triniaeth a phwysigrwydd arsylwi ymddygiad yr anifail
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â darparu a gwerthuso therapi corfforol anifeiliaid a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol fel gweithiwr parabroffesiynol iechyd a lles anifeiliaid a phwysigrwydd diogelwch yswiriant addas
Cwmpas/ystod
Gallai cyngor i'r perchennog gynnwys:
- cyfarpar â’r dulliau trin neu therapi sydd ar gael
- trosolwg o ystod o raglenni a chyfarpar, addasrwydd, meini prawf dethol a buddion cysylltiedig
- paratoadau cyn triniaeth/therapi
- gofal ar ôl y driniaeth/therapi
- goblygiadau cleient mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol yn ymwneud ag anifeiliaid:
- Deddf Llawfeddygon Milfeddygol
- Gorchymyn Milfeddygfeydd (Esemptiad)
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)